Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CERDDOR CYMREIG. AT WiSANAETH CEBDDOBIAETH Y"N MYSG CENEDL Y CYMBY CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 78. AWST 1, 1867. Peis Ig.—gyddr post, 3r. Y CHWARELWR : EI OHCHESTION A'l ANTTJRIAETHATT. (Y Pennillion buddugol yn Nhalsarn. Anttjbtjs yw 'r Chwarelwr llon, A medrus gyda 'i arfau; Beiddgarwch Uew sydd yn ei fron, A'i nerth yn ei ewynau ;— I gol y clogwyn uchel dring, Ar iryd ei rafyn heini'; A'i ddarnio wna heb ofni ing, Er cael ei werthfawr lechi. Cydgan. Cydganwn oll ei glod tra gwlaw Yn disgyn o gymylau ; Eho'wn hèr i'r 'storm heb ofni braw, Dan nodded tô 'n haneddau. Tr erchyll graig efe a faidd, Chwareua ar ei dannedd;— Ao weithiau sudda dan ei gwraidd Gan dynu hon yn garnedd; — Ei lymion eirf a dreiddiant trwy Y creigiau, er mor gelyd ; A thwrf ei bylor fydd yn fwy Na thwrf mynycldoedd tanllyd. Cydganwn oll, &c. O gylch ei ben chwymella 'i ordd, A thani cwyna 'r meini; Er eu caledrwydd rhoddant ffordd Fel coed i'w fedr a'i yni;— A'i drosol treigla geryg mawr, O'i ddeutu yn gludeiriau; A thyn ei wagen * megys cawr, Yn ol ei ddoeth gynlíuniau. Cydganwn oll, &c. A'i gynion gloywon ger ei glun, Gwna 'r ceryg fel dalenau; Ni allant ddal i awch ei gyn, Heb droi 'n deneuon lechau;— Ond coron ei orchestion yw Ei waith yn cyflym naddu; Ei gyllell lem sydd fel yn fyw, Yn brysio i drywanu. Cydganwn oll, &c. Clwt-y-Bont, D. M. Jones. *" Waggon."—Efallai mai gwell cymeryd yr enw uchod, a'i gyffelyb, fel eu harferir gan chwarelwyr.—D. M. J. CYSTADLEUAETH GERDDOROL PARIS. DrDD Llun, Gorph. 8fed, daeth y gystadleuaeth gerdd- orol yn mlaen yn yr Arddangosfa yn Paris. Swm y wohr, fel yr hysbyswyd yn y Cerddob. yn barod, oedd .£200; ac yr oedd y gystadleuaeth yn agored i'r holl fyd. Er fod y gystadleuaeth felly mor agored, ni ddaeth ond wyth o gorau yn mlaen. Yr oedd y rhan fwyaf o'r Uhai hyny o Ffrainc; ac nid oedd ond un yn unig o Brydain, sef Cor Tonic Solfa, o Lundain, dan arweiniad Mr. Proudman. Yr amser i ddechreu oedd dau o'r gloch; ond oher- wydd amhrydlondeb ac aflerwch yn rhai o gorau Ffrainc, ni ddechreuodd y gystadleuaeth hyd dri. Tyrmi y Cor Saesonig gryn lawer o sylw, oherwydd ei fod yncynwys merched, pryd nad oedd y corau ereill yn cynwys dim ond meibioii. Agorwyd y gystadleuaeth gan gor o Bel- gium, yn cynwys 100 o bersonau, y rhai a ganasant ddernyn lled faith, sef yr " Hymne du Matin " (Han- seus), a "Tyrol" (A. Thomas)." Wedi hyny, canodd y corau canlynol:—1' Union Chorale de Liíle, l'Ayenir de Marseille, les Enfants de Lutece de Hal, le Societe Im- periale de Lille, a Roland de Lathe de Hal. Canodd pob un o'r corau hyn naill ai yr " Hymne du Matin," y 'Les fils d'Egypte," neu y " Tyrol;" ac yr oedd pob un o honynt yn canuyn dda—yn naturiol, eglür, a deallgar; ond teimlai pawb fod y ddau olaf yn rhagori cryn lawer ar y lleill. Ar ol hyny, wele y cor Saesonig yn y golwg, a thorodd yr holl dyrfa allan mewn banllefau o groesaw a fuasid yn ystyried y tu yma i'r môr yn yroylu ar or- phwylìedd. Mae yn debyg mai i'r boneddigesau oedd yn y cor ys oedd y cor yn ddyledus am y rhan fwyaf o hyn. Nifer y cor oedd 72. Ar ol cael distawrwydd, canasant yr Hunting Song (Benedict). Cododd yr holl gynull- eidfa ar eu traed gyda tharawiad y frawddeg gyntaf, "Rise, sleep no more;" ac ysgrifena gohebydd un o bapyrau dyddiol Llundain: — " Tynodd datganiad y peunill cyntaf i lawr daranau o gymeradwyaeth, ac ar- gyhoeddwyd y Ffrancod cyn diwedd y dernyn y gall y Saeson ganu. Darfu i burdeb y seiniau, melusder a choethder y mynegiant, ac yn enwedig lleisiau ystwyth a thyner y boneddigesau, greu furore. Nid oes un am- henaeth nad cor y Tonic Solfa sydd yn cael mwyaf o ffafr yn ngolwg y bobl." Ar ol hyn, canwyd y "Shep- herd's Farewell" (H. Smart). Galwyd y cor yn ol dra- chefn, ac yr oedd y gynulleidfa, fel yn orphwyllog, yn neidio, yn troi eu hetiau, ac yn galw o hyd am ragor. Wedi hyny, canodd y cor " Partant pour la Syrie " (an- them genedlaethol Ffrainc), wedi ei threfnu gan yr ar- weinydd, ar eiriau Saesoneg o waith Mr. J. Plummer. Cododd hon y galw am ychwaneg yn uwch fyth, pe yn bosibl; a therfynodd y cor gyda'r Anthem genedlaethol Saesonig. Yr oedd y banllefau o gymeradwyaeth ar un- waith yn ddigon i ddychrynu y merched ar y naill law, ac ar y llaw arall yn ddigon o dal iddynt am eu gwrol- deb yn ymweled a Ffrainc, ac yn sefyll i fyny '^y. y fath gystadleuaeth. Yn mysg y beirniaid yr oedd, ìîî^jstri Caiwalho, Cohen, Duprez, Gounod, A. Thomas, &c. Ar ol y canu ardderchog hwn, ac ar ol y fath dderbyri- ! iad gwresog, rhaid addef mai nid dymunol iawn dranoeth ydoedd clywed mai cor arall oedd i gael y wobr. Y cor hwnw oedd Cymdeithas Gerddorol Ymerodrol Lille; a'r rheswm a rodawyd dros y dyfarniad hwn ydoedd, fod ý cor Saesonig allan o'r gystadleuaeth, oherwydd ei fod yn cynwys merched. Pa fodd y rhoddir eglurhad ar hyn nis gwyddoih ; ond gwyddom nad oedd un gair o gry- bwylliad yn yr hysbysiad a ddaeth i Frydain nad oedd caniatad i gorau cymysg i gystadlu. Dywed un o'r cor ei bod yn 7 o'r gloch pryd y galwyd arnynt hwy i ganu, a'u bod yn dra blinedig oherwydd nad oeddynt ẃedi cael dim i'w fwyta ar ol brecwast. Ac ar ol i'r canu fyned drosodd, yr oedd y bobl wrth y mil-