Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T CEEDDOE CTMEEIG: %UtfíraÖ)îl PÌS0Í AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIÛ DAN NAWDD PRIF GERDDORION, GORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y OENEDL Rhif. 103. MEDI 1, 1869. Pris 2g.—gydcCr post, 3c. AT Eltf GOHEBWYE. Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cepddoh gael eihanfon i ni, i fod mewn llaw ar neu cyn yr 20fed o'r mis, yn syml fel hyn:—Rev. J. Bolerts, Fron, Garnaroon. HYSBYSIAD. Ni argreffir o'r Cerddor ond nifer digonol i gyflenwi archebion y Dosbarthwyr. Ni byddwn o hyn allan yn alluog ond i gyflenwi y Gerddoriaeth yn unig fel ol-rifynau. CYLCHWYLIAU CERDDOROL CYMRU. Dichon mai ychydig, mewn cymhariaeth, yw nifer y rhai sydd yn ymwneyd a cherddoriaeth oherwydd y gwerth a'r teilyngdod sydd ynddi hi ei hun. Diau fod cymhellion ereilî yn cynhyrfu llawer o gantorion a cherddorion, yn gystaí a'r rhai sydd yn ymwneyd a gor- chwylion neu geífyddydau ereill. Un o'r cymhellion hyny yw enill c/od, neu ganmoliaeth. Er y gallem dyb- ied neu ddychymygu am gymhelliad is na hwn, eto nid ym yn barod i gredu fod neb yn ein gwlad ni yn canu oddiar unrhyw gymhelliad gwaelach. Yr ydym yn rhydd i ddweyd yn ddibetrus mai un o'r cymhellion gwaelafyw hwn. Y mae canmoliaeth yn beth cyfreithloa ; ac y mae iddo ei le a'i ddylanwad: ond y mae fod neb yn gwneyd dim gvda'r amcan o gael ei weled a'i glodfori gan ereill yn dangos mai un gwael ac isel ydyw, acyn gadael dylan- wad darostyngiadol arno. Y mae o'r anifailyn'anifeilaidd, a dweyd y lleiaf am dano. Yn nesaf at y cymhelliad hwn, ac un radd í'echan, ar ryw gyfrif, yn uwch nag ef, y mae enill arian. Y mae yn ddyledswydd ar bob dyn ofalu am ei amgylchiadau. Greddfyn mhob anifail ydyw amddiffyn ei fywyd ei hun, a diogelu a meithrin bywyd ei rai bychain ; ac os na fydd dyn yn ymdrechu gwneyd yr un peth, y mae islaw yr anifail direswm. Ond, er ei fod yn llafurio yn egniol a llwyddianus i wneyd hyny, os nad oes ganddo un amcan uwch mewn golwg, nid ydyw ond ar yr un lefel a'r anifail. Daearol o'r fath fwyaf daearol yw enill arian er mwyn enill arian; ac nid yw enill arian er mwyn byw a chadw teulu yn ymgodi un radd yn uwch na'r anifeilaidd. Ac eto, y mae yn syndod gymaint o ddynion sydd yn ymdroi yn barhaus gyda'r cymhellion gwaelion hyn. Yr anhawsder i godi dynion o'r tir isel hwn ydyw un achos mawr fod cerddoriaeth mor isel yn Nghymru; a thrwy fod lliaws yn ymarfer a hi hab fod ganddynt un amcan uwch na'r naill neu y llall o'r pethau a nodwyd, nid yw yn rhyfedd fod dylanwad iachusol, coethus, a dyrchafiadol cerddoriaeth mor egwan ar gymeriad ein cenedl. Y mae yn effeithio ar y naill law i gadw y chwaeth yn isel a'r canu yn dlawd, ac ar y Uaw arall i anghy- mwyso y rhai sydd yn canu i deimlo y nerth