Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CERDDOR CYMREIG. ÍÄlffejrafiro atŵffi AT WASANAETH CEEDDOBIAETH ÎN MTSG ÇENEDL Y CYMRY, CYHOEDDEDIG DAN JSTAWDD PRIF GERDDORKẂ, CORAU, AC UNDEBAÜ CERDDOROL Y GENEDL. Ehif. 82. EHAGFYE 1, 1867. Pris 2g.—gydcCr post, 3c. TAITH GEEDDOEOL YN SIR FEYCHEINIOG. Yn ystod mis Hydref, cawsom yr hyfrydwch, ar gais Cyfarfod Misol y Methodistiaid Calfinaidd, o dalu ymweliad â rhanau helaeth o Sir Frycheiniog mewn cysylltiäd â chaniadaeth grefyddol. Porthi anifeiliaid a thrin y ddaear ydyw y rhan fwyaf o waith y wlad hon. Nid oes yno ddim o'r bywyd a gyfrenir gan weithfaoedd glo Morganwg aMynwy,nachan ChwareliLlechau Arfon a Meirionydd, oddigerth ychydig iawn yn y cwr isaf; ac y mae hwnw mewn gwirionedd yn dal perthynas agos- ach â Mynwy nag a Brycheiniog. Y mae y cwr uchaf yn Red enwog ar gyfrif y Ffynonau rhinweddol a geir yno. Yno y mae Llanwrtyd, Llangamarch, a Llanfair-yn- Muallt. Bu llawer o gyrchu i'r lleoedd hyny yn y blyn- yddoedd diweddaf, ac y mae llawer iawn mwy yn debyg o fod yn y dyfodol, ar ol i'r rheilffyrdd gael eu hagoryd. yno, o bob cyfeiriad oddigerth cyf'eiriad Llanymddyfri. Deallwn fod gorpheniad hono hef'yd yn prysur agoshau; ac yr ydym yn deall fod heddwch " Sierlyn " ac " Idwal" ar f'ynydd Eppynt i gael ei dori cyn hir gan swn chwi- banogl a thwrf olwynion " y trên" yn rhedeg dros y mynydd hwnw rhwng Llanwrtyd a Dyfynog. Y mae dy- lanwad ymweliadau dieithriaid yn yr haf â'r lleoedd a Hodwydi'w ganfod yn amlwg gyda glenydd yr Irf'on; ac y mae y dylanwad hwnw yn cyrhaeddyd, ac yn effeithio ychydig yti anunion-gyrchol, ar eu cerddoriaeth. Petn arall ag sydd yn gosod pwysigrwydd neillduol ar Frych- einiog ydyw, fod dau o brif golegau Cymru yn y sir hono, coleg y Methodistiaid Calfinaidd, dan of'al y Parchn. W. Howells a Dr. Harris Jones, yn Nhrefecca ; a choleg yr Annibynwyr, dan ofal y Parchn. Mri. Morris a Roberts, yn Aberhonddu. Cawsom amrywiol gyfarfodydd canu yn ystod ein taith—cyfarfodydd trwy y dydd; sef, yn ìîhrefcastell, Merthyr Cynog, Talgarth, a'r Gorwydd. Yn y cyntaf, yr oedd yn gynulledig amryw o'r Crai, Defynog, Pentrefelin, a lleoedd ereill, heblaw o'r dref. Cymerwyd y gadair gan y Parch. D. Williams, gwein- idòg y Methodistiaid Calfinaidd yn y lle. Canwyd nif'er o Donau, a rhai o honynt yn dda, yn ystod y cyfarfod- ydd. Yr oedd yn dda genym ddeall hefyd fod graddau o lafur yn y lle hwn a rhai o'r ardaloedd ereill a nodwyd gyda dysgu canu, ac yn enwedig yn ol cyfundrefn y Tonic Solfa. Yr oedd yn dda genym ddeall fod un cyf- aill yn parhau i lafurio yn Defynog, a chawsom yr hyfrydwch o holi a chymeradwyo tri o'i ddisgyblion am yr Intermediate Certificate. Yr oedd ol mesur helaeth o lafur yn Crai; a chymerodd un cerddor ieuanc talentog yr Intermediate Certificate yn Nhrecastell. Yn Merthyr Cynog, nid oedd un gweinidog yn bresenol i lywyddu y cyfarfodydd. Heblaw pobl y lle, yr oedd yno lawer o bobl o'r Capel Isaf, Bont.faen, Llanfihangel Nant Bran, a lleoedd ereill. Ár y cyfan, yr oedd y canu yn llcd dda; ac yn enwedig wrth ystyried nad oes yn yr ardal- oedd hyn ond ychydig—rhy ychydig o lawer, o lafur gyda chaniadaeth grefyddol. Gallcm tîybied fod graddau helaethach"o lafur a bywiogrwydd yn y Capel Isaf nag un o'r ardaloedd ereill; a dichon fod hyny i'w briodoli i fesur helaeth i weithgärwch a dyfal-barhad yr arwein- ydd. Cawsom gyfarfod cänu yn addoldy y Methodistiaid Calfinaidd yn Aberhonddu, dan lywyddiaeth y Parch. Mr.