Skip to main content

T CERDDOR CYMREIG AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN IYSG CENEDL Y CYMEY. CTHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 55.—Cyf. III. MEDI 1, 1865. Pkis 2g.—gydcCr post, 3c. SYMÜDIAD î GOLYGYDD, Bydded hysbys i ohebwyr y Cerddor CotREiG, yn gystal dm cyfeillionyn gyffredinol, fy mod wedi symud o Ferthyr Tydfil. Cyfeirier ataf o hyn allan yn symlfel y canlyn — Hev. J. Hoberts, (Ieuan Gwyllf), Llanberis, Carnawon. CEEDDOEIAETH YE HEBEEAID. Heblaw y defnydd helaeth ac effeithiol a wneid o gerddoriaeth, gan yr Hebreaid, yn ngwasanaeth cysegr Duw, yr ydym yn cael ei bod mewn arfer- iad yn eu mysg ar wahanol achlysuron ereill. Am gerddoriaeth deuluaidd, nid oes genym ond ychydig iawn o grybwyllion. Yn wir, y mae yn amheus a oes genym gymaint ag un ymadrodd oddiwrth ba un y geliir casglu fod cerddoriaeth yn cael ei harferyd yn ddyddiol a chyson yn nheu- iuoedd y genedl. Ymddengys, o'r ochr arall, y J?yddai teuluoedd y genedl, yn enwedig 'mewn am- seroedd llwyddianus, yn ymgasglu at eu gilydd yn fynych i gynal gwleddoedd, ac y byddai yn y rhai hyny lawer o gerddoriaeth a dawns. Yn gymaint ag nad oedd y genedl, hyd yn nod yn ei hamser goreu, yn berffaith, byddai y gwleddoedd hyn yn fynych yn cael eu dwyn yn mlaen mewnysbryd tra amhriodol. Byddai y bobl yn fynych yn anghofio Duw a'i gyfraith, ac yn ymollwng, dan ddylanwad y gwin a'r gerddoríaeth, i borthi eu blysiau a'u nwydau. Ac mewn amseroedd o ddirywiad cref- yddol, byddai llygredigaeth y gwleddoedd hyn yn myned mor fawr fel y byddai yr Arglwydd, trwy ei brophwydi, yn cyhoeddi y bygythion a'r gwaeau mwyaf uwch eu penau. Y cyfryw ydoedd sefyllfa y wlad yn amser y prophwyd Isaiah,pan gyhoedd- ai yr Arglwydd trwyddo:—" Yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a'r nabl, y dympan,a'r bibell a'r gwin; ond am waith yr Arglwydd nid edrych- ant, a gweithred ei ddwylaw ef nid ystyriant." Yr oedd y gwleddoedd hyn yn arferedig gan bobl y wlad yn gyffredin ; ond mae yn ddiamheu y byddent yn llawer mynychach yn nhai tywysog- ion a gwyr mawr. Ac yn gymaint a bod gallu y cyfryw yn fwy i ddarparu pob math o seigiau, gwinoedd, oft'erynau cerdd, a chantorion, mae yn ddiau y byddai rhysedd y gwleddoedd hyny yn fawr iawn. Rhydd yr Arglwydd trwy y prophwyd Amos y dysgrifiad mwyaf alaethus o honynt :— " Gorwedd y maent ar welyau ifori, ac ymestyn ar eu glythau, a bwyta yr wyn o'r praidd, a'r lloi o ganol y cut; y rhai a ddatganant gyda llais y nabl; dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd, megys Dafydd; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseph " (Amos vi. 4 — 6). Ymiro ag enaint, ym- estyn ar eu glythau, yfed gwin, a dyfeisio math o offer cerdd ysgafn i wasanaethu eu chwaeth lygr- edig yr oeddynt hwy, pan oedd y genedl yn y di- rywiad mwyaf,ac yn rhedeg yn gyfiym tua dinystr; yn rhy debyg i Nero, yr hwn a fynai cliAvareu ei ifidyl pan oedd Rhufain ar dân. Er fod cerddoriaeth felly yn cael ei cham ddefn- yddio—yn cael ei gwneyd yn foddion i wasan- aethu llygredigaeth, nid ydys i gasglu oddiwrth hyny fod yr arferiad o honi yn anghyfreithlon, na bod y gwleddoedd a'r achlysuron hyny o orfoledd a llawenydd, ynddynt eu hunain, yn anghymeradwy yn ngolwg Duw. Y mae llawer o grybwyllion yn y Beibl yn dangos yn hollol i'r gwrthwyneb. Dangosir fod amledd o wleddoedd, gorfoledd a cherddoriaeth, yn cydfyned a llwydd- iant a heddwch tymhorol y genedl; ac arwydd o aflwyddiant a thrallod fyddai fod ei gwledd- oedd yn peidio, a llais ei cherddoriaeth yn dys- tewi. Un ran bwysig o'r dysgrifiad a roddir gan Isaiah o'r olwg fyddai ar y wlad dan farn Duw ydyw : — '" Darfu llawenydd y tympanau ; " Peidiodd trwst y gorfoleddwyr; " Darfu hyfrydwch y delyn." Jeremiah drachefn, fwy nag unwaith, a ddywed:— " Paraf hefyd i lais hyfrydwch, ac i lais llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, i swn y meini melinau, ac i lewyrch y canwyllau, ballu ynddynt."