Skip to main content

REIG. AT WASANAETH CEBDDOBIAETH YN MTSG CENEDL Y CYMBY. CYIIOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CEEDDOEOL Y GENEDL. Rhif. 61, MAWETH 1, 1866. Pris 2g.—gyddr post, 3c- AWE GtYDA CHYNIWEIBYDD. Dafydd.—Mi fum i yn canu yr hen Donau hyny y rhoddasoch chwi gopi o honynt i mi y nos o.'r blaen i rai o'r hen bobl acw ; ac fe yrodd hyny Mari Shon Saer allan o demper yn lan loyw. Cy- hoeddai yr anathema uwch eich pen, a dywedai fod gyda chwi reitiach peth i'w wneyd na gwat- wor yr hen bobl dda dduwiol sydd yn y nefoedd. Cyniweirydd.—Yr oedd Mari, druan, yn cam- gymeryd. Nid gwatwor yr hen bobl yr oeddwn i. Y mae genyf fì barch calon i'r hen bobl—lawn cymaint, yr wyf yn sicr a hithau, os nad mwy. Y mae hen bobl agos iawn i mi—teidiau a neiniau, a thad a mam, yr Avyf yn credu, yn y nefoedd er ys blynyddoedd ; oes, y mae o flaen fy meddwl y fynyd hon hen bobl ag y byddai yn haAvdd genyf grafu eu llwch o'r ddaear. 0 hyn allan, gan hyny, na flined neb fi â'r fath gyhuddiad fFol, disail. Nid amharch i'r hen bobl, ond parch calon iddynt, ac awydd gweithredu yn fy oes yn yr un ysbryd ag y gweithredent hwythau, sydd yn fy nghynhyrfu i geisio gan ein cynulleidfaoedd i adael y dull an- nhrefnus y byddai yr hen bobl yn canu. Y rhai sydd am gadw i fyny bethau gwaelion yr hen bobl, nid myfi, sydd yn eu hamharchu. Ysbryd y gor- euon o'r hen bobl oedd gwellbau arferion eu hoes, ac nid gadael pob peth f el y gwelsent gan eu tadau. Beth fuasai agwedd Cymru yn bresenol pe buasai yr hen Ddiwygwyr Cymreig yn gadael pob peth fel yr ydoedd. A ydyw yn debyg y buasai y Cymry mor gyffredinol yn meddianu Beiblau ac yn alluog i'w darllen pe buasai Mr. Charles o'r Bala, yn gadael pob peth i aros fel yr ydoedd yn fiaenorol ? Mae yn wir y dylai yr oes bresenol fod yn eiddigus a gofalus iawn i gadw pob peth ag oedd dda a rhagorol, o ran ei sylwedd, yn yr oes o'r blaen; ond y mae mor wir a hyny y dylai ymdrechu cyfaddasu y cwbl at sefyllfa ac angen yr oes hon Am yr hen Donau goreu a feddai ein tadau, nis gall neb fod yn fwy awyddus na mi am eu cadw. mewn ymarferiad; ond y mae dadleu y dylid ceisio eu canu fel y byddai pobl yr oesoedd blaenorol yn eu canu yn ffolineb. Ac un o'r pethau mwyaf eu pwys y dyddiau hyn ydyw dyrchafu ein caniadaeth grefyddol i'r safle hwnw ag sydd yn gyfatebol s'r manteision gwybodaeth sydd yn y wlad. Un o'r pethau mwyaf peryglus a niweidiol ydyw fod crefydd, neu ryw ranau o'i gwasanaeth, oherwydd ofergoeledd neu anallu y rhai sydd yn gofalu am dani, yn cael ei gadael i ymlusgo ar ol yr oes. Ac nid wyf yn petruso dweyd fod hyn yn nychdod i grefydd mewn llawer ardal bwysig yn Nghymru y dyddiau hyn. Hyd nes byddo i'r Hwn a gysylltodd gerddoriaeth f. chrefydd â'u gilydd eu gwahanu, y mae o'r pwys mwyaf fod dynion crefyddol yn effro a Ilafurus gyda'r gwaifch hwn. Ac y mae yn amheus i mi, pa beth bynag a ddywedo Mari i'r gwrthwyneb, a oes genyf fi, a Uawer ereill yn Nghymru, reit- iach gwaith y dyddiau hyn nag acblesu a threfnu ein caniadaeth. Y gwirionedd ydyw, y mae yn warthus mewn llawer lle ; a dynion a gymerant arnynt eu bod yn dra chrefyddol sydd a'r llaw flaenaf i'w gadw yn ei annibendod a'u annhrefn. Morgan.—Ai tybed nad ydych yn siarad yn lled gryf, Cyniweirydd? Gwell, fe ddichon, fyddai ymbwyllo a gAveithio yn mlaen mewn amynedd ? Cyniweirydd.—Ië, mae yn ddiau. Yr ydych wedi defnyddio yr un geiriau ag a ddefnyddiais i fy hun lawer gwaith. Llawer iawn o amynedd a arferwyd yn ystod yr ugain mlynedd a aethant heibio, a llawer o amynedd sydd yn eisiau o hyd. Y mae gyda'r gwaith hwn, fel pob gwaith da, pwysig, yn ein byd ni, le i- amynedd gael ei pher- tfaith waith. Ond rhaid addef mai gorchwyl lled anhawdd, yn fynych, ydyw ymbwyllo wrth weled dynìon yn llafurio yn galed, ac ereill na feddyl- iasant awr erioed yn ddifrifol ar y pwnc yn codi, fe pe byddent ddynion mewn awdurdod, i geisio dinystrio y cwbl drachefn. Dafydd.—Er pob peth, y mae daioni an- nhraethadwy wedi, ac yn, cael ei wneyd. Mae yn ddiamheu fod canu gwell mewn rhai cynulleidfa- oedd nag a fu erioed, ac os gweithir yn Nghymru yn ystod y deng mlynedd nesaf fel y gwnaed y deng mlynedd diweddaf, mae yn ddiddadl y bydd canu tra rhagorol yn y rhan fwyaf o gynulleid- faoedd ein gwlad. Cyniweirydd.—Felly yr wyf finau yn credu, ac yn enwedig gyda gweithrediad grymus, effeith- iol y Tonic Solfa.