Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CERDDOR CYMREIG. AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMEY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AO UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 51.—Ctf. III. MAI 1, 1865. Pris 2g.—gyddr post, 3e CEEDDOEIAETH YE HEBEEAID. Heblaw yr TJgab, byddai gan yr Hebreaid wa- hanol offerynau pibellog ereill; ac ymddengys mai o'r rhywogaeth hon yr oedd y rhai canlynol:— 5. Chalil.—Crybwyllir yr offeryn hwn yn 1 Sam. 10. 5 ; 1 Bren. 1. 40; Es. 5. 12 ; 30. 29 ; Jer. 48. 36. Y gair a ddefnyddir yn y cyfieith- iad Cymraeg yn mhob un o'r lleoedd hyn yw "pibell." Mae y gair Hebraeg Chalil yn deilliaw o wreiddyn sydd yn arwyddo tyllu; ac felly na- turiol ydyw tybied mai math o bib dyllog oedd yr offeryn. Yr oedd y bibell, o ba un yr hanodd y Jtuttf, y clarionet, y bag-pipe, yr organ fawr ei hurddas, ac offerynau ereill, yn offeryn tra syml a henafol. Dywed Willdnson am bibell syml yr Aipht, ei bod o bren neu gorsen union, tua throed- fedd a haner o hyd; gyda thri neu bedwar o dyll- âu, a geneu-ddernyn bychan ar ei phen, wedi ei wneyd o gorsen neu welltyn. Yr oedd pibell ddyblyg hefyd mewn arfeiiad, yn gynwysedig o ddwy bibell, wedi eu cysylltu, y rhan fynychaf, gan un geneu-ddarn, ac yn cael eu chwareu, y naill a'r llaw ddeheu a'r llall a'r llaw chwith. Yr oedd hon yn arferedig gan amryw o genedloedd y dwyrain, a chan yr Hebreaid yn ddiamheu; a daeth i arferiad hefyd gan y Groegiaid a'r Rhuf- einiaid. Gwnelid y pibellau hyn y rhan amlaf o bren bocs, neu gorsen, ac weithiau o bres neu gorn. Mae yn debyg y byddai yr Hebreaid yn galw y bibell syml a'r bibell ddyblyg wrth yr enw Chalü ; ac o'r gair hwn, fe ddichon, y daeth Cha- lumeau y Ffrancod, Schalmeie yr Ellmyn, a Shawm neu Shalm y Saeson. Disgynydd o'r hen Shawm yw y Clarionet. 6. Nekéb.—Yr unig le y crybwyllir yr offeryn hwn ydywEzek. 28. 13 ; a'r un gair a ddefnyddir gan y cyfieithwyr Cymracg am yr ofFeryn hwn ag am y Chalil, sef " pibell." Mae yn debyg nad oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau offeryn ond ychydig; a pha beth oedd yr ychydig hyny, nid oes neb a wyr. Dosbarth arall o offerynau oedd yr udgyrn o wahanol fathau. 7. Keren.—Y Ueoedd y crybwyllir am yr offeryn hwn ydynt;—Josh. 6. 5; 1 Cron. 25. 5; Dan. 3. 5, 7, 10, 15. Arferir dau air am dano yn y cyfieithiad Cymraeg, sef " corn'' a " cornet; " ac mae yn amlwg mai o'r un gwreiddyn y tardd- odd y rhai hyn a'r Hebr. Keren, a'r Llad. Cornu. Mae yn lled debyg mai y ffurf gyntaf o'r offeryn hwn oedd corn hwrdd, ych, neu ryw greadur corniog arall, wedi tyllu twll yn ei ben meinaf, a dim ond hyny. Yn ganlynol, pa fodd bynag, dechreuwyd ffurfio udgyrn mwy celfyddydol, ac 0 ddefnyddiau gwahanol. 8. Shophar.—Arferir yr enw hwn yn dra myn- ych:—Ex. 19. 16, 19; 20. 18.—Lef. 25. 9.— Jos. 6. 4, 5, 6, 8, 9, 13, 16, 20.—Barn. 3. 27; 6. 34; 7. 8, 16, 18, 19, 20.—1 Sam. 23. 3.-2 Sam. 2. 28; 6. 15; 15. 10; 18. 16; 20. 1, 22. —1 Bren. 1. 34, 39, 41.—2 Bren. 9. 13.— 1 Cron. 15. 28.-2 Cron. 15. 14.—Neh. 4. 18, 20.—Job-39. 24, 25.—Ps. 47. 5; 81. 8; 98. 6; 150. 3.—Es. 18. 3; 4. 5, 19, 21; 6, 1, 17; 33. 3, 4, 5, 6.—Hos. 5. 8 Amos 2. 2 ; 3. 6.—Zeph 27. 13; 58. 1.—Jer. 42. 14 ; 51. 27.—Ezek. ; 8. 1.—Joel 2 1,15.- 1. 16.—Zech. 9. 14. 9. Chatzozerah.—Arferir yr enw hwn yn :— Num. 10. 2, 8, 9, 10.—2 Bren. 11. 14; 12. 13.— 1 Cron. 15. 24, 28; 16. 6, 42.-2 Cron. 5. 12, 13; 13. 12, 14; 15. 14; 20. 28; 23. 13; 29. 26, 27, 28.— Ezra. 3. 10.—Neh. 12. 35, 41.—Ps. 98. 6.—Hos 5. 8. Udgorn yw y gair Cymraeg a arferir am y ddau ddiweddaf ýn ddiwahaniaeth. Mae yn anhawdd gwybod pa beth oedd y gwahaniaeth rhwng yr udgyrn hyn. Tybia rhai ysgolheigion rhagorol mai yr un offeryn oedd Shophar a Keren; tybia ereill fod Keren yn enw cyffredinol ar yr holl deulu, a bod Shophar a Chatzozerah yn dynodì fîurfiau neiilduol. Tybiodd rhai fod y Keren yn un cam, a'r Chatztozerah yn un union; ac ym-. ddengys i ni, er fod rhai dynion pwysig yn erbyn y farn, fod y disgrifiad hwn yn gywir; ac os oes, crediniaeth i'w roddi i'r Iuddewon eu hunain, ym^ ddengys fod y Shophar hefyd yn un cam. Y maent hwy yn canu udgorn bychan a alwant Shophar y dyddiau hyn; ac y mae tuhwnt i bob amheuaeth fod hwnw, yn Mrydain a'r Almaen, o leiaf, yn un cam. Pa beth bynag oedd y gwahaniaeth yn ffurf yr offerynau, ymddengys mai yr enw Chatzozerah a roddir ar yr ^fferyn a ddefnyddid mewn cysyllt-