Skip to main content

tmm i» mm mt «ẁ, c«, * mmm »001 a «i AT WÁSÄNiETE CERÜDORIAETH YN MYSG/CENEDL Y CYMRY. Rhif. 86. EBRILL 1, 1868. Pris 2g.—gyddr post, 3c. DARLLEN CERDDORIAETH A'R TONIO SOLFA. Y mae yn amlwg i bob un sydd aM galon yn awyddus am weled diwygiad efFeithlol yn cymeryd lte yn ein can- iadaeth, mai u'n o'r prií' bethau sydd i'w gwneyd ydyw dysgu y genedl i ddarllen cerddoriaeth. Hwn ydyw un o'r prif anghenion. Ofer ydyw disgwyl am ond ychydig o lwyddiant mewn cymhariaeth i'r ymdrechion a wneir hyd nes y bydd y diffyg hwn wedi ei wneyd i fyny. Mae yr egwyddor hon yn cael ei chydnabod yn mhob peth, o'r braidd, ond cerddoriaeth. Addefir nas gellir cael cenedl wybodus oleuedig heb ei bod yn medru darllen, ac nas gellir darllen heb ddysgu y llythyrenau. Cyd- nabyddir nas gall neb fod yn Ëhifyddwr, Meintonwr, na Gramadegwr da, heb ddysgu elfenau y gwybodaethau hyny. Ond er cyfaddef yr egwyddor, a gweithio arni yn mhob peth braidd, yn araf iawn yr addefir hi mewn cy- sylltiad a cherddoriaeth. Gellid meddwl wrth ymddyg- iadau y lluaws mai eu barn ydyw y gellir canu heb ddysgu dim. O ba le y daeth fod canu yn cael ei ystyr- ied yn eithriad i bob peth yn hyn nis gwyddom. Ond dyna ydyw y fFaith ; a goreu po gyntaf y byddo wedi diflanu o fod. Y gẃirionedd ydyw, y mae yn gwbl an- alluadwy canu yn gywir ac yn dda heb ddysgu darllen cerddoriaeth. Ystyriaeth bwysig iawn arall y carem ei choffau ydyw, mai mebyd ac ieuenctyd yw yr adeg fwyaf man- teisiol o lawer i ddysgu elfenaupob gwybodaeth. Y mae natur yn dysgu hyn, a phrofiad pawb sydd wedi myned yn mlaen mewn dyddiau yn ei gadarnhau. Ar ol tyfu i fyny i oedran, y mae gofalon y byd hwn, yn y naill ffordd neu y llall, yn dyfod i bwyso ar yr ysgwyddau ac i gymeryd i fyny ran helaeth o'r amser a'r meddwl; ac fel y mae dyn yn myned rhagddo, y mae yn myned yn fwy anghyfaddas o ddydd i ddydd i gymeryd i fyny el- fenau unrhyw wybodaeth newydd. Os ydyw y genedl, gan hyny, i ddysgu darllen cerddoriaeth, mae yn angen- rheidiol cymeryd y gofal mwyaf gyda'r plant. OddiWrth hyn, y mae yn ymddangos yn hollol eglur i ni y dylai fod yn mhob ardal—yn perthyn i bob cynull- eidf'a grefyddol, ysgol, neu ddostarth i ddwyn y plant i fyny yn egwyddorion cerddoriaeth. Gwyddom mai nid "hawdd ydyw darbwyllo rhieni plant i gredu hyn Yn ngolwg y rhan amlaf o rieni plant, yr hyn sydd yn troi y fantol o blaid neu yn erbyn unrhyw addysg a gynygir iddynt, ydyw y lles neu y fantais sydd yn debyg o ddy- fod iddynt trwy yr addysg hono; ac ofnwn fod llawer nad edrychant yn mhellach na'r fantais arianol, fydol, neu dymhorol. Mantais ydyŵ ysgogydd mawr byd ac eglwys yn y dyddiau presenol. Os gellir profì i'r tad a'r fam y daw rhyw fantais fydol neu arianol i'r plentyn o ddilyn ihyw gwrs neillduol, y maent ar unwaith wedi eu hargyhoeddi. Os na ellir gwneyd hyny, y maent yn fydd- ar ac yn ddall i bob ystyriaeth arall. Yn anffodus, yn yr ystyr isel hon, nis gellir cyfrif y daioni a wneir trwy gerddoriaeth mewn punnoedd, sylltau, a cheiniogau ond yo lled anaml. Mae yn wir fod rhai—ond ychydig yd- ynt, yn enill arian mawr, ac yn ymgödi i sefyllfaoedd uchel trwy gerddoriaeth ; ond nis gellir dal y fantais hyny 0 flaen ond ychydig o'r rhai y mae Duw wedi eu cynys- gaeddu a thalentau cerddorol llawer uwch na'r cyffredin. Wrth anog y dyn ieuanc i ddysgu canu, nis gallwn add- aw dim gwell na bod yn chwarelwr holl ddyddiau ei fywyd, nac i'r eneth ddim uwch na bod yn wraig i weith- iwr trwy ei hoes. Ond er nad ydyw cerddoriaeth fet celfyddyd yn dwyn dim i fewn yn y ffordd hon ond i ychydig, eto, y mae ei bodolaeth yn y byd—ei hordein- iad gan y Penllywydd doeth a daionus yn ddigon, o brawf fod yn perthyn iddi fanteision a dylanwadau o'r fath odidocaf. Ond i dynu ein hysgrif hon i derfyn, goddefer i nì, unwaith eto, argymhell y pwnc i sylw rhieni plant, ae athrawon ac athrawesau ein cenedl. Od oes rhyw le eto heb fod ynddo ddosbarth i ddysgu y plant i ganu yn 01 trefn y Tonic Solfa, cymerer gafael yn y cyfleustra cyntaf i sefydlu un yno. Ac od oes eto—a diau fod llawer o blant heb fod yn perthyn i'r dosbarthiadau hyn yn y lleoedd y maent, gwneler pob ymdrech i'w cael dan addysg. Yn f'uan iawn, bydd y plant wedi tyfu yn ddyn- ion, a'r dynion ieuainc wedi myned yn bobl; ac yna, dyna yr haf wedi darfod, a'r cynhauaf wedi myned heib- io. Os ydym yn awyddus am i ganiadaeth yr oes nesaf fod yn well na'r eiddo yr oes hon, y mae yn perthyn i ni í'od o ddifrif ynghylch rhoddi addysg i'r plant sydd yn codi o amgylch ein traed. CERDDORIAETH Y " CERDDOR " YN NODIANT Y TONIC SOLFA An y.dydd yr ydym yn myned i'r wäsg (Mawrth 23ain), ychydig o ddim sydd wedi dyfod i law o berthynas i'r cynygiad a wnaethom yn ein Rhifyn diweddaf. Hyderwn y bydd cyfeillion y Tonîc Solfa yn gafaelyd yn y cynyg- iad hwn. Ac os gwyr neb am ddosbarthiadau nad oes neb ynddynt ar hyn o bryd yn cymeryd y Cerddor, byddwn ddiolchgar iawn iddynt am ddwyn y cynygiad i'w sylw.