Skip to main content

Y CE R CYMREIG CsIrSpẅtt §tol AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMEY. CTHOEDDEDIG DAN JSTAWDD PRIF CERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 71. IONAWR 1, 1867. Pkis 2g.—gyddr post, 3c. Y GYNGHERDD. Dichon nad oes dim wedi amlhau mwy yn y biynyddoedd diweddaf na chyngherddau ; ac eto, wrth edrych ar y pwnc yn ei wahanol gysylltiadau, gallem feddwl nad ydyw cyngherddau mof lliosog eto yn ein gwlad ag y dylent fod. Yrydym wedi crybwyll droion o'r blaen y byddai yn dra dy- munol fod un cor da, effeithiol, o leiaf yn mhob tref ac ardal boblogaidd, ac y gallai y cyfryw roddi cyfres o gyngherddau bob blwyddyn. Nid oes un amheuaeth nad ydyw cerddoriaeth yn Nghymru yn cael llawer rhy ychydig o waith, a bod y gwasanaeth a roddir iddi, ar y cyfan, yn llawer rhy isel ac annheilwng. Heblaw y daioni union-gyrchol a gynyrchir trwy ddylanwad cerddoriaeth dda, y mae llawer o achosion teilwng a allent dderbyn cymhorth oddiwrth gyngherddau. Y mae achos addysg yn gosod ger ein bron lawer o ffyrdd y gallai cy- ngherddau fod yn wasanaethgar; megys, talu dyled yr Ysgoldy, gwneyd i fyny gyflog yr ath- raw, cynorthwyo plant a dynion ieuainc i gael y manteision sydd yn angenrheidiol er dwyn allan eu gwahanol alluoedd. Gellid meddwl hefyd am luaws o achosion elusengar y gallai cyfarfodydd cerddorol fod yn gymhorth mawr iddynt. Gwydd- om y gwneir defnydd. helaeth o gyngherddau mewn cysylltiad ag achos crefydd yn uniongyrch- ol; ond nis gallwn weled fod llawer o briodol- deb yn hyny. O'n rhan ein hunain, nid ydym yn foddlon i gyngherdd na dim arall gyfryngu rhyng- om a chrefydd, yn ei gwahanol achosion, yn un- ion-gyrchol; a chyda phob parch i'r rhai a farnant yn gydwybodol yn wahanol, nis gallwn edrych ar lawer o'r dulliau a gymerir yn y blynyddoedd diweddaf hyn tuag at gael arian at achosion cref- yddol ond effaith camgymeriad a dirywiad mewn crefydd. Yr ydym dros y Ddarlith—y mae iddi ei lle a'i gwasanaeth ; yr ydym yn ffafriol i gyf- arfodydd te—dylid eu cael ; ac y mae eu gwas-, anaeth yn arbenig a phwysig i'r cyngherddau— credu yr ydym y dylid cael mwy o honynt; ond yr ydym yn credu mai camgymeriad ag sydd yn effeithio yn niweidiol ar ysbryd yr oes ydy w cynal y peíhau hyn er mwyn caei arian at achosion crefyddol. Yn yr achosion hyn, goreu oll pa agosaf fyddo y rhoddwr a'i rodd at y gwrthddrych y rhoddir iddo. Yr un peth ydyw swllt pa beth bynag fyddo amcan y neb sydd yn ei roddi. Gwir; ac eto, y mae gwahaniaeth pwysig rhwng rhoddi swllt am docyn i'r gyngherdd a rhoddi swlltyn union-gyrchol i Dduw, at ddwyn yn mlaen ei achos. Y mae rhoddi at achos crefydd, yn gydwybodol, fel y llwyddwyd ni gan Dduw, wedi ei ordeinio i fod yn foddion gras ; ond y mae dynion, trwy osod pethau daearol i gyfryngu rhwng eu rhoddion a'r achos, yn ymddifadu eu hunain o'r gras—o'r fendith ysbrydol a allent gael trwy roddi yn fwy digyfrwng. Ond a gadael achos crefydd i roddion gwirfoddol a rhydd-ew- yllysgar, fel y dylai fod, y mae llawer, ie, a digon o achosion da ereill ag y gall y cyfarfodydd a nodwyd fod yn dra chynorthwyol iddynt. Dymuném alw syiw ein darllenwyr, a'r wlad yn gyffredinol pe gallem, at y pethau canlynol mewn cysylltiad a chyngherddau. 1. Y lle i'w cynnal-—Tl'wy nad oes yn Nghy- mru eto ond ychydig o neuaddau cyhoeddus ac ystafelloedd pwrpasol at gyfarfodydd cyffredinol, yr ydynj yn cael ein gorfodi i gynal ein cyngherdd- au, y rhan fynychaf, yn ein haddoldai. Gorfod- aeth ydyw hon. Llawer gwell fyddai neuadd gyhoeddus. Ond y mae ein bod dan angenrheid- rwydd ifyned i'r addoldai yn galwam lawer iawno ofal gyda golwg ar ddygiad y cyfarfodydd ymlaen. 2. Y personau ddylent eu cynal.—Nid oes dim a all fod yn fwy eglur nag y dylai pawb a wa- hoddir i gymeryd rhan gyhoeddus mewn cyfar- fodydd ag sydd yn dal cysylltiad agos a chymeriad moesol y wlad fod yn ddynion sobr, o gymeriad uchel a diargyhoedd ; yn gystal ag yn ddynion o dalent. Y mae mwy o nerth mewn cymeriad nag mewn talent. Y mae talent gyda'r dyn, a thrwy y dyn yn foddion i wneyd daioni annhraethol; ond y mae talent heb gymeriad da o'r tu cefn iddi wedi bod yn felldith i filoedd. A gwyddom am ddynion ieuainc a lygrwyd yn ddirfawr, 'ie, yn wir, a lwyr ddinystriwyd trwy ddyfod dan ddylan- wad cerddorion o gymeriadau llygredig. Cadwer y eyfryw, gyda'r gofal manylaf rhag cymeryd rlian cyhoeddus yn nghyngherddau ein gwlad.