Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMHEIG AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY. OYHOEDDEDIG DAN JSTAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AO UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 56. HYDREF 1, 1861. Pjris 2g.—gydcür post, Sc. CERDDORIAETH YE HEBREAID. Y matî tri amgylchiad tra neillduol mewn cysyllt- iad a cherddoriaeth yr Hebreaid, y rhai nis gallwn fynecl heibio heb eu cyffwrdd. Yr amgylchiad cyntaf ydyw, Cwymp Jericho mewn cysylltiad a'r cyrn hyrddod. " A dyged saith o offeiriaid saith o udgyrn o gyrn hyrddod o íiaen yr arch ; a'r seithfed dyddyr amgylchwchy ddinas saith waith ; a lleisied yr offeiriaid à'r udgyrn. A phan ganer yn hirllaes a chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr udgorn, bloeddied yr holl bobl a bloedd uchel, a syrth mur y ddinas dani hi." (Jos. vi. 4, 5.) Llawer o dybiau gweigion a disail a ffurfiwyd o berthynas i'r amgylchiad hwn. Rhai (heb ystyr- ied deddfau sain na defnydd) a haerant fod y fath nertb yn y swn a gynyrchid gan y cyrn a bioedd- iadau y bobl, nes y dirgrynai y muriau, ac yr ymollyngent yn chwaledig oddiwrth eu gilydd. E eill, mai ymollwng a wnaeth y ddaear, gan nerth y swn, fel y syrthiodd y muriau. Ereill, nad yd- yw y cwbl ond hygoeledd ; mai yr achos mewn gwirionedd oedd, naill ai daeargryn, neu ynte weithrediad tân tan-ddaearol. Ondi'r neb sydd wedi darllen hanes y genedl gyda manylrwydd, y mae yn amlwg fod swn yr udgorn, ac yn enwedig yn nwylaw yr offeiriaid, yn arwyddo gallu Duw fel Brenin a Chad-lywydd ei bobl. Felly yr ydoedd ar Sinai; ac felly yn y gwyliau ac ar yr amserau nodedig. Pan amgylchwyd y ddinas, gan hyny, gan bobl neillduedig Duw, yn ol ei orchymyn, gyda'r arwyddluniau neillduol hyn o nerth eu Brenin yn gweithredu trwyddynt, yr oedd y caer- au yn rhwym o ddyfod i'r ilwch. Amgylchiad arall ydoedd, Dafydd yn chwareu y delyn, ac yn gyruy drwg-ysbryd oddiwrth Saul. Pa beth oedd natur yr anhwyldeb hwnw a flinai y brenin annuwiol nis gwyddom. Y mae Duw wedi ei guddio, ac ofer y w ceisio ei chwiiio allan. Pan oedd efe ar ymadael oddiwrth Samuel y tro cyntaf y cyfarfuasant, dywedodd y prophwyd wrtho :—" A phan ddelych yno i'r ddinas, ti a gyfarfyddi a thyrfa o broplrwydi, yn disgyn o'r uchelfa, ac o'u blaen hwynt nabl, a thympan, a phibell, a thelyn, a hwythau yn prophwydo. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaw arnat ti; a thi a bro- phwydi gyda hwynt, ac a droir yn wr arall." (1 Sam. x. 5, 6.) Ac felly y bu. Yn ddiatreg ar ol ymadawiad Samuel ag ef y tro diweddaf, yr ydym yn darllen :—" Ond ysbryd yr Arglwydd a giliodd oddiwrth Saul; ac ysbryd drwg oddiwrth yr Arglwydd a'i blinodd ef." (1 Sam. xvi. 14.) Pa fodd y meddyliodd ei weision am efi'eithiol- rwydd cerddoriaeth er rhoddi esmwythdra iddo nis gellir gwybod yn hollol. Dichon fod y llanc oedd gyda Saul pan gyfarfu efe gyntaf a Samuel yn un o'r gweision hyn, ei fod wedi syhvi mai pan ydoedd meibion y prophwydi yn chwareu offeryn- au cerdd y cawsai ei feistr ei wneyd yn wr arall, a'i fod yn tybied rnai trwy offerynoliaeth yr un moddion y buasai iddo gael adferiad. Yn wir, yn gymaint a bod Saul mor ddiarhebol o ddrwg cyn ei gyfarfyddiad a'r prophwydi, ymddengys fodyr amgylchiad yn hollol hysbys trwy yr holl wlad. Y trydydd amgyichiad ydoedd y cysylitiad agos fyddai yn fynych rhwng cerddoriaeth a phro- phwydoliaeth. Yn mhaystyr bynag y cymeriry gair prophwydoliaeth, yr ydym yn gweled y cy- sylltiadagosaf rhyngddoacherddoriaeth. Dy wedir am feibion Asaph, a Heman, a Jeduthun, eu bod yn prophwydo a thelynau, ac a nablau, ac a sym- balau. Am feibion Jeduthun, dywedir eu bod dan law eu tad, ar y delyn yn prophwydo, i foli- anu ac i glodfori yr Arglwydd. Mewn lle arall. gelwir Jeduthun yn " weledydd y brenin ;" ac ar- ferir yr un gair am Heman ac Asaph, fel cerdd- orion, yn gystal ag am Gad fei prophwyd. Barna rhai nad ydys i feddwl dim yn mhellach wrth y gair "prophwydo," pan arferir ef mewn cysyllt- iad a'r cerddorion Heman, Asaph, a Jeduthun, na'u gwaith yn molianu ac yn datgan mawredd a gogoniant Duw. Ond ymddengys i ni fod yr ystyr hon yn rhy gul i'r gair dan unrhyw amgylchiad, a'i fod yn arwyddo cyfansoddi darnau o farddoniaeth a fyddent. yn cynwys dysgrifìadau neillduol o ewyllys, gweithredoedd, a chymeriad Jehofah. Byddai y cerddor a'r prophwyd felly yn fynycJi yn yr un person; a byddai yn canu ac yn pYo- phwydo yn rhinwedd yr un dylanwad. Yn achos Eliseu?, mae yn wir, yr oedd y ddau ar wahan, ond yr oedd y dylanwad yn aros yn gysylltiedig. " Ond yn awr (ebai y prophwyd) dygwch. i mi