Skip to main content

Y C «Ulíífgra&ro B'ml iT WiSiMETH CEEDDORIiETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY CYHOEDDEDIG BAN JSTAWDD PRIF GERDDORION, CORAÜ, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Ehif. 80. HYDREF 1, 1867. Pris 2g.—gydcùr post, Bc. Y CYLCHWYLIAU CERDDOROL. Y mab yn disgyn i'n rhan heddyw i gofnodi dim Uai na thair o uchel wyliau cerddorol; a chan eu dilyn yn eu trefn amseryddol, yr ydym yn dechreu gyda— Chylchwyl y Trî Chor yn Henffordd. Cynaliwyd hon ddyddiau Mawrth, Mercher, Iau, a Gwener, Awst 20, 21, 22, 23. Hon oedd y bedwaredd gylchwyl a deugain a chant o eiddo y tri chor, sef Hen- ffordd, Caerloyw, a Chaerwrangon ; ac y mae pob ar- Wyddion mai myned ar gynydd mewn dyddordeb ac effeithiolrwydd y maent. Y gerddoriaeth a ganwyd boreu dydd Mawrth oedd—Overture y "Farn Ddiweddaf" (Spohr); Aralleiriad Milton o Psalm 84 (Spohr); Ascribe Unto the Lord (anthem a gyfansoddwyd gan Dr. Wesley ar gyfer y gylchwyl ddiweddaf); ac Oratorio Israel in Egypt, gan Handel. Y mae un peth newydd i'w gry- bwyll mewn cysylltiad a'r oratorio hon, sef y rhanau offerynol a ysgrifenwyd gan Mr. G. A. Macfarren i'r gwynt-ofíerynau, ar gyfer y gylchwyl hon. Chwareu- wyd y rhai hyn yn Henffordd eleni heb y rhan i'r organ a ysgrifenwyä gan Mendelssohn amryw flynyddoedd yn ol. Y prif gantorion a gymerasant ran yn yr or- atorio oeddynt:—Mdlle. Tietiens, Miss Edith Wynne, Madame Patey-Whytock, Miss Julia Elton, Mr. Sims Reeves, Mr. Montem Smith, Mr. Santley, a Mr. Weiss. Gyda'r fath gantorion, nis gallesid disgwyl dim ond canu rhagorol; a hyny a gafwyd. Y mae ein Cymraes dalentog, Miss Edith Wynne, erbyn hyn wedi dringo ttior uchel fel y mae pob beirniad cerddorol a wyr íywbeth am ei waith yn gorfod rhoddi uchel gymerad- Wyaeth iddi. Da ydyw gweled hefyd fod Madame Patey-Whytock yn cynyddu fel alto, fel ag i wneyd i fyny mewn rhan helaeth y diffyg a deimlir wrth glywed llais Madame Sainton-Dolby yn gwaethygu. Dyma y tro gyntaf i'r Oratorio hon gael ei chanu yn Henffordd ; ac yr oedd y datganiad a roddwyd o honi y tro hwn yn gredyd mawr i bawb a gymerasant ran yn y gwaith. Gwnelid i fyny gyngherdd y nos o ddarnau amrywiol, y rhai nid ydynt yn galw am un sylw arbenig yn y lle hwn. Dydd Mercher, yr oratorio oedd Elijah ( Mendelssohn). Cymerwyd y prif ranau gan Madame Jenny Lind Gold- schmidt, Miss Julia Elton, Mr. M. Smith, a Mr. Weiss yn y rhan gyntaf; a chan Mdlle. Tietiens, Miss Edith Wynne, Madame Whytock, Mr. Smith, a Mr. Weiss yn yr ail ran, Y mae un diffyg pwysig yn natganiad yr oratorio hon yn gyffredinol, a hwnw ydyw, diffyg person- au neillduol i gynrychioli pob un o'r cymeriadau. Nid ydoedd yn Henffordd y tro hwn mor gymysglyd ac an- nramayddol ag y bydd weithiau. Gwrthun iawn ydyw gweled y Frenhines sydd yn galw ar y bobl i ddal a lladd y prophwyd a'r angel sydd yn ei ddiddanu mor gysurus yn y gan " O rest in the Lord " yn cael eu cyn- rychioli gan yr un person; a llawn mor wrthun a hyny ydyw rhoddi yr un sydd yn