Skip to main content

«íWẁŵig lan fíafotò Jrif fóẅẁn, únm, at BUn Ŵŵtanẅ I ŵŵl. AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY. Rhif. 87. MAI 1, 1868. Pbis 2g.—gydcür post, 3c. Y CYNYGIAD AM GERDDORIAETH Y "CERDDOR" YN Y TONIC SOLFA. Yb ydym yn ysgrifenu heddyw ar y mater hwn mewn gradd o siomedigaeth. Yr oedd cyfeillion ag sydd yn teimlo yn frwdfrydig gydag achos y Tonic Solfa yn Nghymru wedi tybied y gallasai y symudiad fod ar ei fantais o gael- darnau cerddorol da hob mis yn y Nod- iant hwn am y swm bychan o 2g. Tybiasom ninau yr un modd, a rhoddasom y cynygiad gerbron y wlad. Ar ol dau fis o amser, mae y cynyrch yu sefyll fel hyn. Y nifer a dderbyniasom yn dangos awydd am gael y Gerdd- oriaeth yn y Solfa sydd fel canlyn:— Sir Fynwy......... 0 Sir Forganwg ... 12 Sir Benfro ... Sir Gaerfyrddin Sir Aberteifi Sir Frycheiniog ... 16 Sir Drefaldwyn Sir Feirionydd Sir Flint ... ... 12 Sir Ddinbych 32 Sir Gaernarfon ... 188 Sir Fon 2G0 Y mae hyn yn ychydig dros y ddegfed ran o'r nifer sydd yn angenrheidiol; os ydyw ein cyfeillion yn medd- wly gallant wneyd rhywbeth ond cael mis yn ychwaneg, ni a adawn y pwnc yn agored hyd hyny. Derbyniasom rai llythyrau i'r perwyl a ganlyn:—" Y mae yma lawer yn awyddus am gael y Cerddor yn Nod- iant y Tonic Sol/a; ac y mae amryw o gyf'eillion y Solfa yn ei gymeryd eisoes er mwyn yr ychydig gerddoriaeth sydd ynddoyny Nodiant hwnw, yn benaf. Nid oes un amhcuaeth na fydd i chwi gael y nifer a ofynwch." Hyderwn fod y cyfeillion hyn yn gywir ; ond buasai nodi rhyw nifer yn lie y "llawer", neu yr "amryw", yn llawcr mwy boddhaol. Y cwbí sydd yn eisiau ydyw i'r arweinydd, yr athraw, neu rywun cyfrifol arall, osod y mater yn dcg gerbron pob dosbarth Solfa, a phob cor, yn y Dywysogaeth, a gwneyd list o enwau y rhai fydd yn awyddus am ei gael, ac anfon y nifer i ni—y llythyr wedi ei gyfeirio, Rev. J. lìoberts, Llanberis. Y mae llawer o leoedd yn Sir Gaernarfon wedi cy- meryd y peth i fyny gyda bywiogrwydd a gwres, ac wedi gweithio yn rhagorol, ond y mae llawer o leoedd heb wneyd aim; ac nid ydym wedi clywed un gair ar y mater oddiwrth gynifer ag un o ddosbarthiadau a chorau mawrion Morganwg, Mynwy, na Chaerfyrddin. Ni a ddisgwyliwn eto, pa fodd bynag, am fis, ac yna bydd tynged y pwnc yn cael ei benderfynu. UNDEB CERDDOROL DIRWESTWYR ERYRI. Mewn cyfarfod o gynrychiolwyr yr undeb uchod a gy nalîwyd Ebrill 20fed, 1868. 1. Penderfynwyd oedi gosod y Babell i'w hadeiladu hyd gyfarfod y 25ain, (erbyn hyn, y mae y Babell wedi ei gosod.) 2. Fod cyfarfodydd canu undebol i gael eu cynal yn Cefn-y-waen, Llanberis, Rhostryf'an, a Phorthmadog, yr amser i'w enwi gan y Parch. J. Roberts. 3. Darllenwyd llythyrau oddiwrth y Parch. O. Jones, B.A., Ffestiniog; Cynhafal Jones, Penrhyn, a Robert Roberts, Bethesda, yn addaw rhoddi eu presenoldeby ny gymanfa ; a chafwyd addewid am bresenoldeb y Parchn. W. Ambrose, T. Owen, Mr. Charles, a W. Jones, Porth- madog, a Daniel Evans, Waenfawr, a David Williams, Ysw., Castelldeudraeth, yn llywydd un o'r cyfarfodydd. 4. Fod Mr. R. Isaac Jones, Tremadog, i argraffu y Post Bills, a Mr. Jones, Post-ofíìce, Porthmadog, i ar- graffu y Tocynau, yn ol y rhifedi a benderfynwyd yn y cyfarfod Chwefror 12fed. 5. Fod hysbysiadau am y Gymanfa i gael eu rhoddi yn y North Waks Chronicle, Y Faner ddydd Mercher, Yr Herald Cymraeg, a'r Cbrddor Oímreig ddwywaith. 6. Fod y Tocynau i gael eu stampio fel o'r blaen. 7. Fod dymuniad ar y cyfeillion yn Porthmadog i chwilio am ddeuddeg o ddynion cymwys i w^dio y Babell &c; a bod i bob cor i ofalu am un dyn, a bod eu henwau oll i gael eu hysbysu yn y cyfarfod nesaf. 8. Fod i'r ysgrifenydd anfon am wasanaeth y Police fel arfer. 9. Adroddodd y Parch. R. Lewis yr ymddiddan. a fu rhyngddo a gorchwylwyr Rheilffordd Sir Gaernarfon mewn pethynas i gludiad Cantorion i ac o Borthmadog —eu bod yn barod i'w cludo am 2s. i rai mewn oed, ac ls. i'r plant, yn ol a blaen ; a darllenodd yr ysgrifenydd lythyrau a dderbyniodd oddiwrth y Cambrian a'r Ff'est- iniog Railway Company yn hysbysu y bydd iddyntroddi Trains cyfleus a rhad am y dydd i Borthmadog ac yn ol —y Cambrian o Aberystwyth, Machynlleth a Pwllheli a'r lleoedd rhyngddynt, a'r Ffestiniog ar ei hyd.