Skip to main content

Y D'IWYGIWR. Rhif. 149.] RHAGFYR, 1847. [Cyf. XII. ARWYDDION YR AMSERAl. GAN Y PARCH. J. THOMAS, BWLCHNEWYDD. Dau air tra phwysig yn nghredo pob Cristion haelfrydig ydyw," Crist i'r byd," a'r " byd i Grist." Trwy y blaenaf y «ìae yr olaf i gael ei eífeithio. Amcan ])uw trwy holl ddolenau ei drefn ydyw cael y "byd i Grist." Y moddion eífeithiolaf o apwyntiad Dwyfol ddoeth- ineb i gyrhaedd yr amcan ydyw, cynyg " Crist" iW byd." Mae gwrthuni ac anghysondeb yn y gredo dduwinyddol hono a ddysgwylia gael y "byd i Grist," ac ar yr un pryd a gyfynga Grist i ran neillduol o'r byd—mae y cyfryw foddion yn aneífeithiol i gyrhaedd yr amcan. Mae golygiadau cyfyng am ddarpariadau yr efengyí yn llesgáu calonau, ac yn cadwyno gweithgarwch Cristionogion. Yr oedd llwyddiant gweinidogaeth yr apostolion yn dibynu, mewn rhan, ar ëangder eu golygiadau am drefn yr efengyl; ni roddasant gyfyngiad i ew- yllys, terfyn i haeddiant, na phrinder i gariad y Gwaredwr, ond ëangwyd eu golygiadau gan feddwl haelfrydig Duw, a llanwyd hwy à'r "meddwl yma, yrhwn oedd hefyd yn Nghrist Iesu." Rhaid i'r «glwys eto cyn y daw y " byd i Grist," ail edrych ar galon ei Phriod yn gwaedu, nes gweled ei waed yn cael ei dywallt "dros awb," " dros bob dyn," " dros yr holl fyd," a "phob creadur," ac yno gyfodi safle ei gweinidogaeth yn seiliedig ar aberth Crist " dros y byd," i gynyg iachawdwriaeth " i'r 'byd." Am fod " Duw yn Nghrist yn cymodi y byd ag cf ei hun," " yr ydym ninnau yn gen- adau dros Grist i gynyg y cymod yma i'r byd." Y weinidogaeth am Grist croeshoeliedig ydyw y prif foddion o ordeiniad Dwy£ôl i ddwyn oddiamgylch "amseroedd adferiad pob peth." Wrth edrych ar y byd yn ei agwedd bresenol, naturiol i'r meddwl ymofyngar ofyn, A ddaw y byd i'w lei Afuddyg- oliaetha Cristionogaeth ? A orchfygir coel-grefyddau ? Ac, A "gadwynir ineddyliau y byd i ufydd-dod Crist?" Mae y gofyniadau yn bwysig ac yn dei- ìwng o'nsylwdifrifolaf; maentyngoblygu ynddynt y canlyniadau pwysicaf. Mae hir feddiant y gelyn o or'sedd y byd—■ ei ddichell i gadw ei ddeiliaid yn ei gad- wynau—cyd-darawiad ei gymhellion à thueddiadau y galon lygredig—cryfder ymddangosiadol temlau yr eilunod—ac uchder y muriau a gyfoda coelgrefydd yn erbyn y gwirionedd, yn hèrio ein gorchestion, yn gwawdio ein hymdrech- ion, ac yn chwerthin yn ngwyneb e'm llafurion i'w cael i lawr; ond yn nghanol eu bonllefau rhyfygus ac ymffrostgar, ni phetrusaf ddweyd, Cristionogaeth a ORCHFYGA. Ac er na chymerwn arnom fod " yn broffwyd, nac yn fab i broffwyd," eto, dyweàwnfod "arwyddionyr amser- au" yn darogan yn amlwgfod crefydd ì feddianu y byd. Er nad yw awyrgylch y byd gwladol na chref'yddol yn glir oddiwrth gymylau. eto nid yw y cwbl ond fel cledr llaw gwr, ac a wasgerir yn fuan gan anadl yr Holialluog. Ygosod- iad y dymunwn alw sylw ein darlìenwyr ato ydyw, Yr argoelion a ganfyddir YN ARWYDDION YR AMSERAU O LWYDD- IANT YR EFENGYL. Gallwn sylfaenu yr arwyddion hyn ar y Uwyddiant blaenorol sydd wedi dilyn ymdrechiadau Cenadol.—Mae gwybod beth a fu yn gwroli y meddwi i gyfarfod â'r hyn a íÿdd; tŷnir nerth i ymroddiad dyfodol oddiwrttí lwyddiant blaenorol, Er mai nid ar ein llwyddiant y mae eia