Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSTORFA Y BEDYDDWYR. Rhif. 16.—MEHEFIN, 1839.—Cyf. II. DEISTIAETH A BtBLAETH. LLYTHYR III. A NHYALL yw dywedyd yn rhy **• ddrwg am ddeistiaeth, a rby dda am Fiblaeth—yw íFoi yn rhy bell oddi- wrtb y blaenaf, a glynu yn rhy agos at yr olaf. Y mae y ddwy gyfundraeth yn hollol wahanol i'w gilydd : pan yn darlunio ardderchawgrwydd Biblaeth, dim ond i'r darllenydd feddwl am yr hyn fyddoyn hollol groes i byny, bydd ei syniadau yn gywir am ddeistiaeth. Cyn rhoddi gerbron y darllenydd rai o'r gwrthddadleuon a ddygir yn 'erbyn Biblaeth, ynghyd ag atebion iddynt, caf daflu bras-drem ar ar- dderchawgrwydd y llyfr digyffelyb, a elwir y Bibl; yr hwnsydd wedi, ac yn bod mor ddefnyddiol i'n byd ni; i'r hwn, er hyny, y mae anmharchwyr, anghredwyr, a gwrthddadleuwyr. "Holl air Duw sydd bur;" Diar. xxx, 5. " Yr holl ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaetb Duw, acsydd fuddiol i athrawiaethu, i ar- gyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder, fel y byddo dyn Duw yn berffaith wedi ei berffeithio i bob gweithred dda:" 2 Tim. iii, 16, 17. Gyda y priodolder mwyaf y gellir cyfrif a galw y llyfr hwn, llyfr y lly frau, a'r Uyfr goreu, o herwydd ei ragorol- deb ar bob llyfr arall. Duw yw ei awdwr, a gwirionedd yw ei gynnwys- iad. Ac fel dywed y gwr doeth, Mai gwagedd o wagedd, mai gwagedd yw y cwbl dan haul; gellir dywedyd am y Bibl, gwirionedd o wirionedd, gwirionedd yw y cwbl a gynnwysir ynddo. Y mae y Bibl yn ddefnyddiol i bob math o ddynion yn mhob gwlad, cyflwr, a sefyllfa. Dylai y bydol-ddyn ddarllen yn aml lyfr y Pregetbwr; y dyn defosiynol, y Salmau; y cystudd- Cyf. II. iedig, Jobj y pregethwr, yr epistolau at Timotbeus a Titus; y gwrthgiliwr, yr epistol at yr Hebreaid; y dyii pen- rydd, epistoiau Pedr, Iago, a Judas; y dyn fyddo yn myfyrio rhagluniaeth, llyfr Esther; a'r rbai ynt yn ngafael à phethau pwysig, Nehemia. Y mae y Bibl yn ddatguddiad o galon rasol Duw, a chalon ddrwg dyn. Yn y Bibl y cawn ddarluniad o'r nefoedd—iianes gywir am y brif eglwys—rheol an- fethedig i'r bywyd—cadarn sylfaen gobaitb—a ffrydiau didrai o ddyddan- wch a gorfoledd ysbrydol. Wedi taflu yn y modd yma fras-olwg ar y llyfr digyffelyb hwn,onid yw yn syndod fod neb yn dwyn eu gwrthddadleuon yn ei erbyn. Ond pa beth ni wna dyuion dan lywodraeth eu nwydau llygredig, Ye, y rhai ydynt ddall ac heb weled y gwir oleuni? Ÿ mae y gwrthddadleuon a ddygir gan yr amrywiol ddeistiaid, cynnar a diweddar, yn rhy luosog i mi eu cy- meryd o fewn cylch y mesur goddef- edig yn yr Ystorfa; ond caf sylwi ar rai o honynt. Dadleuiryn erbyn Biblaeth o ber- wydd yr anghysonderau aymddangos- ant yn y gwabanol ranau, yngbyd a'r gwahanol olygiadaii a goleddir gan wahanol bersonau o berthynas i'r nn- rhyw ranau o'r Bibl; felly golygant nad yw yr hyn yr anghydwelir mor belled yn ei gylch, yn werth rhoddi derbyniad iddo. Gyda golwg ar yr anghysonderau tybiol a hantodant rhwng gwahanol ranan y Bibl, mewn- ymddangosiad y niaent felly ac nid y» wirioneddol; o herwydd nid oes dwy adnod o'i fewn nad ellir yn hawdd ddangos eu cyd-uniad: dygent eng- raifft, abyddwn barod i'w cyfarfod. A chyda golwg ar fod anghydweliad