Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CERDDOR CYMREIG AT WASANAETH CEEÜDOEIAETH ÍN MYSG CENEDL Y CYMEY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 75. MAI 1, 1867. Pkis 2g.—gyddr post, 'àc. GEIEIADUE ¥ CEEDDOE. Aubade. Ffr.—Cyngherdd a roddir yn yr awyr agored yn y boreuj a than íFenestr y neb y rhoddir y gyngherdd er ei fwyn. Audace. Il —Yn eofn. t Aufhalung. Ell.—Estyniad, cordiau estynedig. Auelosung. Ell.—Adferiad cord, Aufschlag. Ell.—Y rhan o'r ban neu y mesur y byddo yr acen wan arno. Aufstrich. Ell.—Symudiad y bwa tuag i fyny. Auftakt. Ell.—Gweler Adchslag. Augmentation. Saes. Ogmenté'shyn.—Ychwanegiad. Mae y gair mewn arferiad wrth ymdrin ar eheagan (fugue) a gwrthbwynt (counter-point). Y mae yn dynodi fod y testyn yn cael ei efelychu mewn nodau hirach- dwbl hyd y rhai cyntaf yn y cyffredin ; ond nid yw yr ychwanegiad yn rhwym o fod yn ddwbl bob amser. Augmented. Saes. Ogmented.— Mwyedig. Pan fyddo cyfrwng yn cael ei wneyd yn fwy na'r hyn a elwir yn fwyaf, dywedir ei fod yn gyfrwng mwyedig. Gellir gwneyd hyny trwy ostwng yr isaf trwy leddf'nod, neu godi yr uchaf trwy lon-nod, fel hyn :— Sydd mwyaf. 8ydd mwyedig. i=8=iM; Gellir gwneyd pob cyfrwng yn gyfrwng mwyedig yn yr ün modd. Gair arall a arferir gan rai yn lle mwyedig ydyw " gor-lon"; ond gwell ydyw peidio sôn o gwbl am gyfryngau fel "líon" a "Ueddf." A una Corda. It.—Ar un tant. Aus. EU. Ows.—A llan o. Arferir y gair pan fyddo dernyn o gerddoriaeth wedi ei gymeryd allan o ddarn arall o waith rhyw awdwr. Ausarbeitung. Ell—Cwblhad, neu Iwyr orpheniad, cyfansoddiad cerddorol. Ausdehnüng. Eìl.—Estyniad, helaethiad. Ausdbuch. Ell.—Mynegiant. Auseuhrung. Ell.—Datganiad, cyflawniad. Aushaltung.—Dal neu gadw yn hir ar nod. Aushaltungszeichen. Ett.—Na ddychryned y dar- llenydd rhag hyd y gair hwn. Dyma yr enw a roddír gan yr Ellmyn ar y nodyn a elwir genym ni yn "saib." Ausweichung. Ell.—Trawsgyweiriad, symudiad o Un cyweirnod i un arall. . AUTENTICO. It. ) Awdurdodefüg. Authentic \ Authentic Cadencb.—Diweddeb awdurdodedig, neu berffaith. Authentic Modb.—Modd awdurdodedig, neu war- antedig. Arferir y gair, mewn cysylltiad a diweddebau a moddau, yn wrthgyferbyniol i plagal. Edr. Modd. Aixiliarv. Saes.—Cynorthwyoi. Auxiliart Notes.—Nodau cynorthwyol. Nodau bychain a roddir rhwng y nodau hanfodol, er esmwythau y symudiadau. Auxiliarî Scales. Saes. — Graddfäau cynorthwyoL Y graddfäau hyny sydd agosaf at law i drawsgyweirio iddynt, megys, y mwyaf neuy lleiaf perthynasol, graddfa y Llywydd, a graddfa yr Islywydd. Ychydig o ddei'n- yddio sydd ar yr ymadrodd hwn yn bresenol, ac nid o.es ond ychydig o reswm dros ei defnyddio o gwbl. Ave Maria. Afé Mar-í-a.—Ernyn i Mair y Forwyn. Y geiriau ydyw cyfarchiad yr angel i Mair, pa un a genir mewn cydgan yn Eglwys Rhufain. A yista. It.—Wrth olwg. A pbima vista.—Ar yr olwg gyntaf. Yr un peth a olygir yn gyffredin wrth y naill a'r lla.Il, er fod y gwr a gyfarfu a líandel yn Nghaerlleon yn gwneyd gwahan- iaeth rhyngddynt. Pan oedd Handel yn myned drosodd i'r Iwerddon gydag Oratorio y Messiah i'w chanu am y waith gyntaf yn Dublin, arosodd noswaith yn Nghaer- lleon. Yr oedd ei awydd yn fawr am glywed yr oratorio; a thuag at hyny, aeth i chwilio am gantorion goreu y ddinas i roddi prawf arni. Y cwestiwn cyntaf a ofynai i bob nn oedd, a fedrai efe ddarllen cerddoriaeth wrth olwg. Casglodd nifer o gantorion ynghyd,a dechreuasant ganu yr Oratorio ; ond yn nghanol un o'r darnau, cafodd fod un o'r cantorion yn lloíruddio y gerddoriaeth yn ech- rydus. Cynhyrfodd ei dymher ; a gofynodd, gyda llw, i'r troseddwr, " Oni ddywedsoch chwi y gallech ddarllen cerddoriaeth wrth olwg (at sight) f" "Do, Syr," oedd yr ateb, "ond ddywedais i ddim y gallwn ar yr olwg gyntaf." Azione Sacra.—Drama gysegredig, neu a fyddo wedi ei threfnu o amgylchiadau a gofnodir yn y Beibl. Dyna ydyw yr oratorios, yr eiddo Handel, Haydn, Beethoven, a Mendelssohn. CYSTADLEUAETH UNDEB LLENYDDOL WAENFAWR, LLANRUG, &c, PASG, 1867. Tôn—" Wrth gofio 'i riddfanau 'n yr ardd." Beirniadaeth leuan Gwyllt. Y mae y testyn hwn wedi tynu allan 34 o gyfansoddiad- au. Ymrana y rhai hyn yn bump o ddosbarthiadau. Yn yr isaf y mae Addolwr, Un dan 18 oed (y mae hon wedi ei cham-acenu), Madog ap Gryffydd, Osian Gwyn- edd, Credadyn, Cynog, Tyro, Alaw Robin, Gwilym Ar- fon, Collwyn. Mae yn amlwg fod pob un o'r rhai hyn yn gwybod rhyw gymaint am gynghanedd ; ond y mae ganddynt i lafurio cryn lawer eto cyn y byddont wedi ei meistroli yn dda. Hyderwn eu bod yn credu yn ddiysgog yn y geiriau—" Yn mhob llafur y mae elw." Yn yr ail ddosbarth y mae Ad Libitum, Galarwr, To- mos, Walter, Caradog ab Bran, Pengrych, Ap Drysíwyn, Dio Bach, Pechadur, Ap Ioan. Y mae gwaith lled dda yn y dosbarth hwn. Amlygant raddau helaeth o farn, chwaeth, a medr. Cynghanedda y rhai diweddaf yn y rhestr yn gywir.