Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŶSTORFA Y BEDYDDWYR. Rhif. 38.—EBRILL, 1841.—Cyf. IV. COFIANT DAFYDD THOMAS, OV Llwyn, plwyf Llanycrwys, swydd Gaerfyrddin. Mae yn arferiad cyffredin j n ein gwlad i ysgrifenu cofiantan gweiuidogion parchns, ac os bydd ereill à rhy w betîi yn eu bucbedd a'u bywyd yn teilyngu efel- ychiad a sylw yr oesoedd dyfodol, arferiad y Cymrn yw cadw rhinweddao mewn coff adwriaeth. Mae hanes dynion da, os na fyddant weinidogion, yn peri llawer o hyfrydwch i'r meddwl diwaira duwiol, yn creu ynddo awydd am ymdebygu iddynt mewn pob rhinwedd a daioui. Mae hanes dyniou a hynodant eu hunain gyda gor- chestion y bywyd hwn yn cael ei gadw mewn coffadwriaeth, yn cyffroi ilawer a'i darlieno i ymdebygu iddo ; ac os yw ym- drech gyda phethau a dderfydd yn deilwng o'i gofio, sicr yw y dylem gofio pob ym- drecb a welwn gyda phethau na dderfydd byth. Mae coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig pan fyddo enw y drygionns yn pydru. Ganwyd D. Thomas yn agos 1 bentref Llandyssul, ar y 15fed o Awst, 1756. Yr oedd ei rieni yn cael eu hystyried yn ddynion duwiol. Yr oedd ei dad, sef y Parch. Zacharias Thomas,* yn dra adna- byddusyn ei oes, a pherchid ef yn fawr. gan bawb a'i adwaenai, fel dyn duwiol a thinweddol, ac ystyrid ei gyfeillach ef yn «ddysg a bendith. Yr oedd ei deimiad- twydd, ei dosturi, a'i ysbryd haelionus yn sirioli liawer wyneb angbenus; ac y maé yr nn dymher drugarog yn parhau i fy w ÿn ei biant a'i wyron ar ei ol ef hyd hedd- ÿw. Yr oedd D. Thomas yn nn o naw o blant, tri o ba rai fuant feirw yn eu babandod, a'r rhai a dyfasant i oed a fnaint, ydynt oll wedi marw ond un, sef Mrs. Martha Evans, gweddw y Parch. M. Evans,t gynt o Bantycelyn; ac y inae * Bu y Parch. Z. Thomas yn pregethu Crist 59 0flyneddoedd, ac yn weinidog jparchus 43 o fiy- *ieddau yn Aberduar, Bethel, a Bwlchyrhiw. Yu 3[ flwyddyn 1790, symudodd i'r Llwyn, plwyf ìlanycrwys, lle bu fj-w hyd ei farwolaetb, a Ù. ' l'homas ei fab, hyd ei farwoiaeth yntau. t Bu y Parch. Morgan Evans yn .pregpthu Crist "5 o flynedciau, ac yn weinidog derbyniol a chy- 'Heradwy am lawer o flyneddau yn y Boutuuwydd * Phàntycelyn, C\F IV, genym hyder gref i ddweyd, mewn barn cariad am danynt, eu bod oll yn of'ni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni. Am fod eu rhieni wedí eu gwneud yn deimladwy o'r drwg sydd mewn pechod, cawsant yn eu hieuengctyd eu hyfforddi yn mhen eu ffordd, ac y maent yn gadaèt tystioiaeth ar eu hot nad ymadawsant â hi yn en.hen ddyddiau. Addysgwyd hwy yn foren i ymarfer yn ddiwyd â phob daîoni, trwy osod o'u blaenau hysbysiad priodol am natur ac effeiihiau y ddau fyd, sef y byd hwn a'r byd dyibdo!—y cysyllt- iad sytld rhwng y naiil a'r llall—fód dwy sefyllfa yn yr un dyfodol—fod y byd hwn yn arllwys plant Adda oll i un o'r ddwy hyny yn ol fel y gweithredont yma. T^ra thebygol i'r addysgiadau boreuol a gaw- sant blanu eu meddyliau mewn ymarfer- iad cyfaddas i natnr y ddau fyd, trwy ddarparn yn ddoeth a phriodoi i gwrdd ag amgylchiadau y naill fel y llall. Cafodd gwrthrych eincofianl addysghe- laethach nà'r cyffredin yn ei iénengctyd, Bu am ry w dymhor gyda'i ewythr, T. Tlio- mas, yn Llanllieni, (Leominster,) gymaint ag a'i galinogodd i ddarlien a deall yr ieithoedd Cymraeg a Saesnaeg^ a rbanau cyntaf rhifyddiaeth. Mae ei waith. yn dangos ei fod yn Iled wybodns yn Ngra- madeg yr Iaith Gymraeg. Nid oes «n banes neillduol am dano yn eiieuengctyd^ rhagor na'i fod y rhan hòno o'i oes fel pòb rhau arall, yn gv\ahaniaethn oddiwrth bawb ereilí, trwy gadw ei fe.ddwl iddo ei bun, heb gyfeillachu ond prinfyddai raid â neb pwy bynag. Dywedodd ei dad wrtho unwaith, "Mae Joshua dy fráwd yn cofio mwy o'r pregethau nag wyf tì yn gaei glywed geny t ti.' Ebe yntau, *'Llestr drylliog iawn yw fy nghof i, mae fel llestr yn gollwng ag angen ei ddàl ef yn amt dan y dwfr." I bob cwrdd y byddai yn myned, yr oedd yn arferiad a gadẃodd trwy ei oes i ysgrifenu y testunau, y pen- an, a'x rhanau mwyaf cynnwysfawr o'r pregethau, os byddai rhyw ranan o hon- ynt yn werth hyny heblaw y testun. N- "