Skip to main content

AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMIIY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PPJF GERDDORION, CORAÜ, AC UNDEBATJ CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 53.—Cyf. III. GORPHENAP 1, 1865. Pris 2g.—gydcCr post, 'òc' CEEDDOEIAETH YE HEBEEAID. G. Muth-lábben.—Ceir hwn yn nheitl Ps. 9; a digon er dangos y tywyllwch sydd yu amgylch- ymi y gair ydyw dyfynu eglurhad Gesenius arno, sef, ei fod yn dynodi fod y Psahn hon i gael ei chanu gan fechgyn gyda lleisiau merched. Y modd y meddyliwyd am " feibion," gan y LXX ac eioill, oedd trwy gymeryd al, a'i gysylltu a rhan gyntaf y gair, a darllen ahmith. Ereill, trwy gyfnewidiad arall yn y Uafariaid, a ddarllenant alamoih, ac a wnant deitl y Psalm hon felly yr un a'r eiddo Ps. 46; ac ymddengys i ni, wrth gy- gymharu y ddwy a'u gilydd, fod gradd helaeth o debygolrwydd rhyngddynt. Augustine, trwy ddi- lyn y LXX, a dybia fod y teitl yn dynodi, " Psalm i'r Mab," sef, unig-anedig Fab Duw. Gogwyddo yr ydym ni i dybied fod y gair o'r un gwreiddyn a'r gair— 7. Alamoth.—Ceir hwn, fel y crybwyllwyd, yn nheitl Ps. 46, ac yn 1 Cron. 15. 20. Tybia rhai mai math o chwibanogl ydoedd, a ddygwyd ar y cyntaf o Elam (Persia); ereill, mai math o offeryn ydoedd a chwareuid gan ferched ieuainc, ac iddo gael yr enw oblegyd hyny, fel y cafodd yr hen offeryn Saesonig " virginal.ì' Gallem nodi llawer o dybiau ereill; ond ein tyb ni ein hunain ydyw mai enwau oedd Math-labben ac Alamoth ar y Tonau ar ba rai y cenid y Psalmáu hyn. Yr ydym yn credu eu bod yn ddwy, ond beth oedd y gwahaniaeth rbyngddynt, nis gallwn egluro. Gaílwn dybied, wrth 1 Cron. 15. 19—22, fod Alamoth (" cân gwyryfon," fe ddichon) yn cael ei chanu gyda nablau a dawns. Tybia rhai fod Muth-labben yn rhan o'r llinell gyntaf o gan a wnaed, naill ai ar orchfygiad Goliath neu ar f arw- olaeth Absalom. 8. Sheminith.—Ceir hwn yn 1 Cron. 15. 21, a theitlau Ps. 6 a 12j Tybiau lawer a goleddwyd am y gair hwn eto. Mae yn lled amlwg fod y gair yn deilliaw o ẁreiddyn ag sydd yn dynodi " wyth ;" a laarn y rhan amlaf o'r ysgrifenwyr Rabbinaidd yw ei fod yn golygu " telyn gydag wyth o dannau." Gesenius a ddywed ei fod yn golygu yr Isalaw (bass), tra yr ydoedd Alamoth yn dynodi yr Uchalaw (treblé). Ereill a dybiant fod y gair yn golygu " wythawd ; " ond pa ystyr fyddai iddo felly nis gwyddom; ac nis galiwn weled llawer o briodoldeb yn sylw Maurer:— fod yr Alamoth yn dynodi offeryn mewn cyweir- nod uchel, megys y violin, a'r Sheminith, ofièryn o don isel, neu wythawd yn is, megys y violoncello. Ein tybiaeth ni ar y gair hwn eto ydyw ei fod yn dynodi enw y Don ar ba un yr oedd y Psalmau hyn i gael eu canu, a dichon mai ei rhifnodiad oedd yr " wythf ed." 9. Aieleth Iìashahar—yn fwy cywir a îlawn Aieleth Has-shachar.—Ceir hwn yn nheitl Ps. 22. Fel arferol, tybia yr ysgrifenwyr Rabbinaidd mai enw, ar ofîeryn cerdd y w y ga.ir ; a thybia rhai mai un o rywogaeth y chwibanogl ^.^e)ydoedd. Cy- tuna amryw o'r prif ysgolheigion maiy cyfieithiad llythyrenol o'r ymadrodd yw " Iwrch y boreu wawr;" a chryn orchest ydy w llunio y fath ymadr- odd i fod yn enw ar oííeryn cerddorol. Tybiaeth dosbarth arall o ddeonglwyr yw fod yrymadrodd yn ddarluniad allegol o gynwysiad y Psalm; ond nid ydynt yn cytuno pwy oedd " iwrch y boreu " —pa un ai y genedl Iuddewig yn cael ei hela yn nghaethiwed Babilon, ynte Dafydd yn cael ei hela 0 fiaen ei elynion, ac yn cysgodi y Messîah. Ym- ddengys i ni, pa fodd bynag, mai enw y Don ydyw yr ymadrodd, wedi ei gymeryd, fe ddichon, yn 01 hen arferiad gyffredin yn mysg pob cenedl, oddiwrth y llineil neu yr yniadrodd cyntaf o'r gan ar ba un yr oedd y Don yn arferedig. 10. Sliosìiannim.—Ceir hwn y\\ nheitlau Ps. 45 a 69. Trwy fod y gair yn dynodi "hii," tyb- iodd rhai ei fod yn enw ar offeryn cerdd o'r un llun a'r blodeuyn hwnw. Ereill, gan dybied mai y gwreiddyn yw shesh, chwech, a ddywedant mai math o offeryn gyda chwech o dannau ydoedd, a bod y Psalmau hyn wedi eu cyflwyno i'r prif gerddor, neu arweinydd y dosbarth hwnw o offer- ynau. Yn mysg y gwahanol olygiadau allegol a roddir, dywedir fod lili yn dynodi harddwch, hy- frydwch, priod-ferch ; ond y mae yn anhawdd gweled pa ystyr sydd iddo mewn cysylltiad a Ps. 69. Ymddengys i ni yn Uawer mwy tebyg mai enw ydyw hwn hefyd ar y Don ar ba un y cenid y Psalmau hyn, sef " y lili."