Skip to main content

Y DIWYGIWE. Rhjf. 144.] GORPHENAF, 1847. [Cyf. XII. GONESTRWYDD. GAN Y PARCH. PHILLIP GRIFFITHS, ALLTWEN. Gwirionedd Dwyfol yw fod yr Holl- alluog, meddianydd nefoedd a daear, wedi rhoi y byd hwn, neu'r greadigaeth isod, i feibion dynion i'w phreswylio, ei darostwng, ei thrafod, a'i mheddianu; a'i fod wedi rhanu golud a chyfoeth y byd yma, yn ol ei ewyllys ei hun, i'r neb a welodd ef yn dda. Hefyd, mae wedi gosod a threfnu fod y naill ddyn yn pwyso ac yn trafod pethau y llall—y naill genedl i ymwneyd à phethau cenedl arall—brenin i ymwneyd â phethau'r deiliaid, a'r deiliaid â phethau y brenin —y cyfoethog â'r tlawd, a'r tlawd â'r cyfoethog—y meistri â'r gweision, a'r gweision â'r meistri—y gweithiwr â pherchen y gwaith. Mae pob dyn a f'edd y byd hwn yn ymwneyd, mewn rhyw drafodaeth neu gilydd, â phethau dynion ereill; a diau fod y cMbl yn ddoeth, trefnus, ac arddcrchog yn eu gosodiad, er gogoniant i'r Llywydd mawr, a chysur i'r rhai a lywyddir. Oblegid, pa ddyn a all wneyd pob peth sydd eisieu arno ei hun, neu drafod ei nwyfau ei hun, heb gymhorth neb arall ? Pwy all sicrhau ei íeddianau ei hun—adeiladu ei dŷ—Uunio ei ddodrefn—gwneyd ei ddillad—aredig ei faes—medi ei gyn- hauaf—malu ei lafur—gweithio ei fara:— darparu ei ymborth—bugeilio ei braidd —lladd ei anifeiliaid, a chyrchu pob nwyfau y mae yn ei ddefnyddio o wahanol fanau y greadigaeth P Neb. Ond mae'r un sydd uwch nâ'r uwchaf, wedi gosod y naill ar gyfer y llall, fel ag y mae'r cwbl yn myned yn mlaen yn brydferth yn y gymdeithas ddynol. Yn mhellach, mae'r un Bôd goruchel wedi rhoddi rheol i'r byd wrth yr hon y maent i ymddwyn pan yn ymdrafod â nwyfau y naill y llall: sef ei air santaidd, neu ei gyfreithiau glân, y ddeddf foesol, a'r efengyl—holl air y gwirionedd. Dywed hwn o barth i hyn, " Gwnewch i ereili megyç? yr ewjdlysiwch i ereill wneyd i chwithau." Dyma'r rheol auraidd a roddodd Duw i ni i rodio ynddi, gan garu ein gilydd fel ni ein hunain, a rhoddi " yr eiddo Cassar i Caesar, a'r eiddo Duw i Dduw," heb gymaint â thrach- wantu dim a feddai ein cymydog; a dyma yw system fawr y gyfraith a'r pro- ffwydi. Ond blin yw adrodd, nad yw meibion Adda, mwy nag yntau, wedi bod nac yn bod, wrth drafod nwyfau ereill, yn gyfiawn ac yn onest. Bod yn onest, feddyliwyf, ywbod yn gyfiawn ac uniawn yn ein hegwyddorion, ein geiriau, a'n hymddygiadau. Ond gellir meddwl, a meddwì yn sicr, fod dynion o dan y cwymp heb egwyddorion gonest o'u mewn. Mae lle mawr i gasglu, fod siampl ac arferiad wedi gwneycl i lawer fod yn anonest; ond meddyliwyf fod calon dyn o duedd feliy at Dduw a'i bethau, ac at ei gyd-greadur hefyd; mae hadau pob drwg yn nghalon pob dyn, ond mae gwahanol ffrydiau drwg yn llifo allan o honi trwy ymarferiadau: arferir un i feddwi, y llall i regu, y llall i ymladd, a'r llall i ladrata, a bod yn an- onest; a thrwy rym yr arferiad daw allan o'i galon brif ffrwd o lygredd, fel y gellir casglu, ar yr olwg gyntaf, fod gwahaniaeth rhwng tueddiadau calonau dynion a'u gilydd, pan nad oes dim ond mynych rediad allan yduedd lygredig trwy arferiad, nes ydyw megys cornant gref yn llifo yn orwyllt mewn ymddygiadau. Mae lluoedd o bethau wedi achlysuru dynion i fod }Ti anonest trwy siampl: megya 26