^Williams, gweinidog yr Annibynwyr. Yr oeddym yn cael fod y dref hon, fel llawer o drefydd yn Nghymru, yn llafurio dan raddau helaeth o anfantais oherwydd y cymysgedd sydd yno o'r ddwy iaith. Y mae y Saesoneg yn enill tir, a'r rhan amlaf o'r bobl ieuainc yn dewis y Saesoneg yn hytrach na'r Gymraeg. Oherwydd hyn, rhenir pob un o'r gwahanol enwadau i ddwy gynulleidfa, y rhai a addolant mewn dau addoldy. Yn addoldy Cymr aeg y Methodistiaid Calfinaidd nid oes ond ychydig mewn cymhariaeth o bobl ieuainc. Y mae yno harmo- nium, yr hon a chwareuir gan foneddiges ieuanc ag sydd yn dra awyddus nid un unig i wneyd yr oll a allo gyda'r rhan hon, ond hefyd i wasanaethu crefydd hyd eithaf ei gallu yn mhob cylch arall. (ìydag ychydig mwy o drefn, a chydweithrediad yn ysbryd yr efengyl, gallai y canu yn yr áddoldy cyfleus hwn fod yn fwy effeithiol nag y mae. Yn addoîdy tra destlus y Methodistiaid Calfin- aidd Saesoneg y mae organ fechan, yr hon, o'i maint sydd yn un o'r rhai goreu ei thôn a gyfarfuasom erioed. Y mae yno fesnr o lafur, ac yr ydym yn deall fod y canu yn gwellhau. Yn Nhalgarth y cawsom y cyfarfodydd canu pwysicaf a gawsom yn y dáith hon. Saif y dref fechan hon o fewn miíldir i athrofa Trefecca. Llywydd y cyfarfodydd oedd y Parch. W. Howells, llywydd athrofa Trefecca; ac yr oeddygynulleidfayncaeí ei gwneydi fyny ifesurhelaeth o'r efrydwyr. Deallwn fod yno tua 40 o honynt yn bre- senol, acyn canu. Cafwyd canu rhagorol ar rai o'r Tonau. Nid y canu yn y cyfarfodydd hyn, pa fodd bynag, oedd y prif beth yr edrychem ato, ond y cantorion. Nis gallem lai na theimlo llawer o hyfrydwch wrth weled yr efryd- wyr ieuainc hyn, yn mysg pa rai, yn ddiau, y mae aml un, ni a hyderwn, a osodant euhöl ar Gymru er daioni, yn ymgymeryd mor ëgniol â'r rhan hon o wasanaeth crefydd. Rhy ddistaw, diymdrech, ac esgeulus y mae ein gweinidogion wedi bod gyda'r gwaith hwn ; ac y mae eu hesiampl hwy wedi bod yn un achos/mawr o esgeulusdra y cynulleidfaoedd a'r eglwysi. Arwydd er daioni, yn ddiau, ydyw fod y dynion sydd yn ein ha- throfeydd yn ymddarparu gogyfer a gwaith mawry wein- idogaeth yn ymddarparu hefyd gogyfer a'r rhan bwysig sydd yn perthyn iddynt yn y gwaith hwn. Yr oeddym yn deall fod un o'r efrydwyr yn athrofa yr Annibynwyr yn Aberhonddu, wedi ffurfio dosbartb i'r efrydwyr i ym- arfer â cherddoriaeth yn nghyfundrefn y Toníc Solfa. Deallwn hefyd fod dosbarth cerddorol gan efrydwyr Trefecca; a'cni ryfeddem os ydynt hwythau erbyn hyu wedi ymgymeryd o ddifrif, yn broffeswyr ac yn efryd- wyr, â'r gyf'undrefn rwydd, f'anteisiol hono. Nis gallem lai na theimlo pwysigrwydd ein sefyllfa wrth geisio rhoddi ychydig o gyf'arwyddiadau yn y cyfarfod hwn, ar yr hyn sydd yn dal y fath gysylltiad bywiol â chrefydd