Skip to main content

T CERDDOE CYMBEIG: AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIC DAN NAWDD PRIF CERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Riiif. 114. AWST 1, 1870. Piìis 2g.—gyddr post, Sc. HYSBYSIAD. Ni argreffir o'r Cerddor ond nifer digonol i gyflenwi archebion y üosbarthwyr. Ni byddwn o hyn allan yn alluog ond i gyjlenwi y Gerddoriaeth yn unig fel ol-rifynau. AT El¥ GOHEBWYR. Byddwn ddiolchgar 03 bydd i bob gohebiaeth i'r Cerdüor gael eihanfon i ni, i fod mewn llaw ar neu cyn yr 20fed o'r mis, yn syml fel hyn:—Rev. J. Roberts, Fron, Oamarvon. Y OYNWYSIAD. TUDAL. Beethoven ..,............................................. 57 Y Diweddar James Bennëtt ........................ 59 Cerddoriaeth yn Llundain........................... 59 Mr. Spurgeon ar arweinyddion Canu .. ...... 60 Eisteddfod y Rhos, Mountain Ash, Nadolig, 1869 ..................................„................... 61 Gronicl Cerddorol ,..,........... ......«.............. 62 BEETHOYEN. Pan ddaeth Beethoven i Vienna, yn 1792, er ei fod y pryd hwnw yn 22 oed, ni wyddai ond ychydig am gyng- hanedd, na dim am wrthbwynt. Yr oedd ei ddychymyg yn gryf, a'i glust yn goeth, ac felly efe a gyfansoddai rhag ei ílaen, heb ofalu dim am reolau yr athrawon. Dyna oedd ei sefyllfa pan ddechreuodd astudio dan ofal Haydn ; ac ymddengys mai ychydig iawn o drafferth a gymerodd Haydn i'w osod ar y llwybr gyda golwg ar gynghanedd. Dywcdir fod Beethoven un diwrnod yn dyfod oddiwrth Haydn, a'i ymarferiadau dan ei gesail, pan y cyfarfyddodd a Shenk, gwr ag oedd yn gyfarwydd iawn yn egwyddorion cerddoriaeth. Wrth edrych dros yr ymarferion, gwelai Shenk fod yno lawer o bethau anghywir heb eu marcio gan Haydn. Bu hyn yn fodd- lon iddo oeri tuag at ei athraw; a byddai yn arfer dweyd mewn blynyddoedd dyfodol, iddo fod yn cymeryd gwersi gan Ilaydn, ond na ddysgodd efe ddim erioed ganddo, O hyny allan, am flynyddoedd, Shenk fyddai yn edrych dros ei gyfansoddiadau, hydyn nod pan oedd yn dysgu gwrthbwynt dan Albrechtsberger. Cyfansoddai Wer yn yr adeg hon, a dywedai ei fod yn cael yr hyn a ofynai ani ei gyfansoddiadau; ond ymddengys mai bychan iawn oedd y swm a ofynai. Am tua 10 neu 12 mlynedd, yn y cyngherddau a gynhelid yn nhy y Tywys- og Lichnowsky y byddai pobgwaith o eiddo Beethoven yn cael ei dreio. Yr oedd yno bedrawd addaethyn dra enw- og, sef Schuppanzigh ar y violin, Sina ar yr ail, Weiss ar y viola, Kraft yr henaf a Linke bob yn ail ar y violon- cello; ac i'r rhai hyn y byddai Beethoven yn tywallt allan ei ysbryd. Parhaodd y pedrawd yn mlaen hyd ddiwedd einioes Beethoven ; oherwydd er i Sina a Weiss ymadael o Vienna, daeth yn eu lley chwareuwyr medrus Holz a Kaufmann, Pan yr oedd un o'i bedrodau mwyaf anhawdd i gael ei chwareu o flaen cynulliad detholedig yn 1825, fel hyn yr ysgrifenai efe atynt:— Fy anwyl gyfeillion,—Gyda hwn y mae pob un o honoch yn derbyn yr hyn sydd yn perthyn iddo, ac yn cael ei rwymo, ar yr amod fod i bob un ymrwymo ar ei anrhydedd y bydd iddo wneyd ei oreu i enwogi ei hun âc i chwareu yn well na phob un o'r lleill. Ehaid i'r papyr hwn gael ei arwyddo gan bob un sydd yji myned i gymeryd rhan yn y gwaith." Ac yma y canlyn yr enwau. Tuag at iawn ddeall sefyllfa Beethoven, rhaid i ni geisio cadw mewn eof beth oedd sefyllfa a lle cerddoriaeth ar y cyfandir ar y pryd. Yn myd barddonol y cyfandir, y prif enwau oeddynt Herder, Wieland, Lessing a Göthe. Gweithiau y rhai hyn oedd yn rhedeg ac yn dylanwadu trwy yr holl wledydd. Y cerddorion drachefn oedd J. S. Bach, a'i feibion, Gluck, Mozart, Haydn, a Salieri. Yr oedd gweithiau y rhai hyn wedi dyrchafu cerddor- iaeth yn y fath fodd, ac yn enwedig yn mysg y dosbarth- iadau uchaf, fel yr oedd gwybodaeth o'r egwyddor a medr yn y gelfyddyd yn cael ei ystyried yn mysg y pethau mwyaf angenrheidiol i gymdeithas goeth a deall- gar; ac yr oedd Creation Haydn ac Oratorios Handel yn cael eu mwynhan gyda cberddorfeydd bychain o 150 neu 200 o gerddorion, am fod pobl yn deall ac yn mwynhau y gerddoriaeth ac nid yn mawrygu y swn. Meddwl ac enaid mewn cerddoriaeth oedd yn cael ei fawrygu y pryd hwnw. Yr hyn a geisid oedd bywyd a theimlad cerdd- orol. Ar yr amseroedd hyn y syrthiodd coelbren Beet- hoven. O'r ddaear hon y tyfodd ; yr awyrgylch hon oedd anadl ei fywyd. Ac yn ol yr arwyddion a gan- fyddir ar y Cyfandir ac yn Mrydain yn bresenol, nid oes argoel y gwelir y fath amseroedd yn fuan eto. Rhaid i fwy nag un oes fyned heibio cyn y byddo i effeithiau difa- ol y diluw o gerddoriaeth wael, isel, lygredig ag sydd yn rhedeg dros Éwrop y blynyddoedd hyn gael eu gwrth- weithio. Gyda'r flwyddyn 1800 yr ydys yn edrych ar Beethoven fel yn dechreu ar yr ail gyfnod yn ei fywyd. Yn ei breswylfa haf, yn Hetzendorf, pentref bychan prydferth, yn ymyl gerddi palas brenhinol Schönbrunn, yr ydym • yn ei gael yn 1800 yn cyfansoddi Mynydd yr Olewydd. Treuliodd amryw hafau yn y lle hwnw. Yn 1805, yn yr un lle, y cyfansoddodd efe Fidelio ; a dywedir mai yn nghanol y coed yn mharc Schönbrunn. Ei eisteddle