Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T CEEDDOE CTMEEIG: AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NÂWDD PRIF GERDDORION, CORÄU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 108. CHWEFROR 1, 1870. Pris 2g.—gydcír post, 3c. HYSBYSIAD. Ni argreffir o'r Cerddor ond nifer digonol i gyflenwi archebion y Dosbarthwyr. Ni byddwn o hyn allan yn alluog ond i gyflenwi y Gerddoriaeth yn unig fel ol-rifynau. AT EDST GOHEBWYE. Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cepddor gael eihanfon i ni, i fod mewn llaw ar nen eyn yr 2Qfed o'r mis, yn syml fel hyn:—Rev. J. Roberts, Fron, Garnarvon. Y ÖYNWYSIAD. TTJDAL. Lltthyr o Lundain—Ygwahanol Gyngherddau ... 9 I. S. Bach ...........................10 Ctfarfod Llentddol Ysbttìy Ifan, Nadolig, 1869—Beirmadaeth yr Anthemau.........' ... 10 Y Wasg Gerddorol.................. ... 11 Y Deltn Gtmraeg .................. ;.. 12 Geiriadur y Cerddor............ ......12 BwRDD Y GOLTGTDD ...... ...............13 Cronicl Cerddorol—PenUwyn, Lhndain, Y Gwyl- iauyny Gweithiau, Victoria, GlynEbwy, Merthyr, Castellnedd, Jredegar, Liperpool, Nebo, Penfro, Bangor, Llanddewi-brefl, Y Brif Athrofa Gerdd- orol Frenhinol, Penrhyn-coch, ger Aberystwyth, Birhenhead, Gendl, Yspytty Ifan............13 LLYTHYE 0 LUNDAIN. Y Ctnghbrddau Nos Sadwrn. Y mae llawer wedi bod yn rhyfeddu, fel fy hunan, pa fodd na byddai cyngherddau poblogaidd yn cael eu rhoddi yn rhywle yn y ddinas fawr hon ar nos Sadyrnau, Mae yn wir fod Mr. Chappell yn rhoddi cyngherdd o gerddoriaeth glasurol yn y prydnawn, yn Neuadd St. lago, a bod cyngherdd yr un pryd yn y Palas Grisial; ond ar "nos Sadwrn" ni fyddai dim i'w gael ond y gerddoriaeth iselaf yn y " Neuaddau Cerddorol." Mae yn sicr fod rhai pobl dda yn teimlo yn wrthwynebel i hyn, oherwydd nad ydynt yn foddlon i ddim nos Sadwrn a fyddo yn tynu y meddwl oddiwrth, neu yn ei anghyf- addasu at waith cysegredig y dydd dranoeth. Y mae teiraladau a chydwybodau y dynion da hyn i'w parchu. Mae yn ddiau eu bod yn gywir, pe bai y byd yn ei le, Ond yr anffawd yw fod y byd yn mhell iawn o'i le; a rhaid ei gymeryd a darparu ar ei gyfer fel y mae, gydag amcan i'w wneyd f'el y dylai fod. Ond yn y fan yna y bydd pobl, yn dda ac yn ddrwg, yn methu cydweled a'u gilydd. Ond erbyn hyn, y mae y oynyg wedi ei wneyd. Y naae cyngherddau nos Sadwrn wedi cael eu cychwyn yn Neuadd Exeter, am Swllt i'r bobl. Cynhaliwyd y gyntaf nos Sadwrn, Ion. 8fed. Gwnaethum beth aberth i fyn- ed yno, er mwyn gweled a barnu y peth newydd hwn o dan haul. Wedi myned yno, cefais bapyr yn cynwys rhestr o waith y cyfarfod hwnw, ac yn mynegu yr am- can oedd mewn golwg. Dy wedai fod y cyngherddau hyn yn cael eu sefydlu er rhoddi cyfieustra i'r miloedd sydd heb ddim i'w wneyd nos Sadwrn i glywed y gerddoriaeth oreu gan y celfyddydwyr rhagoraf. Yn y gyfres gyntaf bydd yr offerynwyr goreu yn Llundain ynghyd a chor Mr. Henry Leslie yn cymeryd rhan. Da iawn, ebe fìnau; a'r cwbl am swllt! Wedi myned i'r neuadd, cefais mai nid addewid ar bapyr yn unig oedd y geiriau ucbod. Yr oedd y bobl a'r offerynau yno; a chynulleidfa fawr yn barod i'w gwrando a'u mwynhau. Yr oedd Miss Agnes Zimmerman yno yn chwareu y piano, a Madam Sinico, Mr. Santley, a Sig. Foli yn canu ; a chanu ar- dderchog a gafwyd. Un peth yn unig oedd yno ag yr oeddwn i yn teimlo gwrthwynebiad iddo, sef darn o ddawns-gerddoriaeth. Nid wyf am ddatgan un farn yn y lle hwn ar ddawnsio; ond yr oedd yn amlwg i mi nad oedd dim yn galw am y darn hwn ; ac nid wyf yn medd- wl mai doethineb fyddai dwyn pethau o'r fath i mewn i'r cyngherddau hyn. Y mae llawer o bobl yn meddwl mai pethau ysgafn, digrifol, a gwagsaw sydd yn boddio y werin ; ond yr oedd yn amlwg i mi fod y werin yn mwynhau y darnau goreu yn y gyngherdd hon, a bod llawer o honynt, o leiaf, yn anghymeradwyo y dernyn ysgafn a nodwyd. Ctngherddau Madam Sainton-Dolby. Rhoddodd y gantores enwog hon ddwy gyngherdd ym- adawol yn Neuadd St. James ar nosweithiau Gwener, Ion. 7 a 14. Mae yn ddrwg iawn genyf ei cholli oddiar yr esgynlawr, a bydd yn golled ddirfawr i gerddoriaeth gysegredig yn Mrydain; ac yn enwedig yn gymaint ag nad oes neb yn y golwg i gymeryd i fyny ei mantell. Ymddengys y bydd yn canu yn iach i'r byd cerddorol yn hollol yn mis Mehefin nesaf. Heblaw hi ei hun, y prif gantorion oeddynt, LMadam Rita, Miss Elena Ángele, Mr. Cummings, Mr. Byron, Mr. Lewis Thomas, a Mr. Maybrick. Yr oedd Miss Bdith Wynne yn analluog i fod yn bresenol oherwydd afiechyd. Chwareuai Miss Agnes Zimmerman ar y piano, a Mr. Sainton ar y crwth, a dilynid y cantorion ar y piano gan Mr. Thouless. Cyngherddau Nos Lun, Y mae y rhai hyn hefyd wedi dechreu; ac y mae Mr. Chappell yn addaw darpariaeth dda y tymor hwn eto. Nos Lun, Ion. 7, ei brif oäerynwyr oedd Madam Davison Goddard ar y piano; a Signor Piatti ar y Violoncello; yn cael eu cynorthwyo gan Herr Strauss, Ýiolin ; Mr. L. Ries, ar yr ail Violin; Mr. Zerbini, ar y Viola; Mr. Lazarus ar y Claririet; a Mr. Santley yn canu. Un o'r gwleddoedd cerddorol goreu yw y gyngherdd hon i bob un sydd yn feddianol ar chwaeth at y pur a'r coethedig.