Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T CEBDDOE CTMEEIG: AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; GYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAÜ, AG UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL Rhif. 96. CHWEFEOB 1, 1869. Pris 2g.—gyddr post, 3c HYSBYSÍAD. Y mae Cyhoeddwyr y " Cerddor Cymreig " 'yn hysbysu nad ydynt o hyn allan yn bwriadu argraffu o hono ond y nifer a fydd yn ddigonol i gyflenwi archebion y Dosbarthwyr ; a dymunant hysbysu yn mhellach, na byddant yn alluog i gyf- flenwi archebion am ol-rifynau ond am y Gterdd- ORIAETH YN TJNIG. Y COE. Ymare erion mewn Cynghanedd. Ae ol cael pob un yn y Cor i leisio yn eglur a phur, a chael pob un yn mhob rhan i asio yn hollol a'u gilydd, a chael yr holl ranau i gydasio mewn unsemiau ac wyth- fedau, trwy ymarferiadau yn y dulliau a nodwyd yn ein herthygl flaenorol, gellir myned yn mlaen i ymarfer mewn cynghanedd, neu gordiau. Er mwyn sicrhau y cywirdeb a'r perffeithrwydd mwyaf, dechreuer gyda'r cord cyffredin, yn y modd mwyaf syml. Caned y bass y cyweirnod, ao arosed un ban arno. Yna deled y tenor i mewn ary Llywydd (y 5ed). Yn y trydydd ban, deled yr alto i fewn ar y 3ydd (neu y lOfed mewn gwirionedd); ac yn y pedwerydd ban, deled y soprano i fewn ar yr 8fed (neu y 15ed a siarad yn gywir); fel hyn : — Araf- rr\ Sop. Alto. Tenor. Sedynis. Bass. |gl ::_2_ p__y___=_i^Es=fes=S[ -es>—\—& _?_: :z_?~ :ze__: ____: Gellid amrywio cyfleadau y cordiau yn ol y cyweir- nod; yn unig gofaler am i bob rhan gael yr aelod hwnw o'r cord a fydd yn fwyaf manteisiol er rhoddi y llais allan yn glir ac yn llawn. Dyweder fod y cyweirnod yn A, byddai A isaf yn rhy isel i'r bass a'r tenor, byddai y 3ydd yn rhy isel i'r aîto, a byddai yr 8fed (neu y 15fed) yn rhy uchel i'r soprano. Gallai trefniad o fath yr un can- lynol fod yn fwy manteisiol:— Araf, r.~s____________________ _z_z[_:_2_zE_:_2__r*^—p ---------1----------1—o—t—ra t—«—1_ .o—t.iQ.:tt ^í^fg^EîE^^g^^g^j^g^j^l Gall yr arweinydd roddi ymarferiadau cyffelyb yn mhob cyweirnod, ac amrywio cyfleadau y cordiau, fel y nodwyd uchod. Yn y dechreu, gwell fyddai eu hysgrifenu ar y bwrdd du; ond ar ol ymarfer ychydig felly, ni byddai angenrheidrwydd am ysgrifenu : yn unig rhodded y cy- weirnod i'r bass, a dy weded wrth y rhanau eraill pa ran o'r cord fyddant i'w gymeryd, a daw yr ymarferion hyn nid yn unig yn fuddiol, ond yn ddyddorol hefyd. Ar ol cynefino y Cor yn y modd hwn a chynghanedd, a'u harfer i leisio gyda gofal, ac i ddysgyblu y glast yn dda, yna gall yr arweinydd fyned yn mlaen, a rhoddi y Cor i ymarfer a gwahanol gordiau a chyfleadau. Y mae M. Fetis, o waith yr hwn, fel y gwelir, yr ydym yn gwneyd defnydd helaeth yn y gwçrsi hyn, yn rhoddi rhestr faith o ymarferion; a chan y byddai yn anhawdd ffurfio nn fwy cyflawn, yr ydym yn ei gosod i lawr yma. Byddai yn dda iawn i bob arweinydd, neu athraw Cor arfer ei Gor, neu ei ddosbarth, yn yr ymarferion hyn nes dyfod yn berffaith yn mhob rhan o honynt, a'u harfer hefyd mewn gwahanol amserau, gan ddechreu yn araf a gwan, a chyflymu a chryfhau fel y byddo y Cor yn dy- fod yn fwy perffaith yn y seiniau. Er mwyn hwylusdod, y mae pob adran wedi ei rhifnodi, fel y gall yr arwein- ydd alw sylw y Cor at yr un a fyno o honynt. _Tödi» hefyd y cyfryngau mwyaf anhawdd, y rhai syd.d yn galw am ofal ac ymdrech neillduol, gyda seren (*). Byddai yn fanteisiol gorphwys ychydig ar derfyniad pob adran, cyn dechreu y nesaf. Sylwer fod y Tenor i'w ganu 8fod ynis.