Skip to main content

tfjtaŵìŵií §u ifeẁîẅ frif ŵrìŵjẃtt, €m% u Itŵto fáììml u GwM. AT WÁSANÁETH CEEDDOEIAETH ÎN IYSG CENEDL Y CYMEY. Rhif. 84. CHWEFROR 1, 1868. Pris 2g.—gydà'r post, 3c. CYSTADLEUAETH PORTHMADOC. Nadolig, 1867. C A.NIG. Y mae y testyn hwn wedi galw cynifer ag 20 o gyfan- soddiadau i'r gystadleuaeth; ac y mae yn amlwg fod yn eu mŷsg rai o waith cyfansoddwyr goreu ein cenedl. Ymranant yn lled naturiol yn dri o ddosbarthiadau. Dosbarth I. Yn y dosbarth cyntaf a ddaw dan ein sylw, sef yr isaf, y saif William Byrd, Llew, Alawydd Morganwg, Eois, Llywarch, Chwarelwr, Bareton, Avolo. 1. Wüliam Byrd.—Geiriau a wnaed i Olygydd y Cerdd- or Cymreig gan Ceiriog, wedi newid ychydig arnynt, sydd gan yr ysgrifenydd hwn; ond llawer gwell ydyw gadael y geiriau hyny yn llonydd ar y gerddoriaeth a ymddang- osodd gyda nwynt yn y dechreuad. Ein cyngor ni i'r cyfaill ieuanc hwn ydyw, ar iddo ymroddi i efrydu cy- nghanedd yn dda cyn dechreu ar y gwaith o gyfansoddi canigion. Y mae ceisio cyfansoddi canig cyn dysgu cynghanedd yn gyffelyb i geisio ysgrifenu traethawd cyn dysgu sillebu. Nid ydyw ond gwastraff ar amser y dyn 'ai gwnelo, a gwastraff ar amser yr hwn fyddo yn beirn- iadu ei waith. 2. Lkw.—Pan y mae yr awdwr hwn yn ymfoddloni ar roddi cordiau cyffredin yn rhesi ar ol eu gilydd, y mae yn ymgadw rhag tori un reol; ond pan yn ymgynyg at rywbeth gwahanol, y mae yn gyffelyb i forwr ar yr eig- ion heb na chwmpawd na llyw. Heblaw hyny, y mae èi gerddoriaeth, o ran nodwedd, yn rhy filwrol i ateb i aaíws dyner, ond llawn bywiogrwydd, yr " aderyn bychan ; hardd." Ymae gwahaniaeth mawr rtìwng bywiogrwydd ^àcyjsbryd maes y gwaed a bywiogrwydd y goedwig ar 'ufrô ddyddiau cymanfa y cor asgellog; a da fyddai i'n cýfansoddwyr a'n cantorion yn gyffredmol/ecẅ/ycbyd- . ig am bethau felly. 3 Rois.—Mae yr ymgeisydd hwn yn canu yn lled gyt- unol a'i destyn; ond y mae yn cam-acenu y llinell, " O dymor hyfryd lawn;" ac ymddengys i ni mai nid priodol iawn ydyw ei ddefn- yddiad „o'r amser § yn y symudiad diweddaf. Y mae ei wallau cyhgbaneddol yn rhy luosog i ni sylwi yn fanwl ẁr bob un o honynt yn y lle hwn. Ar yr un pryd, y mae rhai tarawiadau dymunol yn ei alaw. 4, 5. Llywarch a Chwarelwr.—Mae y ddau gyfansodd- iad hwn yn waith yr un cyfansoddwr. Gallem feddwl mai ieuanc ydyw. Ymrodded ati i astudio gweithiau yr awdwyr goreu; a byddai o'r goreu iddo beidio cymeryd trwyddeäau y prif awduron hyd nes byddo yn alluog i gynghaneddu yn gywir yn ol y rheolau mwyaf caethion. 6. Bareton.—Ysgrifena hwn, ar y cyfan, yn lled gy- wir; ac eto, nid yn' hollol felly. Y mae ganddo rai broddegau chwaethus a thlysion. Y mae ei bortread yn dda o ysbryd yr olygfa— •' Y Ueuad hardd O flaen yr haul ymgryma, Gan wylaidd guddio' i phen." Yn y symudiad diweddaf, ceir math o ehedgan fechan, ond yn amherffaith y mae wedi ei gweithio, ac nid yw y gwrtheiliant yn dda pan gymerir i fyny y testyn gan yr isalaw. Canfyddir ar hyd y cyfansoddiad nifer luosog o fan wallau. 7. Alawydd Morganwg.—Nid yw yr awdwr hwn yn ymgynyg at ddim tra neillduol, o ran gwreiddioldeb na chelfyddgarwch ; ac y mae yn cwblhau yr hyn a gy- nygir ganddo heb ond ychydig o ddim y gallem eu galw yn wallau. Nid ydyw y cyfansoddiad ond byr; a'i brif ddiffyg ydyw, diffyg amrywiaeth a gwreiddioldeb mel- odedd. 8. Avolo.—Testyn yr ysgrifenydd hwn ydyw Englyn unodl-union, o waith Taliesin o Eifion, ar y Rhosyn. Ymgynygia yn lled uchel; ond y mae yn aflwyddianus yn ngweithiad allan ei feddyliau. Y mae prinder ei wybodaeth a'i fedr mewn cynghanedd yn dyfod ar ei ffordd yn mhob cyfeiriad. Yn tudal. 2, y mae megys pe wedi anghofio terfynau priodol yr alto wrth geisio gweithio allan y brawddegau efelychiadol a arweinir gan y Bass ; ac nid ydym yn alluog i wneyd allan ystyr y llithren a roddir i'r gwahanol leisiau ar y gair " rtìosyn." Mae y cynghaneddiad yn anghywir yn y brawddegau efelychiadol a geir ar y geiriau— " Mewn trwsiad didrafferth." Yn yr ail ran, ymddengys nad ydyw yn ddigon cyfar- wydd yn rheolau y gynghanedd gaeth nac yn rheolau yr iaith Gymraeg i ddeall aceniad priodol y llinell— " Briodfab y Lili brydferth." Mae acçniad y gair cyntaf yn gywir gan y bardd, a'r acen drom gyntaf yn disgyn ar yr ail sill o'r gair— "brioÉÍfab;" ond y mae y cerddor wedi camacenu y gair, yn ol dull llygredig rhai darllenwyr gwaelion, trwy daflu yr acen drom gyntaf ar y drydedd sill—"briod- fab." Y mae yr ymgais at ddwyn gwahanol ranau yr