Skip to main content

î CEEDDOE CTMEEIG: AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NÄWDD PRIF GERDDORÎON, CORAU, AC UNDEBÁU CERDDOROL Y CENEDL Rhif. 110. EBRILL 1, 1870. Pjbis 2g.—gydcùr post, 3c. HYSBYSIAD. 2fi argreffir oV Cerddor ond nifer digonol i gyflenwi archebion y Dosbarthwyr. Ni byddwn.o hyn allanyn alluog ond i gyflenwi y Gerddoriaeth yn unig fel ol-rifynau. AT* EHt, GOHEBWYE. Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Ce rddor gael eihanfon i ni, i fod mewn Uaw ar neu cyn yr 2tífed o'r mis, yn syml fel hyn:—Bev. J. Roberts, Fron, Carnarvon. Y CYUWYSIAD. TÜDAL. Yn Llundain—Llythyr Arthur Lìwyd .........25 Lltthyr o Lundain—Y gwahanol Gyngherddau ... 27 Geiriadctr y Cbrddor.......«o .... ... ... 28 Y Was<j Gerddorol ...... ...............28 Gwaith Mr. H. H. Pierson ............ ... 28 BwRDD Y GOLYGTDD................., ... 29 Trysorfa Mr. Joseph Parrt...............29 ElSTEDDFOD PeNRHTNCOCH, ABERTSTWTTH, Na- dolig 1869—Beirniadaeth yr Anthem.........30 Cronicl Cerddorol—Birmingham; Undeb Canu Cynulleidfaol y Methodistiaid yn Árfon; Caernar- fon; Pont Menai; Bethlehem, ger Bangor......31 AmrywIon ....................'. ......31 YN LLUNDAIN. Llythyr Arthür Llwtd. Anwtl Gtfaill.—Nid wyf yn credu y dylwn i beidio ysgrifenu am fod eraill wedi cymeryd fy enw. Yr oeddwn i wedi ysgrifenu llawer yn oes yr " hen Amserau," coffa da am ei enw, cyn fod son am " Arthur Llwyd " yn yr Serald Cymraeg—cjn bod yr Heraldo gwbl o ran hyny, a chyn fod na siw na miw i'w glywed am yr " Arthur Lloyd" sydd yn swyno dosbarth helaeth o'r Llundein- iaid yma a'i ganeuon a'i ddigrifwch. Yr wyf yn meddwl y byddai yn dda i ni efelychu y Saeson yma ychydig yn hyn o bwnc. Y mae ganddynt hwy eu henwau o bob Uiath yn mron yn ddirifedi—Mr. Bara, Mr. Caws, Mr. Äíenyn, Mr. Llaeth, Mr. Dwr, Mr. Gwynt, Mr. Afon, M.r. Ffynon, Mr. Gwyn, Mr. Du, Mr. Gwyrdd, &c. Mae yn wir fod genym ninau ein Mr. Gwyn; ac er fod yn perthyn i ni lawer Mr. Gwyrdd, nid oes neb wedi bod yn ddigon gwrol i gymeryd yr enw arno ei hun ; ac am Mr. I)u, gwarchod ni rhag dyfod yn agos i'w derfynau, oddigerth y bydd ambell un o'r beirdd yn hawliò cyf- ftthrach ag ef. Yn hytrach na myned allan i'r maes mawr, a chymeryd oddiyno bob peth yn ol ein heisiau gwell genym ni chwenych eiddo ein cymydogion, ac ym- wisgo yn enwau y naill y llall. Gwyddoch yn dda mai nid fì yw " Arthur Llwyd " o'r Herald ; ac os bydd rhyw ddadl yn codi o berthynas i'r clod neu yr anghlod, yr wyf fì yn cynyg fod pob clod yn cael ei roi i mi fel perchen cyntaf yr enw, a phob anghlod iddo yntau. Os tybia rhywun fod peth f'el yna yn hunanol, rhaid iddo gofio mai yn Llundain jr wyf. Rhyfeddol fel ymae y lle mawr yma yn myned yn mlaen. Ond rhaid i mi adael y Bheilffyrdd dan y ddinas, y chwyldroad a wnaed yn Nyffryn Holborn, Rhodfeydd Glanau y Tafwys, a myrdd o bethau felly hyd ryw dro eto. "Mewn íle arall" hefyd y rhaid i mi son am Mr Henry Richard yn Nhy y Cyffredin. A wyddoch chwi ?— y mae bod yn Gymro yn rhywbeth i edrych i fyny ato yn Llundain yma erbyn hyn. " Heaven knows," chwedl Mr. Gladstone, y mae wedi bod fel arall yn ddigon hir. Ond llith ar y canu ydyw hon i fod ; rhaid i mi, gan hyny, frysio at y pwnc. Y canu cyntaf a gefais oedd cyngherdd gan " Gymdeithas y Tonic Sol-ffa" yn Neu- add Exeter. Gwyddoch fy mod yn dwyn raawr serch at y gyfundrefn hon; ac yr oedd yn dda genyf gael cyfle i glywed y cor goreu sydd yn perthyn iddi yn y brif ddin- as. Y gerddoriaeth oedd Judas Maccabotus ; yr arwein- ydd'oedd Mr. Gardner; a dywedai yr hysbysiadau fod y gerddorfa yn cynwys 700 o leiswyr ac offerynwyr. Wel, rhaid i mi addef mai siomedigaeth i raddau a gefais yn y cyfarfod hwn. Am y prif gantorion, oddigerth Miss Banks, nid oeddynt ond cyffredin iawn. Anaml, yn wir, mewn cyngherdd, y clywais i ddim yn cael ei ganu yn waelach na'r Ddwyawd " HailJudea," gan Miss Warren a MadamBurrington. Ymae ynNghymruluaws o eneth- od na fyddent ond ychydig o amser yn dyfod i ganu yn well na'r ddwy. Yr oedd yn amlwg fod Mr. Nelson Yarley yn ystyríed ei hun yn ganwr go fawr. Rhoddai arno ei hun yn ddi-arbed, a gwaeddai yn enbyd iawn yn "Sound an alarm." Pe gallai berswadio ei hun i fodd- loni i'r drefn, a gwneyd y goreu o'r galluoedd sydd ganddo, yn lle ymorchestu i geisio dangos fod ganddo allu nad yw yn ei feddiant, gallai ddyfod yn ganwr cymedrol o dda. Yr oedd rhai offerynwyr da yn y gerddorfa; ond gwan a theneu ydoedd y gerddoriaeth. offerynol ar y cyfan. Yr oedd y cor yn canu yn dda. Gwan—rhy wan i gyfateb i'r lleisiau gwrrywaidd—ac ieuainc oedd y soprano ; ac yr oedd eu nodau uchaf weith- iau yn dlawd ac aneffeithiol. Nodais amryw leoedd ag nad oedd yr amser yn hollol sefydlog. Ond yr oedd un peth ag oedd yn fy nharo yn arbenig f'el diffyg yn nghan- iadaeth y cor hwn. Yr oedd ansawdd y lleisiau yn rhy bresaidd. Yr oedd hyn yn taro yn anhyfryd, ac yn cyn- yrchu effaith hollol anghydnaws a nodwedä y geiriau, yn "OFather," "Hail Judea," "We neverwill bowdown;" a "Sing unto God." Yn "We come," "Disdainful of danger," a " See the conquering hero," yr oedd yn fwy goddefadwy am ei fod yn nes i'w le. Hyderaf y cedwir y Solffayddion yn Mrydain rhag y dull presaidd hwn o