cynrychioli y wraig weddw i gynrychioli gwas y prophwyd ar ol hyny. Ond yr oedd gradd o welliant yn ypeth olaf hwn eleni yn Henffordd; yr oedd un arall yn cynrychioli y gwas ; ond nis gallwn weled pa briodoldeb oèdd mewn rhoddi Miss Edith Wynne i gynrychioli y llanc hwnw. Paham na ddar- perir rhyw lanc i wneyd hyn o orchwyl? Disgynodd yr ünodau Tenor i gyd ar Mr. M. Smith, yn absenoldeb Mr. Sims Reeves, yr hwn oedd i'w cymeryd yn yr ail ran; a chymerwyd rhan y prophwyd i gyd gan Mr. Weiss; ac er fod y gerddoriaeth mewn manau yn rhy uchel i'w lais, efe a ganodd y cwbl gyda theimlad a mynegiad tra rhagorol. Os oedd llais Madame Lind- Goldschmidt yn dlotach a mwy anystwyth nag yr oedd er ys ugain mlynedd yn ol, yr oedd ei gallu celfyddydol yn llawn cymaint ag y bu erioed. Yr oedd ei pherson- oliad o'r wraig weddw y tuhwnt i bob canmoliaeth. Nid oedd y cydganau yn llawn cystal y dydd hwn a'r dydd blaenorol. Oherwydd poblogrwydd yr oratorio ac enw- ogrwydd Jenny Lind, yr oedd y gynulleidfa y dydd hwn yn fawr iawn. Ỳn y rhan gyntaf o'r gyngherdd yn yr hwyr, canwyd Acis and Galatea (Handel) ; ond nid dim arall yn y cyfarfod yn galw am sylw pennodol. Boreu dydd Iau, canwyd Ruth, cantata gysegredig a gyfansoddwyd gogyfer a'r gylchwyl gan Mr. Otto Gold- schmidt, a Requiem Mozart. Bydd gwell mantais i ffurf- io barn deg ar waith Mr. Goldschmidt ar ol iddo gael ei gyhoeddi. Cymerwyd y gwahanol gymeriadau fel hyn: —Ruth, Madame Lind Goldschmidt; Naomi, Madame Patey-Whytock ; Boaz, Mr. Montem Smith ; a'r arwein- ydd oedd y cyfansoddwr. Canodd Jenny Lind ei rhan yn dra rhagorol; a chafodd y gwaith dderbyniad gwres- og gan y gynulleidfa. Am Requiem Mozart, y mae hono wedi cymeryd ei lle yn mysg yr anfarwolion; a chafwyd datganiad ardderchog o honi y tro hwn—y prif ranau gan Mdlle. Tietiens, Miss Julia Elton, Mr. M. Smith (yn lle Mr. Sims Reeves eto), a Mr. Weiss. Dydd Gwener oedd dydd neillduedig y Messiah ; ac yr oedd yr eglwys gadeiriol yn orlawn. Yr oedd yr holl brif- gantorion yn cymeryd rhan yn yr oratorio hon; ac yr oeddynt yn eu hwyliau goreu. Yr oedd Mr. Sims Reeves wedi gwellhau (pa beth bynag oedd natur ei anhwyldeb), ac yn canu yn y fath fodd ag nas gall neb arall ond efe. Anliawdd fuasai meddwl wrth ei ganu ei fod wedi bod yn anhwylus er ys blwyddyn. Rhanwyd y prif soprano rhwng Mdlle. Tietiens a Madame Lind-Goldschmidt; ac felly syrthiodd yr alaw dra ardderchog, I know that my Redeemer lîveth, i ran yr olaf. Os nad oedd rhai o'i nodau yn hollol y peth y buasent er ys amser yn ol, yr oedd ei datganiad yn dra arddunol. Yn ddiweddglo ar y gylchwyl, cafwyd cyngherdd amrywiaethol yn yr hwyr. Ar y cyfan, yr oedd y gylchwyl hon yn un dra llwydd- ianus. Achoswyd ychydig o ddiflasdod trwy fod Mr. Sims Reeves yn analluog i gymeryd'ëi ran ; ond yr oedd Mr. Montem Smith yn ewyllysgar iawn i wneyd ei oreu i wneyd y diffyg i fyny. Enillodd Miss Edith Wynne lawer iawn o glod yn y gylchwyl hon. Yr arweinydd yn y cyngherddau oll, oddiger'th yn Ruth, oedd Mr.