Skip to main content

T CEMDOE CIMREIG: AT WASAMETH CERDDORIAETH M MYSG CENEDL Y CYMRY; GYHOEDDEDIO DAN NAWDD PRIF CERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y CENEDL. Rhif. 104. HYPREF 1, 1869. Pris 2g.—gydcCr post, 3e. HYSBYSIAD. ffî argreffir o'r Cerdì u ond nìfer digonol i gyflenwi urchebion y Dosbarthwyr. Ni byddwn o hyn allan yn alluog ond i gyflenwi y Gerddoriaeth yn unig fel ol-rifynaü. AT EDT GrOHEBWYE. Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddob. gael eihanfon i ni, i fod mewn llaw ar neu cyn yr 20fed o'r mis, yn syml fel hyn:—Rev. J. Robérts, Fron, Garnarvon. Y COR A'I ABSENOLION. Y mae pwy bynag sydd wedi cael ychydig o broflad o'. byd hwn wedi deall mai " dyfal-barhad yw y ffordd i lwyddiant." Ehodder i ni y dyn ienanc diwyd, dyfal, a di-esgeulus; ac er nad yw yn cael ei gyfrif yn un cyflym na hyn'od o dalentog, eto anturiwn ddweyd y gwna efe fwy o waith da yn y byd yn ei amser na'i gymydog a ganmolir fel llanc o dalent, ond a adwaenir fel un hynod o ddiog, flitiog, a diofal. Trwy gysondeb a dyfalwch yr eniilodd y falwoden y rhedegfa ar yr ysgyfarnog. Mae yr un peth yn wirionedd yn mhob cyìch mewn bywyd. " Llaw y diwyd a gyfoethoga," ebai y gwr doeth er ys tair mil o flynyddoedd yn ol; ac adseinir yr un peth trwy holl oesoedd amser. Y mae hyn yn wirionedd mewn modd arbenig gyda golwg ar lwyddiant mewn cerddoriaeth, yn bersonol ac yn gorawl, neu gymdeithasol. Gall y dyn ieuanc fod yn feddianol ar fesur helaeth o lais a dawn. Dichon ei fod ef ei hun, ei berthynasau, a'i gyfeillion, wedi dyfod i'r penderfyniad fod ganddo gyflawnder digonol o'r pethau hyn i'w alluogi i fod yn ganwr o enwogrwydd ; a dichon ei fod yn dytnuno yn fawr weled ei hun yn mysg y cyf- ryw. Ar ol hysbysu y dymuniad i rai sydd wedi cyr- haeddyd graddau o enwogrwydd, rhaid i'r rhai hyny fynegu iddo ar unwaith nadoes un ffordd i fyny i binacl enwogrwydd ond ffordd llafur—fod yn rhaid ymroddi ati i lafurio ac ymarfer yn ddi-arbed. Y mae yntau yn angerdd ei ddymuniad, yn penderfynu ymgymeryd a'r telerau ; ond bychan a ystyria pa beth sydd yn gynwys- edig yn yr ymrwymiad. Y mae yn dechreu ar ei wersi gydag awch; ond cyn pen yr wythnos, y mae curiad ei ẁaed yn arafu. Cyn diwedd yr ail wythnos, y raae wedi colli mwy nag un wers. Yn y boreu, y mae yn ymdroi am oriau yn ei wely, yn yr hwyr y mae yn ymddifyra gyda chwmniaeth wag y bibell, y gwpan feddwol, y cornic songs, y dawnsio, yn lle ymdrechu i feistroli ei wersi a toyned trwy ei ymarferiadau. Oddigerth i ryw dro büan ac effeithiol ddyfod ar y gwr ieuanc yna, gellir ysgrifenu uwch ei ben, pa beth bynag yw ei dalent—" Ni ragori di." Carem yn fawr argymhell a gwasgu yr hen wirionedd amlwg hwn ar feddwl pob un sydd yn ewyllysio bod yn aelod