Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSTORFA Y BEDYDDWYR. Rhif. 19.—MEDI, 1839.—Cyf. II. DEISTIAETH A BIBLAETH. LLYTHYR VI. ADDEWAIS yn fyllytliyr diweddaf roddi golwg yn yr un presennol, ar y drefn y mae rhai duwinyddion wedi ei chymeryd i gysoni yr ysgry- thyrau ag athfawiaeth y daearddysg- wyr. Yr egwyddor sylfaenol a arddel- a»t yw, " Mai yr un yw awdwr natur a datgnddiad, ac o ganlyniad eu bod o angenrheidrwydd yn gydunol â'u gil- ydd." Nid wyf yn lletya y gwrth- wynebiad Heiaf i'r gosodiad hyn, er fy mod yn gorfod anghymeradwyo y defnydd a wneir o hono yn yr achos dan sylw. Pe byddai ein gwybodaeth yn berffaith yn holl ddirgeledigaethan natur, yna byddem mewn cyflwr addas i farnu cywirdeb hanes Moses yn ol athronyddiaeth; eithr os oes rhywbeth nad y'm wedi ei ddeall yn gywir, dichon fod ein hanwybodaeth o'r peth hyny yn ein hanalluogi i ffurfio barn uniawn am bethau ereill yn eu eysyllt- iad ag ef, ac yn ein harwain i lawer o ddyryswch a chyfeiliornadau. Cred- wyf nad ynt y daearddysgwyr mwyaf dysgedig yn hòni en bod hyd yma wedi cyrhaeddyd perffeitlirwydd mewn gwybodaeth athronyddol, ac nad ynt yn debyg o wneuthur hyny mewn am- ser dyfodol. Nid oes amheuaeth genyf o barth cytundeb tystiolaeth yr ysgrif- wyr santaidd, a holl ffeithiau natur; ond os oes rhyw ffug yn cael ei wisgo ag enw ffaith, a honiadau anghywir ÿn cael eu sylfaenu ar y camsyniad hyny, yna nid yw ond peth dysgwviiadwy eu Cyf. II. bod yn gwrthdaro. Fel hyn y barn- wyf fod pethau yn sefyll rhwng daear- ddysgwyr yr amser presennol a Moses. Mae Moses wedi ysgrifenu dan gyfar- wyddyd Ysbryd anffaeledig Duw, ac fel y cyfryw wedi rhoddi hanes gywir am greadigaeth y byd ; ond y maent y daearddysgwyr yn cychwyn dan ddy- lanwadau y gred, mai nid fel y dywed Mosês y dygwyd y ddaear i fodoliaeth, eithr ei bod wedi newid yn raddol o gyflwr niwlog i gyflwr metelaidd, ac o'r cyflwr toddedig hyny i'r hyn yw hî yn awr. Os yw y gosodiad hyn o'u heiddo yn gamsyniol, yna peth ofer yw dweyd mai yr un yw awdwr datgudd- iad a natur, fel rheswm dros esponio ysgrifenadau Moses yn wahânol idd eu synwyr llythyrenol,er mwyn eu cysoni à honiadau daearddysgwyr. Nid rhy- fedd, gan hyhy, fod y dysgedigion ynt wedi ymwneuthur á'r gorchwyl yn ymdrabaeddu mëwn dyryswch ac an- hawsderau anorfodol, ac fod rhai o honynt yn cynnyg ymddadrus mewn ffyrdd annheilwng iawn o'u proffes a'u dysgeidiaeth. Nid yr un modd y mae pawb o'r duwinyddion a'r dysgedigion hyn wedi amcanu symud yr anhawsderau a gyfar- fyddant wrth geisio cymodi ysgrifen- adau Moses ag athrawiaeth y daear- ddysgwyr. Barn Mr. Babbage yw hyn, " Nad y'm ni ddim mewn cyflwr yn bresennol i ddeall hanesion boreuol y Bibl, fel y byddai yn gyiìawn i ni farnu ein bod yn alluog i'w hesponio yn gy w- ir ; a barn yr Athraw Powell, yw, na 2K