Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T CEBDDOB CYMEEIG: AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF CERDDORION, CORÂU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 106. RHAGFYR 1, 1869. Pins 2g.—gydoìr post, Bc. HYSBYSIAD. JVí argreffir oV Cebddor ond nifer digonol i gyflenwi archebion y Dosbarthwyr. Ni byddwn o hyn allan yn alluog ond i gyflenwi y Gerddoriaèth yn unig fel ol-rifynau. AT EDT GOHEBWYR. Byddwn ddiolchgar 08 bydd i bob gohebiaeth i'r Cebddor. gael eihanfon i ni, i fod mewn llaw ar neu eyn yr 20fed o'r mis, yn syml fel hyn:—Bev. J. Rdberts, Fron, Carnawon. DRAW AC YMA. Yn yr wythnosau cyntaf yn y mis diweddaf, cawsom fantais- i sylwi ychydig ar sefyllfa cerddoriaeth mewn gwahanol barthau o'r wlad. Cawsom ar ddeall fod ein hen gyfaill llafurus, Mr. E. Roberts, yn parhau i ìafurio, gyda mesur da o lwydd- iant, yn Liverpool; ond y mae sefyllfa cerddoriaeth yn mysg y Cymry yn y dref fawr hono yn mhell o'r hyn y byddai yn ddymunol ei fod. Tn Manchester, cawsom gyfarfod canu cynulleidfaol Ued lewyrchus yn addoldy y Methodistiaid Calfinaidd yn Grosvenor Square, nos Fercher, Tach. 3. Y mae y cyfeillion yn y dref hono wedi mabwysiadu y cynllun da, effeithiol, o ganu yr Hymn drosti, heb roddi y pen- illion allan bob yn ddwy linell. Ar ol cael prawf o.hono, y mae pawb yn lled gyífredinol yn dyfod yn hoff o hono, ac ni fynent er dim gael yr hen drefn yn ol. Canwyd amryw o Donau felly yn y cyfarfod, a chanwyd rhai o honynt yn dra dymunol. Yn ystod y cyfarfod hefyd canwyd Psalm xxiii, ar Don syml o waith Tallis. Gydag ychydig o ymarferiad, deuai y cynulleidfaoedd Cymreig yn y lle hwn i ganu Psalmau yn y dull hwn yn drefnus ac effeithiol. Hyderwn y byddant yn teimlo cyn hir eu bod yn ddigon addfed i ddwyn caniadaeth syml o'r fath yma i arí'eriad yn y cynulleidfaoedd. Ymddengys i ni hefyd, erbyn y bydd yr addoldy newydd yn barod yn y Square, y bydd y teimlad wedi addfedu fel y gellir gosod organ fechan ynddo heb dramgwyddo un brawd gwan. Mae yn wir y ceir rhai yn dadleu, byth a hefyd, yn er- byn pob ymgais a wneir i ddwyn caniadaeth y cysegr i well trefn, gan waeddi mai Pabyddiaethyw y peth hwn, ac mai Defodaeth yw y llall. Ond byddai yn dda i'r cyf- eillion hyny ystyried yn ddifrifol mai eu gwajth hwy yn parhau i osod cymaint o bwys ar bethan bychain sydd yn galw sylw, ac yn ei gadw i fesur helaeth ar bethau bychain. Heblaw y llafur sydd yma gyda chaniadaeth gynulleidfaol, dan arweiniad Mr. R. Ellis, a'r gefnogaeth galonog a gwresog a roddir iddo gan y gweinidog, y Parch. W. James, B. A., aphobl barchusaf y gynulleidfa, y mae ýma fesur o lafur gyda'r plant ar bobl ieuainc, dan ofal Mr. J. S. Williams. Deallasom fod y cerddor Cym- reig talentog Mr. John Lloydyn cynal dosbarth Sol-ffa yn y lle bob nos Wener. Hyderwn fod pobl ieuainc y dref yn gweled gwerth y fantais hon, ac yn gwneyd y defnydd goreuohoni. Nid cerddor cyffredin yw Mr. JohnLloyd. Y mae dinas Manchester yn ei adnabod £\c yn ei gyd- nabod; a da y gwnai holl lanciau a genethod Cymreig y lle roddi eu hun dan ei addysg. Nos Lmn, cawsom wahoddiad i weled a chlywed y Manchester Soì-fa Choral Union dan ei arweiniad ; ac ymddengys i ni fod hwn yn un o'r corau gorau yn y ddinas. Nid anfuddiol fyddai gosod yma restr o'r darnau a ganwyd yn eu cyngherdd ar y I8fed o Hydref. Byddai yn dda iawn i gorau ereill eu hefelychu o ran purdeb eu chwaeth. Dyma y darn- au:—Morning Prayer (Mendelssohn). As pants the hart (Spohr). Morning Prayer (Costa). Go in peace (Costa). Psalm 95 (Mendelssohn). 01 d May Morning (Novello). The Captive Greek Girl (Hobbs). Early Spring (Men- delssohn), Autumn Song (Mendelssohrì). Should he up- braid (Bishop). Hunting Song (Benedict). Hunter's Farewell (Mendelssohn). Nature's Praise (Smart). Na- tional Anthem. Y mae yn lles i lygaid un edrych ar brogram o'r fath yma, yn lle y pethau ffolion, gwagsaw a genir yn rhy fynych o lawer mewn cyngherddau yn Nghymru. Deallasom fod Mr. J. Davies yn parhau i lafurio yn bwyllog a chyson yn Salford, a bod ol y llafur yn amlwg ar ganiadaeth grefyddol yn y lle. Nos Iau, Tach. i, yr oedd un o gyngherddau Mr. Charles Halle yn y Free Trade Hall. Yr oedd tri pheth yn peru ein bod yn dra awyddus am fyned yno. Y cynt- af, a'r penaf ydoedd, mai Miss Edith Wynne oedd y brif gantores, ac nad oeddym wedi cael cyfleustra i'w gwrando er ys cryn amser bellach. Y pethau ereill oeddynt, fod band Mr. Halle yn un tra rhagorol, a bod ei gydgan yn gynwysedig o bigion cantorion Manchester. Yno yr aethom. Yr Oratorio oedd Samson—hen Oratorio ag y buasem yn canu ynddi lawer gwaith, ac y cawsem gyf- leustra i glywed holl brif gantorion Ewrop yn canu ei phrif alawon yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Yr oedd y neuadd fawr yn lled lawn, ond nid yn hollol felly. Y prif gantorion, heblaw Miss Wynne, oeddynt Madam Sainton-Dolby, Mrs. Brookes, Mr. Cummings, a Mr. Lewis Thomas. Yr oeddym wedi colli y " Return " gan Madam Dolby, ond y mae adgofío honi yn aros yn new- ydd ar ein cof er pan y clywsom hi gyntaf, tua 15 mlyn- edd yn ol. Y mae y gantores hon yn un o'r rhai mwyaf cydwybodol, gofalus, chwaethus, a deallgar. Yr ydych yn cael y peth—nid rhywbeth, ond y meddwl, heb ry nac eisiau, yn ei naws a'i ysbryd ei hun. Trueni fód ei llais ardderchog yn treulio allan. Darllenai Mr. Cum- mings gyda chywirdeb a gofal; ond y mae yn rhy oer i ni. Yr oedd llais Mr. Lewis Thomas wedi ei niweidio gan anwyd, ac felly yr oedd braidd yn fwy cwrs na chy- ffredin. Ond yr oedd Miss Wynne yn ei hwyliau goreu.