Skip to main content

Y CEEDDOR CYMEEIG: AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIC DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y CENEOL Rhif. 99. MAI 1, 1869. Pris 2g.—gyda'r post, Bc. HTSBYSIAD. Ni argreffir o'r Cerddor, ond nifer digonol i gyflenwi archebion y Dosbarthwyr. Ni byddwn o hyn allan yn alluog ondigyflenwiy Gerddoriaeth yn unig fel olrifynau. AT EIW GOHEBWYE. Àm y chwe mis dyfodol, tra byddo y Goìygydd ar ymwel- tad a,'i gydgenedl yn Amerìca, anfoner pob Gohebiaeth i ofaly Cyhoeddwyr, erbyn y 18 fed o'r mis. LLYTHYR 0 LLUNDAIN. Anwyl Gyfaill,—Yn ol fy addewid dyma fi yn anfon i chwi ychydig o hanes yr arlwyon cerddorol a fwynhëais yr wythnosau diweddaf yn y brifddinas. Yma chwi a wyddoch y maey "goleuadau mawrion" sydd yn llyw- odraethu dydd a nos cerddoriaeth fel pobpeth arall. A buasai yn dda iawn genyf pe buasai amgylchiadau yn caniatau i mi ymddedwyddu yn amlach yn eu llewyrch ; a byddaf yn arfer meddwl hefyd nad oes dim a wnai gymaint o les i'n corau Cymreíg yn y Dywysogaeth a phe rhoddent y treat i'w harweinwyr o ddyfod i fyny yma ar adegau y byddo yn gyfleus iddynt gael clywed y prif gorau a'r prif gantorion a chantoresau yn myned trwy eu gorchestion. Cyngherdd Y Gtmdeithas Gorawl Genedlaethol. Y gyngherdd gyntaf oedd yn gyfleus i mi allu ei mwyh- hau ar ol fy nyfodiad oedd eiddo y Gymdeithas Gorawl Genedlaethol, dan arweiniad Mr. Martin! Nos Fawrth 20fed o Ebrill. Yn ol yr hysbysiadau a'r parotoadau disgwylid iddi fod yn un o brif addurniadau y tymhor. Ond yn anfortunus, gellid tybied fod yr holl dynghed- fenau wedi ymgyngreirio yn erbyn ei llwyddiant. Yn gyntaf oll, nid yw Mr. Sims Reeves yn gwneyd ei ym- ddangosiad; ond yn y gobaith y gallesid ei ddisgwyl cyn diwedd y gyngherdd newidiwyd ychydig ar y pro- gram, cymerwyd y Walpurgis Nacht yn gyntaf, yn lle Lobgesang. Ond cyn ein bod yn barod am yr olaf dyma delegram oddiwrth y tenor mawr yn sicrhau ein siomed- igaeth, trwy ein hysbysu nas gallai Mr. Reeves ganu gan afiechyd, erbyn hyn i " ddyrysu y dyryswch" nid oedd Mr. Lander y bass jn bresenol yn gymaint a'i fod heb ddeall am y cyfnewidiad. Mewn cánlyniad nid oedd ditn i'w wneyd ond i'r lleisiau bas yn y cor gymeryd y darnau i fyny a myned trwyddynt oreu y gallent, a rhaid dyweyd nad boddhaol iawn i'r gwran- dawyr fu y job hon. Canodd Miss Arabella Smytli y Soprano yn y Lobgesang yn bur dda. Nid mor foddhaol yr aeth Mr. R. Mason trwy ei ran fel tenor. Purion peth, ar ryw gyfrif yw bod amgylchiadau yn gorfodi y Llundeiniaid yma i gynal ambell gyngherdd heb y prif gantorion. CYNGHERDD Mk. BARNBY. Nos Ferchér"drachefn, yr oedd Mr. Barnbyyn myned trwy y " Greadigaeth " yn St. James's Hall, lle yr oedd Mdme. Lemmens-Sherrington, Mr. Sims Reeves, Mr. Montem Smith a Mr. Lewis Thomas yn gwasanaethu fel prif leiswyr. Cawsom ar ddeall yma, pe bae rhywrai heb ddeall hefyd, pa mor fawr yr addolir Mr. Sims Reeves, oherwydd pan wnaeth ei ymddangosiad i ganu And the heavenly host, y recit sydd o flaen y gydgan Awahe the harp, yr oedd y Uawenydd a'r curo yn l'awr iawn. Canodd yr unawd ardderchog, " In native worth " yn ei hwyl oreu; ac yr oedd ei ddadganiad o'r unodau eraill yn brawf adnewyddol mai efe piai ymerodraeth y rhan hon. Prif ragoriaeth y cydganau oedd y mynegiant da gyda pha un y dadgenid hwynt. Yr oedd y cor wedi ei ddisgyblu yn dda yn y cryf a'r gwan; y tyner a'r nerthol, &c. Yn hyn onide, y mae llawer o gorau Cymry fwyaf ar ol? Cyngherdd Mr. Henry Leslie. Nos Iau, drachefn, yr oe<?d gwledd yn fy aros o baro- toad Mr. Henry Leslie. Yma y dygwyd allan gyntaf ran-gan fechan dlos, yr hon fel amryw yn barod o ddarn- au corawl Mr. Leslie, sydd yn debyg o ddyfod yn bobl- ogaidd yn Lloegr. Ond yr hyn a'm dawr i fel Cymro yn fwyaf yn nghyngerdd Mr. Leslie edd y gan genedl-