Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CERDDOR CYMREIG ílltjtgrsẁtt itisfll AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PPJF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 77. GORPHENAF 1, 1867. Pkis 2g.—gyddr post, 3c. CEEDDOEIAETH GEEFYDDOL YN SIE DEEFALDWYN. Un o'r pethau a hynodent ranau neillduol o Sir Drefal- dwyn er ys deugain mlynedd yn ol oedd cerddoriaeth. Nid ydyw y sir yn enwocach mewn dim nag yn ei hemyn- wraig anfarwol, Mrs. Anne Griffiths, a'i cherddorion godidog, David Harries, Henry Mills, William Owen (Gwilym Ddu), R. Woodhouse, James Mills, Richard Mills, John Mills, &c. Er ys deng mlynedd ar hugain yn ol, yr oedd y rhanau uchaf o'r wlad yn fyw gan gerdd- oriaeth; ac o'r Drefnewydd a Llanidloes, ac yn enwedig trwy James Mills, W. Owen, Richard Mills a John Mills, y rhoddwyd un o'r cynhyrfìadau grymusaf i gerddoriaeth trwy holl dywysogaeth Cymru. Erbyn hyn y mae yr enwogion hyny wedi ymadael; ac er eu bod " wedi marw yn llefaru eto," nid ydyw Sir Drefaldwyn wedi dal ei thir a chadw y flaenoriaeth a roddwyd felly iddi. Yn niwedd mis Mai diweddaf, ar wahoddiad Cyfarfod Misol y Methodistiaid Calfinaidd, ni a dalasom ymwel- iad byr a brysiog a rhanau o'r wlad. Cawsom gyfarfodydd yn y Carneddau, Meifod, Llanfair Caereinion, Llan- wyddelan, Carno, Llangynog, Llanrhaiadr, a Chroesos- wallt. Yr oedd yn dda iawn genym ganfod mesur o ddeffroad gyda'r achos yn y rhan fwyaf o'r lleoedd hyn. Nid ydyw y boblogaeth ond teneu, ac felly nis gall y cynulleidfaoedd fod ond bychain; ond nid ydyw hyny o angenrheidrwydd yn achos fod y canu yn wael. Gorch- wyl lled anhawdd yw cael canu gwell nag a geir mewn rhai cynulleidfaoedd bychain y gwyddom am danynt yn Nghymru. CaWsom ein sirioli yn fawr wrth weled y swyddogion crefyddol—y diaconiaid a'r gweinidogion, yn cymeryd dyddordeb yn yr achos. Cyfarfyddasom a nifer o weinidogion—dynion ieuainc gan mwyaf, ag oedd- ynt yn ymdeimlo yn ddyladwy a'r pwysigrwydd o wneyd a fedront yn mhob modd gyda'r achos hwn. Hawdd ydyw càel dynion i addef fod canu mawl yn un o ranau pwysicaf gwasanaeth cysegr Duw—i gydsynio mewn rhyw ddull cyfifredinol ei fod yn ddyledswydd ar bob perchen anadl i folianu yr Arglwydd—ac i gydnabod yn mhellach y dylai y rhan hon o'r gwasanaeth gael ei chyflawni yn y modd mwyaf trefnus ac effeithiol; ond yn y fan y ceisiom osod y dolenau hyn at eu gilydd a'u rhwymo hwy at eu dyledswydd, y maent a'u holl egni yn ceisio fíbi ac ysgwyd pob cyfrifoldeb yn yr achos hwn oddiar eu hysgwyddau. Er fod yr hen wrthddadl—mai ychydig mewn cymhariaeth sydd wedi cael gallu i ganu, wedi e; phrofi yn gyfeiliornus gannoedd o weithiau bell- ach, eto ceir rhyw bobl yn ceisio taflu yr hen gerpyn budr hwn i'n hwyneb yn barhaus pan y beiddiwn wasgu arnynt hwy yn lled galed am ymaflyd yn eu dyledswydd. Am y gweinidogion, a'r swyddogion ereill, a welsom yn Sir Drefaldwyn, pa fodd bynag, dyledus ydyw dweyd na chawsom ddim o'r fath oddiwrthynt. Ymddengys eu bod yn credu yn ddiffuant fod gan gerddoriaeth däylanwad tra nerthol, a'ù bod o ddifrif am