Skip to main content

T CEEDDOE CTMEEIG: CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY OYHOEDDEDIG DAN- NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AO UNDEBAU CERDDOROL Y CENEDL Rhif. 119. IONAWR 1, 1871. Pris 2g.—gydcür post, 2%c. AT BIN" GOHEBWYR. -Byddwn ddiolehgarr'os bydd i bob gohebiaeth i'r Cebddob gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw arneutyn yr 20/ed o'r mis, yn syml fel hyn:—Rev. J. Roberts, yron, Carnanon. CÎNNWYSIAD. Cerddoriaeth yn Llundain .. Canmlwyddiant Beethoven .. .. Pencerdd America...... Dr. Ferdinand îîiller ...... Undeb Cerddorol Dirwestwyr Ardudwy Undeb Cerddorol Dirwestwyr Bryri Cyngherddau yn y Drefnewydd Eisteddf od Llanbedr ..... Bwrdd y G-olygydd...... Congl yr Efrydydd Ieuanc Ymofynion Cerddorol Cronicl Cerddorol ...... TÜDAL. CEEDDOEIAETH YN LLUNDAIN. Yn ystod y mis diweddaf, y mae cymdeithasau, corau, a cherddorion Llundain wedi bod ar lawn waith. Di- chon y gellir dweyd nad oes un o'r hen gymdeithasaa yn colli tir, nac yn tori llawer o dir newydd ychwaith. Ond y mae un a gychwynwyd yn lled ddiweddar, dan arweiniad Mr. Joseph Barnby, yn addaw dyfod yn un o'r rhai goreu, mwyaf effeithiol, llafurus, a phoblogaidd. Nid oes neb newydd hynod yn Llundain ar hyn o bryd, fel cantorion, cyfansoddwyr, na chwareuwyr. Y mae amryw o " ser" y maintioli mwyaf wedi myned i'r gor- llewin—nid wedi machludo, ond wedi symud drosodd i wasanaethu pobl dda wyneb arall y byd. Yno 3r mae Nilsson ; a dywedir ei bod yn medi cynhauaf da o glod ac arian. Dealla Adelina Patti mai. y wlad iddi hi am y cynyrch mwyaf o'r naill a'r llall ydyw Rwsia. Y mae Titiens, yr hon sydd yn lleng ynddi ei hun, yn aros yn Lluudain. Y pethau mwyaf dyddorol a gafwyd yn Llundain yr wythnosau diweddaf oedd y pethau canlynol. Y Sacred Harmonic*Societv. Nos Wener, Tach. 25, rhoddodd y Gymdeithas ar- dderchog hon ei chyngherdd gyntaf ani y tymor presenol. Y gwaith a ganwyd oedd Judas, dan arweiniad Syr Michael Costa, yr hwn nid yw yn dangos un arwydd hyd yn hyn ei fod mewn perygl o golli ei le fel prif arwein- ydd y byd. Nid oedd y gymdeithas ychwaith yn rhoddi un arwydd o ddadfeiliad. Gwnaeth y cor ei ran yn ardderchog yn y cydganau ; a chymerwyd yr unodau gan Madam Vansini, Miss Vinta, Madam Patey, Mr. Vernon Rigby, Mr. Montem Smith, a Signor Foli. Nid llawer o gamp oedd ar y ddwy gyntaf y tro hwn. Dichon y byddant yn gwella ac yn dyfod i fwy o ffafr gyda chy- nefindra. Cantata sewtdd Mr. Cowan. Nos Fercher, Tach. 23, rhoddwyd y datganiad cyntaf o Gantata newydd y cyfansoddwr ieuanc Mr. F. H. Cowan, The Maiden Rose. Y mae pedwar o gymeriadau yn y gwaith, sef y Rhos-forwynig, Merch y Garddwr, y Coedwigwr, a'r Gwanwyn; cynrychiolid y rhai hyn gan Mdlle. Titiens, Madam Patey, Mr. Nordblom, a Herr Stockhausen. Cenid y Cydganau gan gor o tua 200 o leisiau, yr hwn a elwir " Cymdeithas Gorawl St. Thomas," ac a ddysgir gan Sig. Randegger, a'r Gerdd- orfa oedd yr eiddo yr Italian Opera; ac arweiniai y cyfansoddwr ei hun. Anhawdd fuasai i un cyfansoddwr ddymuno cael mwy o chwareu teg i'w waith. Canwyd y gantata yn rhagorol, a chafodd dderbyniad tra gwresog. Mr. Cowan yw y cyfansoddwr diweddaf o allu neillduol ag sydd wedi gwneyd ei ymddangosiad yn Llundain; a disgwylir cryn lawer oddiwrtho. Gwaith newydd arall tra rhagorol a ganwyd oedd— Oratorio newtdd Mr. Benedict—" St. Peter." Cyfansoddwyd yr oratorio hon erbyn cylchwyl ddiweddaf Birmingham, a chanwyd hi am y waith gyntaf, dan arweiniad y cyfansoddwr. Erbyn hyn, y mae yr awdwr wedi gwneyd amryw gyfnewidiadau yn y gwaith—wedi gadael allan rai o'r darnau, ac wedi talfyru cryn lawer ac wedi ail ysgrifenu rhai eraill; ac y mae yn debyg ei bod i aros bellach fel y mae. Canwyd hi am y waith gyntaf yn Llundain, nos Pawrth, Rhag. 13, yn neuadd St. Jamei, gan " Gor yr Oratorio" (cor Mr. J. Barnby) dan arweiniad Mr. Benedict, gyda'r un prif gantorion ag yn Birmingham ond un, sef Mdlle. Titiens, Madam Patey, Mr. Sims Reeves, a Mr. Stockhansen yn lle Mr. Santley. Yr un darnau gan mwyaf oedd yn cymeryd yn y datganiad hwn ag yn Birmingham. Yr oedd yr Alawon effeithiol, "I mouru as a dove," a "Gird up thy loins," y rhai a genid mor ardderchog gan Mdlle. Titiens, yn cael uchel gymeradwyaeth. Nid llai effeithiol oedd yr alaw " O thou afflicted "—un o'r pethau goreu yn yr holl waith, gan Madam Patey. Profpdd Mr. Sims Reeves hefyd unwaith yn rhagor ei fod yn bender- fynol na chaiff un awdwr na gwaith cerddorol ddim cam ar ei law ef. Mae yn sicr fod y cydwybodolrwydd hwn yn un o'r pethau sydd yn ei atal mor fynych i ymddangos yn gyhoeddus. Yr oedd ei ddatganiad o'r alawori tyner llawn teimlad, " The Lord is rery pitiful" a "Daughters of Jerusalem", yn llawn cystal a dim a glywyd o'i enau erioed. Yn mysg y rhai mwyaf der- byniol o'r cydganau yr oedd, y gyntaf, *.' They that go down to the sea," " The Lord be a Lamp," " The deep uttereth his voice," a'r bedrawd "0 come let us sing." Cafwyd datganiad rhagorol o'r holl waith; ac yr oedd yn amlwg ar wedd y gynulleidfa eu bod yn ystyried íod ychwanegiad gwerthfawr wedi cael ei wneyd at ystor ein gweithiau cerddorol cysegredig. Y mae argraifiad new-