Skip to main content

ŴUIipafeit Süs0í AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIE GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 74. EBRÎLL 1, 1867. Pius 2g.—gydcCr post, 'dc. Y DIWEDDAR SYfi GEOEGE SMABT. Eubyn hyn ÿ mae yr hên gerddor manwl, gofalus, di- wyd, a pharchus, Syr George Smart, wedi cael ei gymeryd oddiar y ddaear. Bu farw ddydd Sadwrn, Chwef. 23. Ganwyd ef yn mis Mai, 1776 ; ac felly yr oedd yn myned ar 91 mlwydd oed. Gwerthwr cerddoriaeth oedd ei dad, yn hyw ar gongl Argyle Street, Oxford Street; ac eie a ddysgodd ei ddau fah, George a Henry (tad yr Henry Smart presenol) yn elfenau cyntaf cerddoriaeth. Yn fuan, cafodd George le yn y capel brenhinol, St. James, fel aelod o'r cor. Y son cyntaf a geir am dano ydyw yn Ngwyl Goffadwriaethol Handel, pan yn fachgenyn bych- an, yn 1784. Yn mhen haner can mlynedd wedi hyny, yn y fl. 1834, efe oedd y prif arweinydd yn y Gylchwyl fawr a gynhaliwyd yn yr un lle. Yn 1811, gwnaed ef yn farchog gan Duc Richmond, Arglwydd Raglaw yr Iwer- ddon ar y pryd. Yn 1813, cawn ef yn cynorthwyo i sefydlu y Philharraonic Society, ac o'r flwyddyn hono hyd eu terfyniad ef'e oedd arweinydd y cyngherddau a roddid yn y grawys yn Covent Garden a Drury Lane. Cododd yn fuan i fod y piif arweinydd yn Lloegr. Efe oedd arweinydd y gerddoriaeth ar goroniad William IV. a'r Frenhines Victoria. Arweiniai y cyngherddau dinas- yddol yn 1818 ; a bu am flynyddoedd yn arweinydd y cylchwyliau cerddorol a gynelid yn York, Liverpool, Manchester, Derby, Norwich, &c. Efe oedd yr arwein- ydd yn Nghylchwyl fawr Manchester, yn 1836, pryd y bu farw Madame Malibran. Dan ei arweiniad e-f y canwyd amryw o'n prif gyfansoddiadau am y waith gyntaf yn Lloegr, megys y Creation (Haydn), Mount of Oîives (BeethoTen), St.Paul(Mendelssoh.n); trwyddo ef y caf- wyd Weber i gyfansoddi Oberon; yn ei dŷ ef yr arosai y cyfansoddwr, pan yn Llundain yn ei pharotoi, ac yn ei dŷ ef y bu efe farw, ar y 4ydd o Feh. 1826; a than ei arweiniad ef y canwyd Consecration of Sound (Spohr) a'r Choraì Symphony (Beethoven) am y waith gyntaf. Swydd arall a lenwai oedd organydd y Capel Breuhinol; ac efe heíÿd oedd " cyfansoddwr " y capel hwnw. Par- haodd yn y swyddau hyn hyd ddydd ei farwoiaeth. Yr oedd tad Smart wedi gweled a chlywed Handel; a thrwy fod Syr George wedi derhyn llawer o draddod- iadau oddiwrth ei dad ynghyleh y dull y byddai Handel yn datgan ei gerddoriaeth, byddai y rhai a ewyllysient ganu gweithiau Handel mor agos ag oedd yn ddichon- adwy i feddwly cyfansoddwr,yn myned am gyfarwyddyd at Syr George. Yn mysg y rhai hyn yr oedd Jenny Lincl a Sontag. Yn ystod ei fywyd hirfaith a llafurus, daeth i gydnab^rddiaeth bersonol a phrif gerddorion ei oes :— Haydn, Mozart, Clementi, Beethoven, Dussek, Cheru- bini, Rossini, Auber, Mendelssohn, Spohr, Donizetti Meyerbeer, a llu mawr o brif gerddorion pob gwlad. O ran athrylith, nis gellir ei restru yn y dosbarth blaenaf ; ac eto, trwy ddiwydrWydd, tiriondeb, a gofal, enillodd le parchus yn mysg prif gerddorion ei oes. H eb- law ei fod yn gerddor da, yr oedd yn wr boneddig, yn ystyr briodol y gair. WEDD Y GOLYGYDD. X. W.—Yr ydym wedi ateb yr un gofyniadau fwy nag unwaith yn y Cerddor ; ac y mae eglurhad cyflawn ar yr holl bwnc yn y Cerddor, Rhif. 30, tudal. 41, 42, 43. W. W.—Rhoddasom eglurhad helaeth ar Amser, yn ei holl Foddau, syml a chyfansawdd, yn y Cerddor, Rhif. 32, 33, 34, 35; ac nid oes genym ar hyn o bryd ddim i'w ychwanegu at y Pennodau hyny. Syniad cwbl anghywir, ac nid oes nn cerddor gwybodus a chyfarwydd yn ei gol- eddn, ydyw f'od pob dernyn cerddorol a fyddo mewn adfanigion a banigion i'w ganu yn araf. Yn un o gyf- ansoddiadau diweddaf un o bríf gerddorion Lloegr ceir cyfarwyddyd fel hyn:—^,— 152. E. T. D.—Ymae ymgaisdayny ganig "Rwy'n caru'r nos "; ond y mae rhy ychydig o ddyfeisgarwch ac am- rywiaeth yn y cynghaneddiad. Nid yw y gynghanedd yn hollol gywir, ychwaith. Mewn Canigion a Rhan-ganau, da ydyw rhoddi i bob un o'rileisiau gymaint o waith ag sydd ddichonadwy er gos'od allan y testyn, ac nid rhoddi y gwaith yn mron i gyd i'r Soprano, a gadael y lleill i falu cerig, neu i lanw y cordiau. J. W. T.—Cawsom hyfrydwch wrth edrych dros y Ganig hon. Y mae ynddi lawer o feddyliau cerddorol tlysion a naturiol; ond y mao y cynghaneddiad a'r gweith- iad allan yn ddiffygiol. Mewn trefn i ymberffeithio yn y peth diweddaf hwn, nis gellwch wneyd dim gwell nag astudio gweithiau y prif gyfansoddwyi-. Sylwch yn fanwl ar weithiau fiíendelssohn, Bennett, Benedict. Smart, Macfarren. Yr ydym yn eich anog i ddarllen ac astudio y gweithiau hyn,nid ermwyn benthycia eu medd- yiiau, ond er mwyn ymgyfarwyddo yn mhriod-ddulliau goreu yr iaith gerddorol. Aryrun tir yr ydym yn arf'er annogdynion ieuainc i astudio y traethodau a'r farddon- iaeth oreii yn yr iaith, nid gyda'r amcan iladrata naben- th ycia meddyliati yr awdwyr a ddarllenant, ond tuadat