Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CERDDOR CYMREIG. «Slfígrafott Bml AT WASANAETH CEBDDOBIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIP GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 76. MEHEFIN 1, 1867. Pftis 2g.—gydàlr post, Sc. GEIRIADUR Y CERDDOR. B.—Hon ydyw y seithfed nod yn ngraddfa naturiol C* B.—Enw y drydedd linell o'r erwydd gydag allwedd G, a'r ail linell gydag allwedd F, fel hyn :— "* B B B Leddf.—B Flat. B wedi ei lleddfu—wedi ei gost- ^ng haner ton yn is na'i sefyllfa naturiol trwy osod Heddf-nod arni fel hyn;— B£ B£ B Lon.—B Sharp. B wedi ei lloni—wedi ei chodi haner ton yn uwch na'i sefyllfa naturiol trwy osod llon- nod arni, fel hyn:— l^EEÌfEE~I B Naturiol.—B Natural. B yn ei sefyllfa naturiol, heb na llon-nod na lleddf-nod arni, fel yn yr engraifft gyntaf uchod. B Leddp Fẃyaf.—B Fìat Major. Dywedir fod Ton, neu ddernyn o gerddoriaeth yn Nghyweirnod B leddf fwyaf pan y byddo yn B gyda dau leddf-nod, y naill ar B, ar llall ar E. fel hyn:— •^ Cyweirnod B leddf fWyaf. B Leiaf.—B Minor. Dywedir fod Ton, neu ddarn o gerddoriaeth yn B leiaf pan yn B gyda dau lon-nod, y naill arEa'r llall ar C fel hyn :— Cyweirnod B leiaf. Y gwahaniaeth gradd (pitch) rhwng y ddau gyweirnod uchod ydyw, fod y B Leiaf haner ton yn uwch na'r B Leddf fwyaf; y gwahaniaeth ansawdd ydyw, fod yr.olaf yn lleiaf a'r gyntaf yn fwyaf. Yn ol cyfundrefn y Tonic 'Solfa, dywedir am y cyntaf, Doh, Bj^; ac am yr isaf, DÓh D, Modd Lah. BaCchia.—Math o ddawns-gerddoriaeth, yn amser |, a arferir yn Kamschatka. Bacchanalia.—Gwleddoedd er anrhydedd i'r eilun Bacchus, duw gwin, y rhai a gynhelid gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Eu prif nodweddion oedd gloddest, toeddwdod ac anlladrwydd. Ni buasem yn ei crybwyll yma oni buasai ddarfod i gerddoriaeth gael eu darostwng *'w gwasanaethu. Bacheloe of Müsic.—Gradd gerddorol a roddir yn Rhydychain a Ghaergrawnt. Hon yW y radd isaf a roddir, fel y mae Bachelor of Arts (B.A.) yr isaf yn y celfydd- ydau. Nid ydym yn gwybod yn hollol pa beth sydd yn angenrheidiol er ei gyrhaeddyd, heblaw fod yr ymgeisydd wedi cyfansoddi darn o gerddoriaeth i amrywiol leisiau ac offerynau, ac i'r darn hwnw gael ei ddatgan yn neuadd gyhoeddus y brif ysgol. Nid ydyw bod yn feddianol ar y teitl hwn, na bod hebddo (mwy na'r un uwch, sef Doctor of Music) yn un arwydd neiìlduol o ragoroldeb na diffyg rhagoroldeb mewn cerddoriaeth; o herwydd y mae cerddorion cyffredin iawn wedi ei gael. Ta\fyriad o hono yw Mus. Bac. Badinage.—Ffr. Yn ysgafn, neu chwareus. Bagana.—Math o delyn ddegtant ag oedd yn arfer- edig yn Assyria. BagpipE—Yn yr oesoedd diweddaf, daeth yr offeryn hwn i gael ei ystyried yn offeryn cenadlaethol Ysgotland, fel y daeth y delyn yn Iwerddon a Chymru. Pa bryd y daeth i fodolaeth, na phwy a'i dyfeisiodd, nid oes neb a wyr. Dichon mai y disgrifiad henaf o offeryn o'r fath yma ydyw yr un a welwyd gan Mr. Barker, yn Tarsus, Asia Leiaf.. Tybir fod y gweddillion hyn tua 2,000 o flynyddoedd o oed. Dywed Mr. Barlcer ei fod yn cynwys rhes o bibelli nas gwyädys eu hyd oherwydd fod y rhan isaf o'r offeryn yn eisiau. - Gosodid y rhai hyn mewn math o gist awyr o ddefnydd hydwyth, yr hon fyddai yn ymledu wrth gael ei llanw. Oherwydd fod rhanau hel- aeth o'r offeryn yn eisiau, nis gellir pendeifynu pa un ai y llaw chwith neu y troed oedd yn gweithio i chwythu awyr i'r offeryn ; ac nis gellir gwybod ychwaith pa fodd yr oedd y pibelli yn cael eu chwareu; ond y mae sefyllfa yr offeryn yn dangos nas gallai y chwareuwr chwythu i'r pibelli a'i enau. Tybia Forkel ac ereill mai offeryn o'r fath yma oedd y Dulsimer a enwir yn Daniel; a barna llawer mai offeryn ar yr un egwyddor oedd y Magrepha Hebreig. Mae yn amlwg fod yr offeryn, nid yn hollol yn yr un ffurf, wedi bod yn arferedig iawn trwy holl Asia, ac nad ydyw yn bresenol mor boblogaidd ag y bu. Ceir ef yn mysg yr Hindwaid, dan yr enw Titti. Cafodd Mr. Hill ef yn nwylaw cerddorion Chineaidd ar gost Mongolia, a chyf- arfu Syr Wm. Ouseley ag ef yn Persia, dan yr enw Nei Ambanah (neu, pibell, ambanah, côd). Gwyddys hefyd fod y Groegiaid a'r Rhufeiniaid yn gydnabyddus a'r offeryn. Cyfansoddiad yr offeryn yn bresenol ydyw hyn :—Côd ledr lled fawr, i'r hon y chwythir awyr o'r genau neu trwy fegin. Yn gysylltiedig a hon y mae pibell hir heb fod yn annhebyg i fiute, yr hon a elwir chanter; a gweithrediad yr awyr ar y reed sydd yn y bibell hon sydd yn cynyrchu y sain. Y mae tyllau yn y chanter fel sydd mewn flute, y rhai a gauir ac a agorir a'r bysedd, er cynyrchu gwahanol seiniau. Rhanau ereill yr offeryn ydyw tair o drones, yn y rhai hefyd y mae reeds a phibelli. Y mae dwy o'r rhai hyn ÿn unsain a D ar y chanter, a'r llall wythawd yn is. Dyben y rhai hyn, bid sicr, ydyw cryfhau y sain a chynyrchu cynghan-