Skip to main content

Y CERDDOR CYMREIG. AT WÁSANAETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMEY. CYHOEDDEDIG DAN HAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Khip. 52.—CrF. III. MEIIEFIN 1, 1865. Pms 2g.—gyda'r post, 3c. CEBDDOEIAETH YE HEBEEAID. Y mab eto ychydig o offerynau yn cael eu cry- bwyll yn y Beibl, ond nid fel rhai arferedig gan yr Hebreaid. Ceir pedwar o honynt yn Dan. 8. 5, 7, 10, 15. Y cyntaf yw MisJiroJcitha. Y gair a arferir yn y cyfieithiad Saesoneg yn y Ue hwn jw Jiute, ac yn y Gymraeg " chwibanogl." Tybir yn fwyaf cyffredinol mai math o organ fechan ydoedd, yn gynwysedig o nifer o bibellau wedi eu gosod mewn cist, gyda geneu-ddernyn i chwythu ynddynt. Mae yn ddiau fod offeryn o'r fath yma yn arfer- edig gan yr Assyriaid a chan yr Hebreaid; ac ymddengys mai offeryn o'r un rywogaeth ydyw y Cheng sydd yn arferedig gan y Chineaid, er ys canrifoedd, meddir, cyn y cyfnod Cristionogol. Offeryn arall yw SabeJca, neu SJiabeJca. Y gair a ddefnyddir yn y cyfieithiad Cymraeg yw dulsi- mer, ac yn y Saesoneg sacJcbut. Os yr un oedd hwn a'r offeryn Groegaidd sambuJca, mae y Saes- soneg yn hollol anghywir. Math o gorn neu trombone oedd yr hen sacJcbut Saesoneg, ond offer tannawl oedd j sambuJca. Trionglog, meddir, oedd ei ffurf, a byddai yn cynwys pedair neu ychwaneg o dannau. Y nesaf yw Psanterin:—Saes., psaitery ; Cym., psaltring. Offeryn o rywogaeth y crwth oedd hwn; a diau ei fod yn dwyn cyffelybrwydd i nabl yr Hebreaid. Yr olaf yw Sumphoniah:—Cym., symphon; Saes., dulcimer. Tybir yn lled gyffredinol rnai math o god-bibell (bag-pipe) oedd yr offeryn hwn, sef nifer o bibelli, o wahanol hydau, wedi cael eu cy- sylltu â chod gwynt. Disgrifir offeryn arall yn y Talmud, ond nid oes un crybwylliad am dano yn y Beibl. Ei enw ydoedd MagrepJia; a dywedir mai math o organ nerthol ydoedd yn sefyll yn y deml yn Jerusa- lem; fod iddi gist wynt, deg o dyllau, a deg o bibellau, a bod pob pibell yn alluog i gynyrchu deg o wahanol seiniau. Fod iddi ddau bar o feg- inau, a deg o dannau {Jceys); a bod ei swn mor nerthol fel y clywid hi o bellder mawr oddiwrth y deml. Teg ydyw crybwyll, pa fodd bynag, fod rhai awdwyr yn amheu y disgrifiad hwn, ac yn hwyrfrydig i gredu mai offeryn cerddorol o un math oedd y magrepJia. Y mae eto un rhan o'r maes hwn ag y rhaid i ni roddi tro trwyddo cyn y bydd ein gwaith ar ben. Cyfeirio yr ydym at deitlau y Psalmau, yn mha rai y ceir rhai geiriau ag ydynt, yn ol rhai, yn dynodi offerynau cerddorol. Gellir rhestru deonglwyr y geiriau hyn dan bedwar dosbartli. Y dosbarth cyntaf, yn cynwys y rhan amlaf o'r ysgrifenwyr Eabbinaidd, a dybiant fod y geiriau hyn yn dynodi gwahanol fathau o offerynau cerdd, a bod y Psalmau wedi cael eu cyflwyno i'r prif arweinyddion ar yr offerynau hyny. Yr ail ddos- barth, yn mha un y mae amryw o'r tadau Crist- ionogol, a edrychant ar y geiriau hyn fel yn cy- nv/ys disgrifiad allegol o gynwysiad neu nodwedd cyffredinol y Psalmau. Y trydydd dosbarth, yn mha un y penaf yw Fürst, y geiriadurwr, a olyga fod y geiriau hyn yn dynodi enwau gwahanol ddosbarthiadau, neu gorau o gantorion, gan ba rai y byddai y Psalmau yn cael eu canu. Y ped- werydd dosbarth, yn cynwys Aben Ezra yn mysg yr henafiaid, a Delitzch yn mysg esbonwyr y dyddiau presenol, a dybia fod y geiriau yn dy- nodi y Tonau ar ba rai y cenid y Psalmau, ac ynghyd a hyny, yr arddulliau neillduol yn mha rai y byddent yn cael eu datgan. Yn awr, ni a redwn yn fras dros y gwahanol eiriau hyn: — 1. NechilotJi.—Y lle y ceir y gair hwn yw yn nheitl Ps. 5 ; a llawer ydynt y tybiau a goledd- wyd am ei ystyr. Un a dybia ei fod yn dyfod o'r gair necJiil, " haid o wenyn" ; a bod y Psalm i gael ei chanu gan yr holl gynulleidfa. Arall, gan ddeiliiaw y gair o'r un gwreiddyn, a dybia ei fod yn dynodi offeryn a seiniai yn gyffelyb i wen- yn. Gesenius a ddywed fod y gair yn tarddu o'r gwreiddyn cJialal, "tyllu", ac mai o'r un gwreidd- yn y mae chalil, a gyfieithir "pibell" (1 Sam. 10. 5 ; 1 Bren. 1. 40); ac felly fod y gair Nechiloth yn enw cyffredin ar holl deulu y pibelli tyllog. Y cerddoiion a chwareuent ar y pibelli hyn, mae'n deb^g, a feddylir hefyd yn Ps. 87. 7, wrth y cliol lim—Gjm., " cei'ddorion." Ehaid addef fod llawer o nerth yn yr esboniad hwn; ac eto, nis gallwn ei dderbyn gyda chwbl foddlonrwydd,