droi nerth y ffrwd yn mhlaid achos crefydd yn y wlad. Y mae rhai o honynt hefyd wedi cael mwy nag un dalent at ganu, ac y mae ar eu dwylaw i wneyd daioni dirfawr yn y cyfeiriad hwn. Gwelsom fod llawer o gyfeillion yn y wlad yn llafurio i ddysgu y plant a'r bobl ieuainc yn egwyddorion cerdd- oriaeth yn ol cyfundrefn y Tonic Solfa, heb adael i an- wybodaeth, rhagfarn, nac eiddigedd eu rhwystro. Cyf- arfuasom ag un yn y rhan isaf o'r wlad ag oedd yn dra ymroddgar gyda'r gwaith hwn, sef Mr. Rowland Jones, Llanrhaiadr. Gresyn fod neb, yn nhywyllwch anwybod- aeth. na than ddylanwad rhagfarn, yn parhau i wrth- sefyll cyfundrefn ag y mae ei rhagoriaethaumoramlwg; oblegyd unwaith yr ymgymero dyn o ddifrif a dysgu nifer o blant i ganu yn ol y gyfundrefn hon, bydd yn amhosibl iddo lai na gweled fod ei ddisgyblion yn dysgu darllen cerddoriaeth yn llawer cynt ac yn fwy cywir nag y gwnaent yn ol yr hen drefn. Ac os cywir y rheol, "wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt," y mae y drefn yn llawer iawn mwy manteisiol na'r llall. Yr hyn sydd yn angenrheidiol bellach ydyw sefydlu a chadw dosbarth Tonic Solfa mewn cysylltiad a phob cynulleidfa trwy y wlad, fel y gallo y píant gael mantais i ddysgu canu fel i ddysgu i ddarllen, ysgrifenu a rhifo, pan yn blant. Trwy hyny, erbyn y byddo plant yr oes hon yn ddynion, bydd y dadleu anghywir, " Chefais i ddim talent," ac "Nid talent at ganu a gefais i," &c. wedi llwyr ddiflanu o'r wlad, a bydd gwedd arall a mwy dymunol ar ganiadaeth yn ein tir. Yn Ngharno, yr unig le y buom ynddo yn y rhan uchaf o'r sir, cyfarfuasom a nifer luosog o brif gantor- ion Llanidloes, Llanddinam, Caersws, Carno, Llanbryn- mair, heblaw Mr. J, Wilson, Carno, Mr. R. Humphreys, Llanbrynmair, a Mynyddog. Yr oedd y cyfarfod hwn yn un o gyfarfodydd yr ITndeb Cerddorol sydd yn y rhan hon o'r wlad. Yr oedd yma leisiau <ia iawn—lleisiau a ddygent ar gof i ni y canu swynol a glywsom ar lanau yr Hafren tuag ugain mlynedd yn ol. Yr oedd ol llafuryr Undeb hefyd i'w deimlo yn y canu. Canwyd rhai o'r Tonau yn rhagorol. Telid graddau helaeth o sylw i amser, pwyslais, a goslef. Yn nghaniadaeth gynulleid- faol ein gwlad rhy ychydig o sylw a delir i bob un o'r pethau hyn. Mewn llawer o gynulleidfaoedd, yn wir, ni thelir dim sylw i un o honynt. Cenir pob peth yn yr un amser, neu a siarad yn gywir, heb gadw un math o amser o gwbl; am y geiriau, nis gellir deall yn fynych pa eiriau a genir, ac nid yw y gynulleidfa erioed wedi meddwl am ymadroddi yn ddeallus a phwysleisio wrth ganu, nac ychwaith am roddi eu lleisiau allan yn y nerth a'r oslef briodol i'r syniadau a ddatgenir. Yma yr oedd ymestyniad canmoladwy at y naill a'r Uall o'r pethau hyn. Yr oedd ymgais at hyn yn Llanrhaiadr hefyd, a chawsom raddau helaeth o foddlonrwydd yn Nghrosos- wallt. Y mae yno leisiau da, a llawer o fywiogrwydd a llafur. Yn nglyn a hyn o hanes ein hymweliad a Sir Drefal- dwyn, dichon y goddefir i ni daflu allan awgrym neu ddau, nid yn unig i'r cyfeillion yn y sir hono, ond i'r rhai a chwenychont eu derbyn trwy y wlad yn gyfíredinol.