Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR, Rhjf. 148.] TACHWEDD, 1847. [Cyf. XII. CYMWYNASGARWCH MAB DUW A HAELFRYDIGEWYDD YSBEYD GWIE GEEFYDD. GAN Y PARCH. W. EVANS, NEUADDLWYD. Y MAE gwirfoddolrwydd yn egwyddor hanfodol gwir grefydd, nis gall íbdoli hebddi; y mae yn rhan wreiddiol a chy- fansoddedig o'i nhatur. Pe collai yr egwyddor hon, collai ar unwaith ei hun- rywiaeth, ac elai y cwhl o honi ar goll ond ei henw. I ba beth y sonir am gynal crefydd drwy orfodaeth ? Cynal ei ffurf fe ellir, ond cynal ei hysbryd felly sydd anmhosibl. I ba beth y siarada dynion am grefydd râd? Pa beth yw hyny ? Gwasanaethu yr Argl- wydd heb un aberth nac offrwm, ie, gwasanaethu yn rliacî yr hwn a brynodd ein bywyd â'i waed. Ond ofer ìyddai ein holl ymffrost yn yr egwyddor wir- foddol, yn ei pherthynas â chrefydd, oni bai fod ysbryd haelfrydig mor hanfodol iddi hi ag yw gwirfoddolrwydd; y mae y naill yn cyfateb i'r llall; y mae y naill yn gwbl ddigonol i'r Uall. Nidoesbyth ddiffyg haelfrydigrwydd yn eglwys Crist i gyfateb i holl ofynion yr egwyddor wir- foddol pan y byddo yn Uawn o ysbryd crefydd. Pan oedd hi yn ei chyflwr dadíeiliedig y gosodwyd i fynu ddeddfau gorfodol i'w chynal, a dynion o ysbryd y byd hwn sydd am ei dal yn gaeth i'r cyfryw hyd heddyw. Dim ond digon o'i hysbryd hi sydd arnom eisieu, y aae y moddion ereill wrth law, y mae rhagluniaeth wedi eu rhoddi yn ein dwy- law. Y mae ein hanallu ni, pe iawn ei alw felly, i gynal ein gwahanol achosion yn anrhydeddus, yn tarddu yn fwy oddi- wrth brinder ysbryd haelfrydig, nag oddiwrth brinder arian. Yn ngwyneb hyn, onid y peth doethaf a phwysicaf i öi mewn amserau fel hyn, pan y mae cyraaint o ymosodiad yn cael ei wneyd ar ein hegwyddorion anwyl ac ar- dderchog, yw ymroddi yn egniol i feithrin ysbryd gwir grefydd ? Y mae ein ffydd yn gref yn ngwirionedd ein hegwyddorion, y mae eisieu ei bod ÿn gref hefyd yn nerth eu hysbryd, fel y gallom, sef yn y dydd drwg, sefýll yn ein lle, sefyll yn wrol, a sefylì yn fuddygol- iaethus. Fy amcan yn y llinellau hyn yw, cynyg arwain meddwl y brawd gwan i ryw le y caiff yn wastadol gyflawnder o adgyí- nerthiad i'w egwyddorion,—at ffynonell orlawn o annogaethau a chyrnhelliadau o'r fath rymusaf, i fod yn ewyllysgar ac haelfrydig tuag at Dduw a dynion— Cymwynasgarwch ein Harghcydd Iesu Grist atom ni. I'r man hwn y byddai yr apostolion yn myned i gasglu eu cym- helliadau goreu, ac yr oeddynt yn gweithio yn rhagorol. Pa beth, ond teimlad anarferol o gariad Crist, oedd yn peri i'r Cristionogion cyntaf i fod mor haelionus ? Yr oeddynt yn gM'erthu eu meddianau a'u da, ac yn eu rhanu i bawb fel nad oedd eisieu ar neb. Beth pe buasai jt un ysbryd yn aros yn yr eglwys hyd heddyw, pa le y ceisid esgus i orfodi dynion i gynal crefydd ? Y mae Paul wrth annog yr eglwys yn Corinth i gynorthwyo eu brodyr tlodion yn Judeà, yn eu cyfeirio yn uniongyTchol i'r man hwn: " Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn, ac efe yn gyfoethog, a ddaeth er ein mwyn ni yn dlawd, feí y'n cyfoethogid ni trwy ei dlodi ef." I weled mawredd ei ras, neu ei gymwynasgarwch ef, rhaid i ni ystyr- ied 'pwy oedd efe, i ba faih gyjlwr y daeth, ac i ba beth ? 42