Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CERDDOR CYMREIG. tfllfífiratott Ithsrrl AT WASANAETH CERDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMEY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 50.—Cyf. III. EBRILL 1, 1865. Pris 2g.—gydcír post, 3c. CEBDDOBIAETH YK HEBBEAID. Cyn myned yn mlaen i sylwi ar natur cerddor- iaeth yr Iuddewon, a'r modd y byddent yn ei chynawni, priodol yn y lle hwn fyddai ychydig o eglurhad, mor bell ag y mae hyny yn ddichon- adwy ar y pryd presenol, ar y gwahanol offerynau a arferid ganddynt. Am natur eu cerddoriaeth, yn wir, nid oes genym nemawr o wybodaeth heb- law a gesglir oddiwrth eu hofferynau ; ac nid ydyw yr hyn a wyddys gyda dim sicrwydd am y y rhai hyn drachefn ond ychydig iawn. Cymaint o óleuni ag sydd i'w gael ar y pwnc, y mae i'w gasglu oddiwrth grybwyllion Ysgrythyrol, ynghyd a nodiadau ysgrifenwyr Iuddewig ac awgrym- iadau a geir oddiwrth arwyddluniau a hanesion cenedloedd cymydogaethol. Dywed Forlcel yn ei " Geschichte der Musilc" (Hanes Cerddoriaeth), fod y Rabbiniaid yn gosod allan fod gan yr Hebreaid yn amser Dafydd a Solomon 36 o wahanol ofFerynau; ond nid oes son am haner y nif er hwnw yn y Bibl. Ond gan mai y Bibl yw prif ffynonell ein gwybodaeth ar y pwnc, ni a gymerwn yr offerynau a grybwyllir ynddo yn gyntaf. 1. KlNNNOR. Ceir y gair hwn yn y lleoedd canlynol: —Gen. 4. 21; a 31. 27.—1 Sam 10. 5 ; 16.-16, 23; 2 Sam. 6. 5.—1 Bren. 10. 12.—1 Cron. 13. 8; 15 21, 28; 16. 5; 25. 1, 3, 6.-2 Cron. 5. 12 : 9. 11 ; 20 27.—Job21, 32; 30.31 4; 57. 8; 71. 22; 81. 2 137.2; 149. 3; 50. 3.- 16 ; 24, 8 ; 30. 32.— Ezek. 26. 13. Mae y LXX. yn gadael y gair heb ei gyfieithu, ac yn defnyddio IGnnura, neu Kinura. Cydsynia amryw o'r geiryddion goreu ei fod yn golygu— " Cynyrchu sain uchel neu fain." Tybia Gesenius mai ei ystyr y w—" rhoddi aüan sain crynedig, fel y gwna tant wrth ei gyffwrdd." Y gair a arferir yn Gymraeg, ydyw Telyn. Y lle y defnyddir y gair gyntaf, fel y gwelir uchod, ydyw yn Gen.4.21: lle y dywedir am Jubal, mai efe ydoedd tad pob chwareuydd telyn ac organ (Rinnnor ac Ugàb.) I'r 28; 29. 25.—Neh. 12, -Ps. 33. 2; 43. 4; 49. 92. 3; 98. 5; 108. 2; -Es. 5. 12; 16. 11; 23. darllenydd Cymraeg arwynebol ac anwybodus, nid oes un anhawsder yn y geiriau hyn. Tybia ar unwaith mai Jubal a wnaeth y delyn a'r organ gyntaf, a thelyn yw telyn iddo ef ac organ yw organ. Ond i ddynion dysgedig, y mae anhawsder mawr yn gysylltiedig a'r geiriau. Yn gymaint ag nad oes genym gyfleusdra yn y lle hwn i roddi gerbron ein darllenwyr ffrwyth y prif ymchwil- iadau a wnaed i'r pwnc, dichon na fyddem yn mhell o'n lje, pe byddem yn mabwysiadu golyg- iad Dr. I^alisch. Ei farn ef ydyw, nad oes un o'r ddau air yn y'ile hwn yn dynodi un offeryn ar- benig, ond eu bod yn cael eu defnyddio i ddynodi dau brif ddosbarth o offerynau cerdd;—yRinnnor yn dynodi y tant-offerynau (neu y Neginoth), a'r Ugab y pib-offerynau. Jubal, felly, a ddecnreu- odd wneydofferynau ar bob uno'r ddwyegwyddor. Sicr ydyw mai y Rinnnor oedd prif offeryn y genedl Hebreaidd; ond nid ydyw mor sicr pa fath offeryn ydoedd. Tybia rhai ieithwyr fod cysyllt- iad agos rhwng yr enw a'r gair Groeg Rinuros (wylofain), ac mai mewn amgylchiadau o ofid a galar y byddai y Groegiaid yn arferyd yr offeryn; ond y mae hyny yn mhell o fod yn gywir am yr Hebreaid ; byddent hwy yn ei arferyd ar yr am- gylchiadau mwyaf gorfoleddus, ac nis gallent mewn amgylchiadau o ofíd a galar ond crogi eu telynau ar yr helyg. Pe gellid penderfynu yn hollol i ba un o'r ddau ddosbarth a elwir yn y Saesonaeg wrth yr enwau Harp a Lyre y perth- ynai y Rinnnor, byddai yn hawdd mewn cymhar- iaeth penderfynu beth oedd ei ffurf. Mae yn wir mai yn perthyn i'r un dosbarthmawr cyffredino], sef y tant-offerynau, y mae y ddau; ac eto mae cryn lawer o wahaniaeth rhyngddynt. Wrth ystyried tystiolaethau Josephus, Jerome, ac ereill, pa fodd bynag, ymddengys i ni fod offerynau o'r ddau ddosbarth yn mysg yr Iuddewon yn myned dan yr enw Rinnnor. Dywed Josephus fod i'r Rinnnor ddeg o dannau ; myn ereill fod iddi 24 ; a dywed awdwr y Shilte Haggihorim fod iddi 47. Dywed yr olaf hefyd ei bod o ran ffurf yn gy- ffelyb i'r delyn ddiweddar yn Ewrop ;- ond dywed • Jerorne fod ei ffurf yn debyg i'r llythyren Eoeg Delta, yn drionglog. Yn Assyria a'r Aipht yr oedd amryw rywogaethau o'r tant-offerynau hyn.