Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CERDDOE CYMEEIG: AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CÈNEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIC DAN NAWDD PRIF GERDDORION, COBAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y CENEDL Rhif. 98. EBRILL 1, 1869. Pbis 2g.—gyddr post, Bc. HYSBYSIÂD. Y mae Cyhoeddwyr y " Cebddob Cymeeig" yn hysbysu nad ydynt o hyn allan yn bwriadu argraffu o hono ond y nifer a fydd yn ddigonol i gyflenwi archebion y Dosbarthwyr ; a dymunant hysbysu yn mhellach, na byddant yn alluog i gyf- flenwi archebion am ol-rifynau ond am y Gebdd- OBIAETH YN UNI&. Y COE. Ab ol dangos pa fodd y dyl&í pob lläis o fewn y Cor fod yn bur ac yn berffaith, a'r modd y dylaí y lleisiau fod yn cydasio, a phob un yn alluog i daro pob cyfrwng yn mhob cord gyda sicrwydd ac eglurdeb ; yr ydym yn nesu yn rnlaen at nerth, graddoliad, a Ilywodraethiad y llais. Y mae yn ffaith hynod fod cantorion yn fwy esgeulus a diofal yn y peth hwn nag offerynwyr. Er fod y llais dynol yn tra rhagori ar un offeryn a ddyfeisiwyd, nac a ddyfeisir byth, a thrwy hyny yn llawer mwy galluog nag un offeryn i gynyrchu gwahanol effeithiau; ac er fod geiriau y farddoniaeth gan y cantorion i'w cyfarwyddo ynghylch naws a graddoliad y llais ; eto, ychydig iawn o sylw a delir i'r pwnc gan y mwyaîrif mawr o gantor- ion mewn Cor&u ; a gwyr pob arweinydd yn dda am yr anhawsder dirfawr sydd i gael yr aelodau i arfer gofal a meddylgarwch yn y pwnc hwn. Nid oes odid un ehwar- euwr ar offeryn nad ydyw yn teimlo yr angenrheidrwydd o raddoli nerth ei seiniau ; ond y mae cantorionyn canu mor ddifeddwl a diofal fel pe na byddent erioed wedi ystyried fod yn ngallu eu llais i ganu mewn dim ond un ffordd, a hono bob amseryn grýf ac a'u holl egni. Bydd- ai o werth annhraethol pe gellid cael ein cantorion yn mhob man—yn ein Corau a'n Cynulleidfaoedd, i feddwl mwy am y pwnc hwn, i dalu sylw priodol iddo, ac i lafurio ac ynjdrechu mewn tiefn i gael diwygiad llwyr a hollol ynddo. Y graddoliad hwn a elwir yn lliwiid mewn caniadaeth. Cymerir y gair, wrth gwrs, oddiwrth yr arlunydd. Y mae efe yn defnyddio lliwiau gwahanol yn ol natur y gwrthddrychau a liwir ganddo ; acyn y mater o liwio, yr hwn sydd yn dyfod agosaf i liwiau natur a ystyrir y goreu. Mewn cyfansoddiad cerddorol, y mae yr awdwr wedi gwneyd y darlun mor berffaith ag y mae yn allu- adwy iddo o ran ifurf; y mae hefyd, yn y cyffredin, wedi arwyddo y modd y dymunai iddo gael ei iiwio ; ond gwaith y canwr, neu y chwareuwr, ydyw gosod y lliw- iaa ynol cyfanryddiadau y cyfansoddwr, neu yn niffyg . cyfarwyddiadau manwl, yn ol natur y meddylddrych; ac yn y mater o ganu, yr hwn, neu yr hon, a liwia deiml- adau y farddoniaeth a'r gerddoriaeth yn y modd mwyaf natnrìol a ystyrir y goreu. Ac eto, y mae llawer un yn canu mor ddifeddwl, amherffaith, ac annaturiol a phe byddai arlunydd, ar ol tynu darlun o ddyn, yn ei liwio i gyd yn goch, neu i gyd yn ddu. Tuag at fod yn gantor- ion da, a gwneyd cyfiawnder a'r cyfansoddiadau a genir, mae yn angenrheidiol arfer y gofal mwyaf yn y peth hwn. Y mfl,e graddau lawer yn perthyn i'r llais ; ac nid oes un radd yn perthyn iddo ag nas dylai gael ei arferyd wrth ganu Un ydyw cryf; ac y mae yn perthyn i hwn y cryf iawn, a'r cymedrol gryf. Un arall yw gwan ; ac y mae yn perthyn i hwn eto y gwan iawn a'r cymedrol wan. Y mae graddoliadau ereill íawer yn ddichonadwy, trwy fyned yn faddol o'r gwan i'r cryf, neu yn raddol o'r cryf i'r gwan. Y mae y graddoliad hwn yn galw am lawer iawn o sylw ac ymarferiad; oherwydd yr anffawd yn fynych ydyw, os cyfarwyddir y cor i wanhau, ant yn wan ar unwaith; neu os ceisir ganddynt gryfhau, ant yn gryf ac yn llawn ar unwaith. Y geiriau Italaidd a ar- ferir am y graddoliadau gwahanol hyn ydynt:—forte neu f. am cryf; fortissîmo neu ff. am cryf iawn; mf (mezza forte) ac weithiau mëzza voce, am gymedrol o gryf'. Arferìr piano, neup. am wan ; pianissimo, neu pp. am wan iawn ; ac mp am gymedrol o wan. Am gryfhau yn raddol arferir y gair crescendo, neu cres,, neu ynte yr arwydd-nod -=C^3' am wanhau yn raddol arfer dimin- neudo, neu dim., nŵu ynte yr arwydd-nod JÜH>-. Ond nid ymhelaethwn ar y petbau hyn yn y lle hwn, yn gy- maint a'n bod yn ystyried y dylai pób un a dderbynír yn aelod o gor yn Nghymru yn y dyddiau presenol fod yn gwybod y pethau hyn. Kid yn y Cor, ond yn nos- barth y plant, y mae gwersi bychain, elfenol o'r fath i gael eu dysgu. Dichon mai y drefti oreu i gael hyn oddiamgylch fydd- ai i'r arweinydd arfer y Cor yn y lle cyntaf i fod yn gyson a diysgog yn un o'r graddau a nodwyd. Dywed- er ei fod yn dechreu gyda'r cryf. Yn yr ymarferiad hwn, ni ddylai ganiatau ond Ilais ílawn, cyson, heb un math o raddoliad, ar bob cord. Wedi llwyddo i gael y cryf felly—pob nod yn llawn ac yn hollol gyfartal, gall gy- meryd y Cor yn nesaf at y çwan. Gwyr pob arweinydd fod mwy o anhawsder gyda chael corau i ganu yn wan yn dda, na'u cael i ganu yn gryf. Yn fynych, pan elo cantorion j geisio canu yn wan, yr ydys yn teimlo na fydd yno ganu, na llrisio o gwbl, ond rhyw swn anson- iarus a disylwedd, a hwnw mor amherffaith fel y mae cydaaiad yn hollol o'r cwestiwn, a dichon y bydd y cy- weirnod wedi ei ostwng haner ton cyn gorphen. Os caiíí' yr arweinydd mài felly y bydd, gall benderfynu ar uri- waith nad oes un feddyginiaeth i'r clwyf ond Uawer