Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tŴtmit gw VMì lẅ ẁìẁẅît, €m% « Ubtta» «Mtaoi 8 ẅẃl rtt PiS0l AT WASANAETH CERDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY. Rhif. 92. HYDREF 1, 1868. Pms 2g —gyddr post, Bc. Y DIWEDDAR MR. W. H. OWEN, MAB OWAIN ALAW PENCERDD. Pa Gymro sydd wedi darllen hanes y ddamwaín echrydus hono a gymei'odd le ar y rheilffordd yn agos i Abergele, ar yr 20fed o Awst diweddaf, heb deimlo ei waed yn dechreu fferu yn ei wythienau ? Ondnid oedd, morbell ag yr ydym yn gallu casglu oddiwrth yr enwau, dim ond un Cymro ymhlith y personau anffodus a gyfarfyddasant â'u marwolaeth yno, sef Mr. William Henry Owen, mab hynaf ein cydwladwr talentog, Owen Alaw. Ac oddi- wrth y safle a lenwir gan ei dad ymysg cerddorion ein gwlad, ni a fuasem yn dìsgwyl i'r mab hefyd, cyn bod yn deilwng o'i linacẁ, cldyfod ryw ddiwrnod yn un o ser dysgleiriaf ffurí'afen gerddorol Cymru. Diau fod ein cydwladwyr yn cydymdeimlo i'r byw â'r teulu galarus, ac nad annyddorol gan ein darllenwyr fyddai ychydig o hanes y gwr ieuanc hwn, Ganwyd Mr. W. H. Owen yn Nghaerlleon yn y flwydd- yn 1845. Derbyniodd ei addysg yn y King S Grammar Schooî yn y ddinas hono. Gan f'od chwaeth gerddorol yn y teulu, a'i fod yntau yn arddangos tuedd neillduol at hyny, penderfynwyd rhoddi pob mantais a ellid iddo er ei ddwyn i fyny yn gerddor medrus. Gan hyny, rhoddwyd ef d?.n addysg Mr. Gunton, Organydd Eglwys Gadeiriol Caerlleon, gyda'r hwn yr arosodd am bum' mlynedd. Ar ol hyny derbyniwyd ef i mewn i'r London Academy of Music; ac wedi iddo fod yno am amser, bu yn organydd cynorthwyol yn eglwys St. Mathias, Stoke Newington, Llundain, o dan Mr. Monk, golygydd yr " Hymns Ancient and Modern." Ymddengys f'od tuedd neiílduol ynddo at gerddoriaeth gysegredig a chynull- eidfaol, yr hon, yn ei symlrwydd diaddurn ydyw y gang- en uchaf o gerddoriaeth. *Ac y mae yn ddiameu fod cael addysg y í'ath athraw galluog a Mr. Monk wedi rhoddi líawer o fwynhad iddo, ac wedi gadael argraff ddofn ar ei gymeriad. Medi lOfed, 1867, penodwydef yn organydd ac yn arweinydd y côr yn eglwys St. Bartho- lomew, Dublin. a gwasanaethodd yno hyd ei farwolaeth. Ymddengys iddo f'od yn ymroddgar a llafurus iawn yn y cysylltiad hwn, ac er na í'u ei dymor yno ond byr, iddo fod yn lled lwyddianus i gael y canu i raddaa helaeth o effeithiolrwydd. Yn Awst diweddaf yr oedd wedi bod gartref am ychydig amser yn ìnwyhhau holiday gyda'i deuluyn Nghaerlleon, acyn dychweiyd yn ol i'r íwerdd- on, mewn tret'n i fod yno yn barod crbyn y "Dedication Festival," oedd i fod yn yr eglwys hono y dydd Llun canlynol, pan y cyfarfyddodd â'i angeu sydyn yn y ddamwain alarus a nodwyd. Nid yn unig yr oedd yn fedrus fel chwareuydd cerdd- oriaeth, ond ymddengys fod ynddo duedd hefyd at gy- fansoddi. Yr ydym yn deall ei fod wedi gadael ar ei ol amryw ddarnau cyfaddas i'rpianoforte, ac hefyd anthem Nadolig ar eiriau Sae^onaeg, yr hon yr ydym yn disgwyl a gyfaddasir at eiriau Cymraeg, ac a gyhoeddir gan ei dad, Cyfansoddodd hefyd "Gân Mair" (Magnificat) yn yr hen ddull Gregoraidd ; ac argraffwyd hi yn y nodiant hwnw gan Novello, Ewer, & Co., Llundain. Ond pan oedd y blodeuyn hwn yn dechreu ymagor, ac yn addaw bod yn addurn i wlad ei dadau, cymerwyd ef ymaith yn ddyn ieuanc 23ain oed. Y nos Sabbath canlynol i'w farwolaeth, yn eglwys St. Bartholomew, traddodwyd pregeth angladdol idclo gan y Parch. A. A. Dawson, M.A., Periglor,—copi o ba un sydd yn bresenol ger ein bron. Dengys hon, yn gryfach na dim, feallai, y cymeriad uchel a feddai yn meddyliau y rhai a'i hadwaenent, a'r lle uchel a feddai yn eu serch- iadau. Y mae rhinwedd pur ac athrylith gerddorol gref, wedi bod, ysjrwaeth, ormod ar wahan oddiwrth eu gilydd yn ein gwlad, ac y mae yn hen bryd i foesoldeb a chrefydd gael gwasanaoth y talentau goreu. Testyn y bregeth ydoedd Job ii. 10. " A dderbyniwn ni gan Dduw yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg." Ar ol desgrifìo y modd y daethant yn hysbys o'r newydd pruddglwyfus, dywed y boneddwr parchedig: "Ÿdyw, fy anwyl frodyr, y mae oll yn rhy wir; ni welir Ẅilliam Owen byth eto yn ein pìith. Y mae y llaw fedrus hono oedd yn gallu tynu allan y fath gordiau teimladwy o'r organ fawreddog yna wedi llosgi yn lludw ; y mae y galon dyner-hono oedd yn curo gyda phob am- rywiaeth o lawenydd a phrudd-der yn ein salmau a'n hymnau, ac yn dilyn y cyfan gyda'r fath gydymdeimlad tynera sylw manwl wedi llonyddu mewn marwolaeth ; y mae y meddwl deallus, goleuedig hwnw,oedd yn gallu nid yn unig canfod yspryd gwaith cerddoiion eraill a'u deall, ond hefyd a fedrai gyfansoddi a dyfeisio ei hunan mor hapus,—fel y tystia y Magnificat brydferth hono a gan- wyd genym mor fynych yn yr eglwys hon—ni chaiff y meddwl hwnw byth mwy ei ddefnyddio ar gynganedd ddaearol. " Dychwel y pridd i'r ddaear f'el y bu, a dy- chwel yr yspryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef." * * "Nid oedd yr hwn a ymadawodd â ni ond tair ar hugain oed. Yr wyf yn barnu mai ychydig fuasent yn tybied ei fod morieuanc, nidyn unig oddiwrth ei olygon, na'i gywreinrwydd yn ei gelfyddyd, ond oddiwrth sefydl-