Skip to main content

CEEDDOR CTMEEIG: AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAH NAWDD PRIF GERDDORION, CORÂU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 112. MEHEFIN 1, 1870. Pkis 2g.—gyddr post, 3c. HYSBYSIAD. 2Tì argreffir o'r Cerddor ond nifer digonol i gyflenwi archebion y Dosbarthwyr. Ni byddwno hyn allanyn alluog ond i gi/flenwi y Gerddoriaeth yn unig fel ol rifynau. AT EDT GOHEBWYE. Byddwn ddiolchgar os bydd i hob gohebiaeth i'r Cepddor gael eihanfon i ni, i fod mewn lìaw ar neu cyn yr 20fed o'r mis, yn syml fel byn:—Rev. J. Roberts, Fron, Carnarvon. Y CYNWYSIAD. TUDAL. Geiriadür y Cerddor..................41 Y Diweddar Barch. W. H. Havergal.........42 Y Presbyteriaid Seisonio ao Offerynau Cerdd 44 BwRDD Y GOLYGYDD....................44 Gramadegiad Llanddewt.................44 Ein Beirniaid Cerddorol ......... ......46 Y Wasg Cerddorol .................... 46 Cronicl Cerddorol—Llundain; Blaenau Ffestin- iog; Aberdar; Marian-glas ; Ystrad-Dyfodicg ; Cystadleuaeth Gwobrwyau Cerddorol; Oratorios Newyddion...... ... ......... ... ... 47 GEmiADÜR Y CERDDOR. Cadenza.—Caden't^a,—Cyfres o nodau addurniadol a roddir gan y cantor, y gantores, neu y chwareuydd ei hun yn ddiragfyfyr, at y cord acenedig diweddaf ond un mewn can neu ddernyn cerddorol. Gwneir hyn, y rhan fynychaf, gan gerddor er mwyn dangos ei lais neu ei fedr, ac nid yn anfynych y bydd y gan neu y gerddor- ìaeth wedi ei cholli yn hollol o'r golwg. Y mae y rhan fwyaf o brif gantorion a chwareuyddion y dyddiau hyn yn ysgrifenu i lawr, yn myfyrio, ac yn ymarfer llawer ar, y brawddegau addurniadol hyn, ac y maent yn llwyddo weithiau i roddi addurn ychwanegol ar y gerddoriaeth. Ond y mae eraili yn astudio pa fodd i droi y pethau hyn o wasanaeth iddynt eu hunain, ac yn edrych allan am ryw tfordd i ddwyn allan rai o nodau uchaf neu isaf eu llais tua'r diwedd, fel y byddo iddynt gael ail-alwad. Y mae rhai cyfansoddwyr yn darparu yr adranau add- Urniadol hyn, sc yn eu hargraffu mewn nodau bychain, a phrin y maent yn foddloa i gantor neu chwareuydd ddatgan dim os na fydd yn argraffedigyn ei gopi. Rhaid i'r Cadema gael ei ganu ar un anadl, a bydd yn terfynu y» gyffredin gyda siglnod maith a gorchestfawr. Tarew- ir y nod cyntaf yn gryf, wedi hyny, cymer y cantor ei ffordd ei hun. Dyma engraifft.fer o'r Cadenza:— Yn argraffedig. ------G .~Z2Z Cenir. ,JÊM ÍẄ, ÍZ=3t= tr. esigHSëggELEg la-l Caesdra..—Sisiw'ra.—Toriad. Rhaniad, neu orphwys- fa mewn llinell farddonol, neu mewn adran gerddorol. Calajsdo.—Gwanhau yn raddol yn y swn, ac arafu yn yr amser; myned yn dynerach ac arafach yn raddol^ Calazione.—Math o guitar. Calcando.—Cyflymu yn yr amser. Calmato. ) Calobe. Calo're.—Yn wresog a bywiog. Caloroso.—Yn wresog. Cambiare. Cambidre.—Newid. Camera. Cdmera.—Ystafell. Musica di Camera, ys- tafell-gerddoriaeth. Voce di Camera, llais i ystafell, ílais heb fod yn gryf. Caminando.—Yn llifeiriol; yn esmwyth a thyner. Campanella.—Cloch fach. Campanellirio.—Cloch fach iawn. Campanology.—Gwybodaeth am glychau ; yn cyn- wys hanes clychau; eu gwneuthurwyr a'u gwneuthuriad; eu pwysau, eu hansoddau, a'u defnyddiad. Canarie. ) Math o ddawns-gerddoriaeth ysgafu, Canaries. \ mewn amser | neu §. Cancrizans.—^Symudiad i'r gwrthwyneb. Canon.—Byddai y Groegiaid gynt, yn enwedig o ddyddiau Ptolemi, yn rhoddi i'r gair Canon yn lled agos yr un ystyr ag a roddir genym ni i"r gair graddýa, neu a roddir yn y Tonic Sol-ffa i'r gair modulator. Rhoddid i i bob cyfrwng enw neillduol yn ol cyfartaledd y cynhyrf- iadau awyrol a'i cynyrchent. Felly, a chymeryd y canon i fod o'r un hyd a llinyn o hyd penodol, dangosid yn mha le i'w dori fel ag i gynyrchu pob sain. Canon.—Cyfansoddiad cerddorol, o ddau neu ychwan- eg o ranau, yn mha un y mae pob llais, neu ran, yn canu yr un seiniaü ar ol eu gilydd. ArgrefRr y canon weithiau ar un erwydd, a rhoddir arwyddnod i ddangos yn ìnha le y bydd y lleisiau dilynol i ddyfod i fewn; brydiau eraill, argreffir y naill dan y llall. Y mae can- onau syml, dyblyg, triphlyg, mwyedig, lleiedig, gwrth- redol, terfynol, annherfynol, yn yr unsain, yn yr wyth- fed, yn y pumed, &c ; a rhoddwn air o eglurhad ac engraifft o bob ua o honynt.