a'r dylanwad sydd mewn cerddoriaeth dda. Y mae cylchwyliau mawrion cerddorol ein cenedl am y flwyddyn hon wedi myned heibio. Cymerodd yr Undeb ieuangaf, sef Undeb Ardudwy, y flaenoriaeth ; daeth yr ail, sef Undeb Eryri, yn ail; a'r henaf, sef Undeb Gwent a Morganwg, yn olaf. Cafwyd llawer o ganu da yn mhob un o honynt; a dichon, ar y cyfan, fod yr Undeb ieuangaf yn arwyddo mwy o fywyd a llafur y flwyddyn hon nag un o'r lleill. Nid ydym wrth ddweyd hyny yn dweyd eu bod yn canu yn well. Yr ydym yn teimlo angenrheid- rwydd i wneyd y nodiad hwn wrth fyned heibio, oher- wydd y duedd sydd mewn darllenwyr a meddylwyr ar- wynebol i gymeryd beirniadaeth a chanmoliaeth mewn lliw anghywir. Dywedodd beirniad yn ddiweddar, ar ol gwrando Cor yn Nghymru yn canu, ei fod wedi cael ei daro a syndod—nad oedd wedi clywed un Cor yn Llun- dain yn cymeryd i fyny feddwl ac ysbryd y dernyn yn well. Camgymerodd lliaws o'r Cor y ganmoliaeth hon, ac aethant o amgylch gan ddweyd fod y beirniad—a hwnw yn feirniad mewn gwirionedd, wedi datgan fod eu Cor hwy wedi canu yn well nag un o Gorau Llundain. Iìhaid addef fod y ganmoliaeth yn uchel; yr oedd y beirn- iad yn meddwl i'r ganmoliaeth fod yn ucbel, oherwydd fod y Cor yn teilyngu hyny ; ond pe buasai yn myned i gymharu y datganiad, yn ei holl fanylion, a'r eiddo un o Gorau goreu Llundain, o ran cywirdeb amser, priodol- deb acen a phwyslais, cyfaddasder tonyddiaeth, coethder chwaeth, manylrwydd a phrydferthwch lliwiad, a pher- ffeithrwydd gorpheniad yn yr holl ddatganiad, ni allasai weled ond ychydig o gymhariaeth rhyngddynt. Mewn rhai o'r pethau a nodwyd, mae yn ddiau fod hen Un- deb Gwent a Morganwg yn mhell o flaen yr Undebau ereill; a hyderwn yn fawr er fod yr Undeb hwn yn hen, nad ydyw eto yn oedranus nac yn agos i ddiflanu. Ond y mae tir lawer iawn gan bob un o'r Undebau, a chan Gorau Cymru yn gyffredinol, eto i'w feddianu. Nis gellir, ac ni ddylid, disgwyl i Gorau Cymru fynyddig ddyfod i fyny a Chorau goreu Llundain ar hyn o bryd, obìegyd eu bod yn llafurio dan anfanteision dirfawr gyda golwg ar addysg ac ymarferiad. Y mae talent o radd uchel yn ein gwlad; y mae lleisiau bas a thenor yn y Gogledd, a lleisiau soprano yn y Deheudir, ag y byddai Syr Michael Costa, Mr. Henry Leslie, a Mr. Proudman yn falch o'u cael yn Llundain ; ond nid yw yr addysg a'r "drill" a gawsant ond ychydig mewn cymhariaeth. Ceir yma y fetel o'r iawn ryw ; ond ychydig iawn o drin- iaeth sydd wedi bod arni. Ar yr Un pryd, a chaniatau ar gyfer yr anfanteision yr ydym yn îlafurio danynt, yr ydym yn credu yn hollol y gallai, ac y dylai, ein cerdd- oriaeth fod yn llawer iawn gwell. Y mae diffyg Pw}'Sig acandwyol yn ein cymhellion. Ychydig, mewn cymhar- iaeth, yw ein brwdfrydedd ; a rhaid cael rhywbeth cryf- ach na gweled a chael ein gweled—