Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CE ftUrjpaŵm Itisül AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMEY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PRIF GERDDORION, CORAU, AO UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Ehif. 48.—Cyf. III. CHWEFROE 1, 1865. Pííis 2g.—gyddr posí, 3c. DAELLEN CEEDDOEIAETH. Hyprydwch mawr ydyw gweled cymaint o ym- drech a llafur ag sydd yn Nghymru y blynydd- oedd liyn gyda Cherddoriaeth. Nid oes un am- heuaeth nad oes llawer iawn o ddaioni yn cael ei wneyd trwy hyny. Y mae cerddoriaeth, yn ddiau, yn ateb rhyw gymaint o ddiben ei gosodiad yn ein gwlad. G^vir ydyw yr edrych rhai yn isel ar gerddoriaeth. Nid ydyw yn eu golwg hwynt ond rhywbeth i ddifyru plant—" gwellt a gwair" i greaduriaid na allant ddefnyddio bara—" bwyd 11 wy " i rai nad ydynt yn ddigon cryfion i ym- borthi ar ddefnydd mwy sylweddol—rhywbeth i blantos a dynion ieuainc i ymddifyru ynddo yn lle yr hyn sydd waeth. Addefwn yn rhwydd fod gwirionedd, hyny ydyw, mewn rhan, yn y golyg- iadau hyn. Y mae mewn cerddoriaeth ddefnydd difyrwch ; yn y teimlad o ddifyrwch, neu bleser, y mae yn ymwreiddio; heb raddau o'r teimlad hwn, y mae cerddoriaeth yn amhosibl. Oferedd ydyw disgwyl am gân allan o'r fynwes nad oes ynddi ddim hyfrydwch neu bleser ; gwlad heb ddim dedwyddwch, nid "gwlad y gân," ond gwlad yr wylo, ydyw hono; a'r wlad Ue nad oes ond dedwyddwch, y gair a arferir fynychaf am waith y wlad hono ydyw canu. Y mae mewn cerddor- iaeth rywbeth i rai bychain a gweiniaid eu ham- gyffredion ; ac y mae yn ddyledswydd ar bwy bynag sydd yn ymdrechu i ddyrchafu a choethi dynoliaeth i ddarparu ar gyfer y rhai nas gallant ymborthi ar fwyd cryf. Y mae mewn cerddor- iaeth rywbeth, a rhywbeth cryf, ag sydd yn cadw dynion rhag yr hyn sydd waeth ; y mae ei dy- lanwad wedi cadw canoedd a miloedd rhag y tafarnau a'r diodydd meddwol. Ond a ydyw cerddoriaeth i'w dirmygu ar y cyfrif hwnw ? Onid rheswm, a rheswm cryf, ydyw yr ystyriaeth hon, yn hytrach, dros ei mawrygu a rhoddi pob nodd- ed a chefnogaeth iddi? .• Er yr addefwn fod cyfran o wirionedd yn y syniadau a ddyfynasom uchod, y maent yn cynwys cyfran hefyd o'r anghywir, neu y twyllodrus ; ac y mae yr ysbryd yn mha un y traethir hwynt, y rhan fynychaf, yn eu trosglwyddo drosodd i am- ddiffyn anghywirdeb, ac i gyfnerthu ymddygiad- au annheilwng. Y defnydd a wneir o honynt, y rhan fynychaf, ydyw i ddiystyru cerddoriaeth, i ddibrisio ei dylanwad, ac i ddiraddio y rhai a ymarferant â hi. Nid ydyw y rhai a wnant felly wedi talu ond ychýdig, neu ddim, ystyriaeth i'r cysylltiad sydd rhwng y teimlad a'r deall, na'r ddyledswydd sydd ar ddyn—pob dyn yn ddiwa- haniaeth, i arf er pcb moddion priodol a galluadwy i ddiwyllio y naill yn gystal a'r llall. Wrth son am " ddiwylliad y meddwl"—ymadrodd ag sydd yn dra arferedig y dyddiau hyn, yr ydys yn fynych yn angholio fod calon yn perthyn i ddyn. Ac wrth son am ddyledswydd a gwaith, yr ydys yn fynych yn anghofio nas gall dyn gyflawni ei ddyledswydd, na gwneyd ei waith, yn effeithiol oni fydd ei deimlad a'i ysbryd yn eu lle. Neu, o leiaf, os ydys yn ystyried ac yn cydnabod y pwys dirfawr sydd mewn cadw y dymer a'r ys- bryd mewn naws priodol, yr ydysyn gollwng dros gof fod cerddoriaeth wedi ei hordeinio gan y Cre- awdwr, fel un o'r moddion mwyaf effeithiol j wneyd hyny. Ond ein hamcan, yn fwyaf pennodol, yn cy- meryd ein hysgrifell y tro hwn ydoedd anog, a gwasgu ar, y rhai sydd yn ymarfer â cherddor- ìaeth, i ymdrechu gwneyd mwy o gyfiawnder â hwynt eu hunain, ac â'r gelfyddyd, trwy ddysgu ei helfenau a'i hegwyddorion. Yr ydym wedi bod yn tosturio ddegau o weithiau wrth arwein- yddion, wrth weled y gwaith mawr sydd gan- ddynt, a'r anfanteision dirfawr dan ba rai y maent yn lìafurio. Y mae hyd yn nod arweinyddion corau ein gwlad yn rhoddi llawer iawn o'u llafur a'u hamser yn ofer. Yr ydys wedi penderfynu dysgu dernyn. Daw y cor ynghyd. Dyna y lleisiau wedi eu trefnu. Ond erbyn edrych, dyna y merched, y rhai sydd yn myned i ganu y Sop- rano, heb gynifer ag un copi o'r gerddoriaeth yn eu dwylaw. Yn canu Alto y mae nifer o fech- gyn bychain, yn cael eu harwain gan un dyn. Y mae gan hwnw lyfr, ac y mae yn medru darJlen ychydig. Y mae un neu ddau yn y Tenor a'r Bass yn gallu darllen ychydig. Ond y mae mwy- afrif mawr y côr heb fedru un nôd ar lyfr. Pa beth a wneir ? Nid oes un llwybr i'w gymeryd ond yr un a gymerir i ddysgu pennod i ddyn dall.