Skip to main content

Irôẅn «ttŵffört s «i* iT WiSiNiETR CERDORIiETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY. Rhif. 93. TACHWEDD 1, 1868. Pris 2g.—gyddr post, 3c. TYMMOR Y GAUAF. Gyda golwg ar gerddoriaeth, yn gystal a phob llafnr meddyliol, fel rheol gyffredin yn Nghymru, y mae ty- mhor yr haf yn un lled farwaidd a digynyrch. Tua mis Ebrìll, bydd llawer o ddosbarthiadau' Beiblaidd, cyfar- fodydd llenyddol, corau a dosbarthiadau cerddoroí, yn cael eu rhoddi i fyny. Nid ydym hyd yn hyn wedi gailu gweled ynhollol pa angenrheidrwydd neillduol sydd am hyn. (3 leiaf, mae yn amheus iawn genym a ddylai y tymhor hwn o segurdod meddyliol fod mor faith. Nid ydym dros gario y cyfarfodydd a nodwyd yn mlacn trwy y flwyddyn heb ddim seibiant; ond yr ydym yn credu y dylai y seibiant fod yn llawer iawn byrach nag y mae. Byddai deng wythnos, neu dri mis o bellaf, yn ddigon o seibiant i bob pwrpas ac amcan; a byddai yn dda genym weled y llafur a nodwyd yn cael ei ddwyn yn mlaen yn egn'iol hyd nes y byddo y cynhauaf gwair yn dechreu. Ar hyn o bryd, pa fodd bynag, nid felly y mae. Gyda dyfodiad y tywydd teg yn niwedd y gwanwyn, byd'd y llyí'rau yn cael eu rhod'di heibio, y telynau yn cael eu gosod ar yr helyg, a'r lluaws yn ymryddhau ac yn ym- roddi i dymhor o segurdod a diffrwythder rneddyliol. Ai tybed, athrawon ac arweinyddion, na ellid cwtogi llawer ar hyd y tymhor ofer hwn ? Ond 'erbyn mis Hyáref, hyd yn nod yn ol y drefn sydd ar bethau yn bresenol, yr ydys wedi ail ymafaelyd yn y gwaith, a dichon na byddai gair o anogaeth mewn cy- sylltiad a'n gwaith cerddorol yn gwbl anfuddiol yn y lle hwn. Gwyrein darllenwyr nadydym yn gosod gwerthmawr ar y gwaith o íf'urfio cor ar gyfer rhyw gystadleuaeth, ac ymroddi ati, nos a dydd, ar y Sabbath ac yn yr wythnos, am ychydig amser, i ddysgu y darnau cystadleuol; ac yna gadael i'r cwbl fyned yn chwalfa gyda bod y gys- tadleuaeth drosodd. Yr ydym yn baruu mai ychydig o ddaioni sylweddol a wneir í'eüy, a bod llawer o niwed, mewn gwahanol ffyrdd, yn cael ei gynyrchu. Y gwaith mawr sydd o'n blaen ni yn y cyfeiriad hwn ydyw dwyn y gcnedl—yr holl genedl, i deimlo ac i werthfawrogi d'y- îanwad cerddoriaeth, i ymhyfrydu ynddi, ac i ymarfer â hi yn ddeallgar. Y mae yu ddigon eglur i bawb nad ydyw corph cenedl y Cymry ar hyn o bryd yn gwerth- fawrogi nac yn deall dyìanwad cerddoriaeth. Y mae hyn yn amlwg mewn lluaws, os nad yn y rhan fwyaf, o'n cyngherddau. Yr hyn yr edrycha llawer am dano yn y gyngherdd ydyw rhywbeih o'r un natur ag a edrychid am dano wrth fyned i weled Blondin yn chwareu ei branciau ar y rhaffau, neu broffeswr mesmeriiieth, neu ryw " aeth " iselach na hono, yn chwareu ei driciau nes mae y gwag a'r difeddwl yn synu yn yr olwg arno. Wrth weled pa fodd y mae y chwaeth yn rhedeg, nid rhyfedd ydyw fod y rhai sydd yn byw ar gerddoriaeth yn darparu mor helaeth o hoff bethau eu gwrandawyr—nid rhyfedd ydyw gweled cynifer o ddarnau digrifbl— rhywbeth i beri i'r bobl chwerthin—cymeriadau od ac annaturiol— amgylchiadau a digwyddiadau rhyfedd a chyffrous, yn llanw programau llawer o'n cyngherddau; ac nid rhyfedd ydyw clywed cyfarfod, os na bydd dignn o'r pethauhyny ynddo, yn cael ei osod i lawr fel un marwaidd a dim " myn'd " ynddo. Gwasanaeth cerddoriaeth ydyw gwein- yddu î holl deimladau naturiol dyn; ond yn y cyngherdd- au a nodwyd, nid am gerddoriaeth yr ymofynir, nid cerddoriaeth a fwynheir, ond cyffroadau ôddiwrth y di- grifol, y cynhyrfus, yr annaturiol, a'r anweddus. Nid trwy gyngherddau o'r fath, gan hyny, y dygir y wlad i werthfawrogi cerddoriaeth. Nid trwy ganu cystadleuol, ychwaith, yn y drefn a'r ysbryd y gwneir hyny yn rhy fynych y cyrhaeddir yr amcan. O'r ochr arall, y mae yr ymchwydd medclwl, yr ymgynhenu, yr athrod, y teimladau a'r geìriau chwerwon sydd yn dilyn cystadleuaethau cerddorol, wedi gwneyd niwed annhraethol yn y cyfeiriad a nodwn. Diclion nad oes dim wedi bod yn foddion mwy effeithiol i beru i gorph y genedl ymgadw yn mhell oddiwrth gerddoriaeth na'r pethau hyn. Ein gwaith ni, yn hytrach, ydyw dwyn y genedl i ganu, i garu cerddoriaeth, ac i'w mwynhau. 1 ganu ac i fẁynhau cerddoriaeth meddwn, nid i ymgystadlu, nid i ymgecru, nid i athrodi y naill y llall, nac i ymddifyru yn y gwag a'r annaturiol, Ac un peth y dylem fod wrtho yn egniol a chyda phob dyfal-barhad, ydyw dysgu corph mawr ein pobl ieuainc i ddarllen cerddor- iaeth._ Hyderwn fod ein dosbarthiadau Tonic Solfa wedi eu hail sefydlu, ac ar lawn waith, trwy ein gwlad. /' c od oes rhyw ardaloedd, neu gynulleidfaoedd crefyddol, heb ddechreu hyd yn hyn gyda'r gwaith da hwn, ni a'u hanogem gyda phob dilrifoldeb a thaerineb i ddechreu ar unwaith, Yr ydym yn canfod gyda hyfrydwch mawr fod y gwaith yn myned yn mlaen yn raddol; ond ychyd- ig yw y zel a'r ymdrech mewn cymhariaeth i'r hyn a ddylai fod. Y mae yn drueni maẁr na byddai pob dyn a dynes ieuanc trwy ein gwlad naill ai wedi dysgu dar- llen cerddoriaeth, neu ynte ar y ffordd i wneyd hyny yn y dosbarth. Bydd yr adeg oreu i ddysgu wedi myned drosodd ar laweroedd yn fuan ; ac ni fydd gan neb o'r