o gor cerddorol. Y mae diffyg ystyriaeth o hono yn anafu, yn llwyr ddifa nerth, ac yn ysu cryfder ac effeithiolrwydd llawer o gorau y dyddiau hyn. Cych- wynasant gyda gradd helaeth o ymdrech a llafur. Tra yn llafurio felly, addawent ddyfod yn gorau da ; a phe buasent yn parhau i lafurio, buasent yn cyflawni y cwbl a addawsid ganddynt, ac a ddysgwylid oddiwrthynt. Ond llosgodd eu sel allan fel ffagl o wellt. Diflanodd eu nerth. Erbyn hyn, yn lle y íflam fywiog, rymus, dan- baid »ydd yn bywiocau ac yn gwresogi pob peth o'i hamgylch, nid oes yno ond y pentwr du, marwaidd, ac anghysurus. Yr ydym wedi crybwyllfwy nag unwaith na dwywaith am yr angenrheidrwydd anhebgorol sydd i bob Cor fod yn dra gofalus i nodi presenoldeb ac absenoldeb pob un o'r aelodau, ac arfer pob moddion tuag at gael pob un i ddyfod i'r cyfarfodydd gyda chysondeb. Yr ydym yn gwneyd hyn dro ar ol tro am ein bod yn awyddus am weled ein corau yn dyfod rhagddynt, a hefyd am ein bod yn gwybod fod llwyddiant yn amhosibl heb hyny. Nid oes dim a all ddifa cor yn fwy na gwaith ei aelodau yn absen- oli eu hunain yn fynych, ac yn peidio dyfod i'r cyfarí'od yn brydlon. Trwy hyn, y mae llawer iawn o amser yn cael ei dreulio yn ofer, y mae llafur yr athraw yn myned am ddim, ac y mae sel ac yni yr holl gor yn cael eu drygu trwy ddylanwad difaol y rhai sydd yn esgeuluso. Mor fawr yw y niwed a wneir gan y tylwyth yma, fel y dy- wedwn ar unwaith ac yn ddibryder, os na ellir cael rhyw foddion effeithiol i'w diwygio—i'w cael i ddyfod i'r cyf- arfodydd gyda chysondeb ac yn brydlawn, gwell ydyw eu tori allan. Gwell, a llawer iawn gwell, ydyw tori i ffordd un aelod drwg, nag i holl gorph y cor gael ei lygru a'i anafu trwy ei ddylanwad. Ie, pa beth bynag yw gallu cerddorol a thalent yr aelod hwnw, gwell yw ei dori allan. Mewn cymdeithasau bychain ac aneffeith- iol yn Lloegr (a gwyddom fod mesur o hyn i'w gael mewn rhai manau yn Nghymru) y mae rhai cantorion, os byddant wedi bod yn canu ar eu pen eu hunain, ac yn enwedig os byddant wedi cael cymeradwyaeth plantos gweigion o'u bath eu hunain, yn teimlo y gallant hwy beidio mynychu y cyfarfodydd—eu bod hwy yn ddigon o gerddorion i ddarìlen pob peth ar yr olwg gyntaf, ac nad oes gan yr arweinydd, na neb arall yn y Cor, ddim i ddangos iddynt hwy. Os digwydd i rai o'r rhai hyn ddyfod i gysylltiad a Chor, ac os na ellir eu darbwyllo i gymeryd eu He fel aelodau, i symud a gweithredu yn mhob dim gyda'r Cor, y ffordd oreu ydyw i'r Cor eu taflu oddi wrtho. Y maent yn sicr o wneyd mwy o ddrwg nag o dda, a bydd hyny i'w ganfod yn ddigon amlwg cyn hir. Lle byddo canwr yn ewyllysio bod mewn cysylltiad a Chor, ac eto yn anfoddlawn i bresenoli ei hun yn holl gyfarfodydd y Cor tuag at ymarfer, gellir bod yn Ued