Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSTORFA WEINIDOGAETH OL. Rhif. 3.—MAI, 1838.—Cyf. I. SANTEIDDRWYDD YN HANFODOL I GYMERIAD Y CRISTION. Santeiddrwydd yw perffeithrwydd goruchel y Bod dwyfol. Yn y cymeriad hyn y mae yn cael ei foli yn benaf gan y llu dysglaer o angelion aseraphiaid a amgylchynant ei orsedd nefol, y rhai, pan yn gweini i'w gynghor, a ddywedant y naill wrth y llall, Sanct, Sançt, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd, a'r holl ddaear sydd lawn o'i ogonjant ef. At ei burdeb, yn hytrach nag at ei allu, y mae yn galw ein sylw fel gwrthrych ein hyfrydwch ; ac i'w santeiddrwydd y mae yn tyngu, er dangos sicrwydd cyflawniad ei addewidion i holl etifeddion iach- awdwriaeth. Mewn santeiddrwydd y mae yn ymhyfrydu, heb sant- eiddrwydd ni chaiffneb ẅeled ei wyneb, a gwneuthur ei bobl yn gyf- ranogion o santeiddrwydd jw yr amcan gogoneddus sydd ganddo mewn golwg yn holl ddarpariadau goruchwyliaeth gras. Os meddyliwn ameiarfaeth dragwyddol, yn yrhon y mae wedi pea- derfynu codi llu o'r teulu dynol o'u gresyndod a'u llygredigaeth, i fwyn- hau heddwch a dedwyddwch trwy ein Harglwydd lesu Grist, nid peth anhawdd fydd canfod, wrth ddarllen yr ysgrythyrau, y cysylltiad y mae yn ei ddâl a santeiddiad deiliaid.ei drugaredd ; " Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i^fod yn unffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntafanedig yn mhlith brodyr lawer:" Rhuf. viii, 29. " Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn santaidd a difeius ger ei fron ef mèwn cariad :■' Eph. i, 4. " Eithr nyni a ddylem ddioîch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd ; oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth, trwy santeiddiad yr Ysbrydj a ffydd i'r gwifionedd :" 2Thes. ii, 13. Mae athrawiaeth etholedigaeth gras yn cael ei dal allan yn yr adnodau hyn, fel mewn llawer o rai eraill, mewn modd amlwg a phenderfynol; ond yr un pryd y mae yn cael ei chyhoeddi yn y cysylltiad 'hyny â santeiddrwydd ag sydd yn dangos ntai hyn yw ewyllys Duw, sef ein santeiddiad ni. Rhyfyg, gan hyny, yw sylfaen ein hyder os ymorphwys a wnawn ar arfaeth ddir- gelaidd Duw am ddiogelwch, tra mae ein heneidiau yn ddyeithr i ddy- lanwadau adnewyddol a santeiddiol yr Ysbryd Glân.