Skip to main content

T CEEDDOE CYMEEIG: AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; GYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AG UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 118. RHAGFYR 1, 1870. Pris 2g.—gyddr post, 3c. HYSBYSIAD. JVi argreffir o'r Cerddor ond nifer digonol i gyflenwi archebion y Dosbarihwyr. Ni byddwn o hyn allan yn attuog ond i gyflenwi y Gerddoriaeth yn unig fel ol-rifynau. AT EDT GOHEBWYE. Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Ceuddob gael eihanfon i ni, i fod mewn llaw ar neu eyn yr 20/eci o'r mia, yn syml fel hyn:—Bev. J. Rooerts, Fron, Camaruon. Y ÖYIJWYSIAD. TUDAL. Mr. Sims Reevbs .......................................... 89 M. W. Baute ............................................... 90 Undeb Canu Cynulleideaol Dosbath Rhuthyn 90 Y Cronicl Cerddoroi,................................... 91 MR. SIMS REEYES. Y tenor galluocaf ytt y byd, mae yn ddiau, ydyw Mr. Sims Reeves, ac y mae wedi cadw ei safle fel y cyfryw, o leiaf yn yr oratorio, er ys llawer o flynyddoedd. Y mae yn ddyn o faintioli cyffredin, o adeiladwaith cadarn, a'i wallt yn ddu fel y fran ac yn gyrliog, ac o bryd tywyll. Ganwyd ef yn Woolwich, yn y flwyddyn 1821. Yr oedd ei dad yn broffeswr cerddoriaeth ac yn ganwr, a than ofal ei dad y bu efe yn dysgu elfenau cyntaf ei gelfyddyd. Yn gyffelyb i'r enwog Garcia yr henaf—tad Malibran a Pauline Ýiardot a'r enwog athraw Garcia presenol, ymddengys fod tad Sims Reeves yn dasg-feistr lled galed, fel erbyn ei fod yn 14 oed yr oedd yn medru chwareu ar amryw offèrynau, ac yn deall rheolau cyfan- soddiad yn lled dda. Pan yn 14, dewiswyd ef yn organydd ac yu arweinydd cor yr eglwys yn North Cray, yn Kent; ac yn yr oedran ieuanc hwnw, nid yn unig efe a gyflawnodd waith ei swydd yn ganmoladwy, ond efe a gyfansoddodd rai anthemau a phethau eraill ag oeddynt yn dwyn tystiolaeth uchel i'w dalent yn y ffordd hono. Yn y cyfamser hefyd, efe a roddodd ei hun dan addysg Mr. H. Callcott mewn cynghanedd a chyfansoddiant, a chymerai wersi ar y piano gan yr enwog John Cramer; a dysgodd chwareu yn lled dda ar yr oboe, bassoon, violoncello, a'r violin. Yr oedd wedi bod yn canu rai prydiau mewn cyngherddau pan yn fachgen, ac yr oedd ganddo lais soprano hynod o felus; ond pan yn organydd yn North Cray, cafwyd allau fod ganddo lais tra rha- gorol o ran nerth a chylch; a chymerodd wersi gan Mr. Hobbs, Mr. T. Cook, ac eraill mewn caniadaeth. Yn Mehefin', 1839, pan yn 18 oed, efe a wnaeth ei ymddan- gosiad fel canwr yn Newcastle-ar-Tyne, fel bariton yn rhan Rodolpho yn yr opera Sonnambula, ac yn rhan Dandini yn yr opera Cenerentola. Aeth trwy ei waith yn dra llwyddianus, er ei fod ef a'i gyfeillion wedi gwneyd camgymeriad gyda golwg ar gylch ei lais. Cy- merodd daith wedi hyny trwy brif drefydd Iwerddon ac Ysgotland, ac yr oedd son mawr am dano yn mha le bynag yr elai. Tybiai ei gyfeillion ei fod yn ganwr gorphenedig; ond yr oedd efe yn cael ei hun raddau lawer yn îs na'r meddylddrych oedd ganddo am ganwr o'r radd flaenaf. Aeth drosodd i Paris, a rhoddodd ei imn dan addysg rhai o'r prif athrawon yno. Dychwelodd i Loegr, a rhoddodd daith trwý ranau o'r Iwerddon a Phrydain, a derbyniai y ganmoliaeth a'r gymeradwyaeth uchaf yn mhob man. Yr oedd pobl Llundain yn awyddus iawn am sicrhau ei wasanaeth, a gwnaed cynygion tra ffafriol iddo; ond yr oedd eto yn anfoddlon iddo ei hun, ac yn gweled rhyw nod uwch drachefn i'w gyrhaeddyd yn ei gelfyddyd. Penderfynodd fyned i Itali; ac yn Milan efe a osododd ei hun dan addysg yr athraw hyglod Mazzucato. Yn mhen ychydig amser efe a wnaeth ei ymddangosiad yn y Scala, yn nghymer- iad Edgardo, yn yr opera Lucia di Lammermour. Cy- merodd ei safle ar unwaith. Yr oedd pereidd-dra a nerth ei lais, ei dalent ddramayddol, a'i ganiadaeth ddeallgar, yn swyno y Milaniaid. Yr oedd wedi gweithio yn galed, wedi cadw ei nod yn sefydlog o flaen ei lygad, ac yn awr yr oedd yn dechreu derbyn o ffrwyth ei lafur. Arosodd ddwy flynedd yn Milan, a pharhaodd i efrydu gydag egni a dyfalwch mawr. Yn niwedd y flwyddyn 1847, efe a dderbyniodd delerau M. Jullien, ac a ym- gymerodd a chanu yn yr opera am y tymor hwnw yn Drury Lane. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y 6fed o Ragfyr yn rhan Edgardo. Yr oedd y tŷ wedi ei lanw a phobl awyddus am glywed y tenor Seisonig oedd wedi enill y fath enwogrwydd yn Itali. Llanwodd eu disgwyliadau hyd yr eithaf j a boreu dranoeth yr oedd papyrau y brif ddinas yn taenu ei glod dros yr holl wledydd. Yr unig opera arall yr ymddangosodd ynddi y tymor hwn oedd Maid ofHonour gan Balfe. Yn 1848, efe a ymgymerodd a chanu yn Theatre ei Mawrhydi, a phrofodd ei hun yn gystal canwr ag un Italiad ag oedd ar yr esgynlawr. Yn y flwyddyn ganlynol, efe a ym- ddangosodd yn Nghylchwyl Gerddorol Norwich, ac yn y gauaf yn nghyngherddau y Sacred Harmonic Society yn Llundain. Yn y cyngherddau hyn y cymerodd efe ei le fel prif denor yn yr oratorio, a dangosodd ei fod yn Uawn mor alluog i wneyd cyfiawnder a cherddoriaeth. ardderchog Handel a Mendelssohn ag ydoadd i ddeongli