Skip to main content

tẅẅm iw 8to» |îtf ftẅtoẅm, cunm,»Itŵto Cttìtari g êmùl AT WASANAETH CEEDDOBIAETH YN IYSG CENEDL Y CYMEY. Rhif. 83. IONAWR 1, 1868. Pitis 2g.—gydcCr post, 3e. Y FLWYDDYN 1867. Y mab y flwyddyn 1867 erbyn hyn wedi myned drosodd; ac y mae wedi gadael ar ei hol argraff ddyfnach nag a adawyd gan lawer o flýnyddoedd. Bydd coffa hir am dani fel blwyddyn neillduol y tair D------ Diwygiad, Dinystr, a Defodaeth. Ynddi y llwyddodd Mr. Disraeli i basio Diwygiad a aeth yn mhell tu hwnt i derfynau y. Diwygwyr eu hunain, ac a aeth dan seiliau castell ei blaid ei hun ; ynddi hi y darfu i'r Feniaid Iwyddo i hau dinystr a dychryn trwy holl Brydain; ac ynddi hi y darfu i blaid gref yn Eglwys Loegr lwyddo i godi defodaeth i fwy o fri yn y wlad nag y bu er ys rhai oesoedd. Ond yn y colofnau hyn, rhaid i ni adael heibio yr holl bethau a nodwyd, a chyfyngu ein hunain at y flwyddyn yn ei chysylltiad a cherddoriaeth. Yn y ftwyddyn ddiweddaf, fel pob blwyddyn, cymer- wyd amryw ddynion galluog oddiar y maes gan angeu, nid amgen yr hen gerddor anrhydeddus Syr George Smart, Mr. Alfred Mellon, Mr. Weiss, a Mr. Buckland, a Miss Glover. Yn mysg y rhai diweddaf a gymerwyd yr oedd Miss Glover, sylfaenydd cyfundrefn y Tonic Solfa, a Mr. Weiss. Cymerodd Miss Glover y dyddor- deb mwyaf yn addysg y plant er yn ieuanc; a thrwy ei bod yn foneddiges ag oedd yn berchen ar fesur hel- aethach na'r cyffredin o dda y byd hwn, ac wedi cael addysg dda ynghyd a galluoedd naturiol o radd uchel, llwyddodd i wneyd daioni annhraethol yn ei dydd. Bu fyw hyd yr oedran teg o 82 o flynyddoedd, a bu farw mewn tawelwch yn mis Tachwedd diweddaf. Dechreu- odd ar y gwaith o ddyfeisio trefn fwy syml a hawdd i ddysgu cerddoriaeth tua'r flwyddyn 1812; a'r profiad cyntaf a gafodd oedd yn y gwaith o geisio cyfarwyddo dyn ieuanc pa fodd i ddysgu plant yr Ysgol Sabbothol oedd yn perthyn i'w heglwys. Daeth y canu yn yr Eglwys yn Norwich yr oedd hi yn arolygu y cor ynddi yn wrthddrych sylw neillduol; a dechreuodd offeiriaid ac eraill ymofyn am y drefn oedd ganddi i ddysgu y rhai oedd dan ei harolygiaeth, ac yn enwedig y plant. O radd i radd, dechreuwyd anfon merched ieuainc i Norwich í ddysgu ei chyfundrefn. Yn y flwyddyn 1840, ar ol clywed am ei chyfundrefn, aetti Mr. Curwen, yr hwn oedd y pryd hwnw yn ddyn ieuanc 2i oed, a new- ydd ymgymeryd a gwaith y weinidogaeth, i ymweled a'i hysgol. Teimlodd ar unwaith, wrth glywed y plant yn canu, ac wrth weled y dull yr oeddynt yn cael eu dysgu, fod yn y drefn hono rywbeth ag yr oedd efe wedi bod yn ymofyn am dano ac yn methu ei gael. Dychwelodd i Hull, ac ymroddodd i astudio y pwnc yn y goleuni newydd a gawsai yn Norwich ; ac erbyn hyn y mae Mr. Curwen, yn ystod saith mlynedd ar hugain o lafur caled a diwyd, wedi dwyn y gyfundrefn dra manteisiol a syml hon i raddau helaeth o berffeithrwydd. Eel canwr y rhagorai Mr. Weiss. Yr oedd er ys amryw flynyddoedd bellach wedi enill ei safle yn y dos- barth blaenaf fel canwr bass; ac er fod Mr. Santley yn ddiweddar wedi esgyn a chymeryd ei le yn ymyl Weiss, os nad wedi rhagori arno mewn rhai pethan, eto ni fydd- ai un gylchwyl gerddorol yn llawn os byddai Mr. Weiss yn eisiau. Ar ol bod yn canu, yn ei hwyliau goreu, yn nghylchwyliau Henffordd a Birmingham yn nechreu yr Hydref, cymerwyd ef yn glaf, a bu farw yn annysgwyl- iadwy, heb ond ychydig o afiechyd. Yn Lloegr, y mae y prif ysgogiad wedi bod y flwyddyn ddiweddaf mewn cysylltiad a Llyfrau Hymnau a Thon- au, ac a gwasanaeth Corawl yn yr Eglwysi Esgobaethol. . Gellid tybied nad oes terfyn i fod ar gyhoeddi Casgliad- au o Hymnau, Salmau a Thonau. Y rhai goreu a ddaethant allan yn ystod y flwyddyn ydyw Kemblës Hymns, &c, gyda Thonau gan Dr. S. S. Wesley; Hymnau a Thonau at wasanaeth y Presbyteriaid Seisonig; a The Year of Piaise, sef Casgliad o Hymnau a Thonau dan olygiaeth Dr. Alford. Heblaw fod cynwysiad y Casgl- iadau hyn yn rhagorol, y mae eu dyfodiad allan yn profi fod Caniadaeth grefyddol yn dyfod yn destyn mwy o sylw yn barhaus, a bod ychwanegiad mawr yn cymeryd lleyn nifer y rhai'sydd!yn alluog i ddefnyddio y Llyfrau Tonau hyn. Y mae Mr. Curwen, a'r fyddin gref, luosog o gydweith- wyr sydd ganddo, yn parhau i weithio allan eu hamcan- ion gyda diwydrwydd, medr, ac egni anarferol; ac y mae y llwyddiant sydd wedi bod ar eu hymdrechion yn add- aw yn deg na chaiff un dyn na dynes ieuanc fod yn Lloegr na Chymru yn fuan heb fod yn alluog i ddar- llen eu llyfrau cerddorol fel eu Beiblau. Yn Nghymru, dichon fod llai nag a fu o lafurio wedi bod y flwyddyn ddiweddaf gyda'r gyfundrefn mewn rhai parthau; mewn parthau eraill y mae llawer mwy nag a fu mewn un flwyddyn; ac felly, ar y cyfan, myned yn mlaen, ac nid myned yn ol nac aros yn yr anman, y mae y gyfundrefn yn ein gwlad. Yn Ewrop, nid oes un cerddor newydd mawr wedi ymddangos yn ystod y flwyddyn; ond dywedir fod Wagner, er cymaint a fu o'i wawdio ac ysgrifenu yn ei er- byn yn mhob modd, yn enill poblogrwydd yn yr Almaen. Gyda chreu arddull newydd o gerddoriaeth, y mae gan- ddo i greu archwaeth at yr arddull hono ; ac ymddengys