Skip to main content

Y CERDDOR CYMRE AT WASANAETH CEEDDOEIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMEY. CYHOEDDEDIG DAN NAWDD PPJF GERDDORTON, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOEOL Y GENEDL. Rtttf. 47.—Cyf. III. IONAWR 1, 1865. Pris 2g.—gydd'r post, 'àc. ANEBOHIAD. EIN GORPHENOL, PRESENOL, A DÎFODOL. Wrth ddechreu blwyddyn newydd, a chyda hyny gyfrol newydd o'r Cerddor Cymreig, nid amhri- odol, mae yn ddiau, ydyw gair mewn ffordd o an- erchiad oddiwrthym at ein darllenwyr. Y mae hanes ein Gorphenol (gwyn fyd hefyd na feddem ar ryw air gwell na hwn am y rhan a aeth heibio o'n hoes) wedi ei ysgrifenu yn ystod y pedair blynedd a aethant heibio. Yn y " Rhaglith " a ysgrifenasom i'n Cylchgrawn, tua phedair blyn- edd yn ol, (gwel Cerddor, Rhif. 1,) ni a hysbys- asom ein "Hamcan" yn eglur a chyflawn. Dy- wedasom y pryd hwnw, er fod y Paroh. J. Mills a Mr. David Roberts, ynghyd a'r diwedcìar awen- yddol Richard Mills, wedi gweithio yn dra egniol ac effeithiol tuag at ddwyn gwybodaeth o elfenau cerddoriaeth o fewn cyrhaedd pob darllenydd Cymraeg, ei fod yn gwyn gyffredinol fod eisiau ychwaneg, ac yn enwedig ar gynghanedd a chyf- ansoddiant. Pa mor bell y mae ein herthyglau ar Gynghanedd a Chaniadaeth wedi cyfarfod y gwyn hon, mewn rhan, yr ydym yn gadael ein darllenwyr i farnu ; ac yr ydym yn bwriadu, os caniateir i ni fywyd i fyned yn mlaen am íiwydd- yn eto, gyhoeddi cyfres o erthyglau ar Gyfan- soddiant, yn cynwys egluriadau a hyfforddiadau ag na chafwyd yn yr iaith Gymraeg hyd yn hyn ddim o'r cyfryw. Crybwyllasom am y diffyg sydd yn ein llenyddiaeth gerddorol gyda golwg ar Hanesyddiaeth, Bywgraffyddiaeth, a dadblygiad gwyddonol o ddeddfau y geìfyddyd ; ac yr ydym, gyda hyder, yn gadael i'n darllenwyr farnu, oddi- wrth y cyfrolau o'r Cerddor sydd eisoes wedi ymddangos, pa f odd yr ydym wedi dechreu llanw y bwlch hwn. Cyhoeddasom gyfres o ysgrifau ar fywyd Mozart, y rhai a ddygasant y cerddor tra galluog hwnw yn fwy cyflawn a chywir o flaen y Cymro na dim arall a ymddangosodd yn yr iaith Gymraeg; ac y mae yr hyn a ymddangosodd o " Eiriadur y Cerddor," yn ernes o'r hyn a fwr- iadwn ei wneyd rhagllaw yn y canghenau a nod- wyd. Gallwn nodi hefyd i ni gael yr anrhydedd, trwy ganiatâd caredig y Parch. J. Curwen, a Uafur ein cyfaill Mr. E. Roberts, o ddwyn cyfun- di"efn y Tonic Solfa ger bron y Cymry—y gyf- undrefn fwyaf syml, hawdd, a rhad a welodd y byd erioed hyd yn hyn i ddysgu darllen cerddor- iaeth, a chyfundrefn ag sydd yn sicr o effeithio diwygiad annhraethol yn ein caniadaeth naturiol a chrefyddol. Dywedem yn mhellach, fod yn ein hamcan i gyflenwi ein corau a'n cerddorion â cherddoriaeth o'r dosbarth blaenaf, am bris digon isel i'w gyrhaeddyd. Yrr ydym yn awr yn galiu edrych yn ol, a chanfod fod uwchlaw tri ugain o ddarnau wedi eu cyhoeddi; fod y mwyafrif o'r rhai hyny yn perthyn i'r dosbarth blaenaf oll o gerddoriaeth, ac nad oes cynifer ag un yn eu niysg o ddosbarth gwael na llygredig. Yn mysg awdwyr estronol, y rhai y cymerasom o'u gweith- iau, y mae Dr. Tye, O. Gibbons, W. Byrde, Wilbye, Palestrina, Pergolesi, Dr. Croft, Dr. Green, Dr. Arne, Dr. Calcott, Mozart, Jackson, Webbe, Mendelssohn, Spohr, Cherubini, Müller, G. W. Martin, II. Smart; ac yn mysg y darnau Cymreig yr ydym wedi cyhoeddi gemau o gyfan- soddiad y rhan fwyaf o'n prif gerddorion, megys J. A. Lloyd, Owain Alaw, E. ^tephens, Cyndeyrn, R. H. Pritehard, Eos Llechyd, Gwilym Gwent, J. Thomas, David Lewis, Alaw Ddu, Tydfylyn, Evan James, Charles James, &c,—cerddorion, y rhai, ac ystyried yr anfanteision dan ba rai y maent yn llafurio, ag ydynt yn anrhydedd i'n cenedl. Gyda golwg ar ein dyfodol, y mae hwnw, bid sicr, yn guddiedig raewn tywyllwch: nid oes genym ond credu, dyfalu, a gobeithio. Am danom ein hunain, gallwn ddweyd yn ddibryder a di- floesgni na chaiff dim a allom fod yn ol heb ei gyflawni tuag at wneyd cynwysiad y Cerddor yn addysgiadol a dyddoroi. Dichon fod rhai, trwy gamsynied amcan ein cyhoeddiad, wedi cael siomediga,eth ynddo. Feallai y disgwyliai rhai gael ynddo lawer o'r digrifol, y chwedleugar, yr ysgafn, o ran ysgrifau a darnau ; a thrwy na chawsant ond ychydig o'r cyfryw, nid oedd dim ond ei adael; yr oedd dwy geiniog yn y mis yn ormod i'w roddi am wersi sylweddol, ac am ddarn o'r dosbarth blaenaf o gerddoriaeth. Dichon fod er- aill yn disgwyl cael llawer iawn o Iysiau poethion yn ei feirniadaethau, ei adolygiadau, &c, ond