Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rh/f. 141.] EBPJLL, 1847. [Cyf. XII. DYLANWAD GWEDDl. GAN Y PARCH. JÛHN EVANS, MAENDY. Gwir wedclio, yw yr enaicì yn siarad â Duw, trwy yr hyn y mae y pechadur yn tywallt ei galon gerbron Duw, adrodd ei holl achos wrtho, cyffesu ei holl bechod o'i flaen, erfyn ei fendithion, a thalu diolch am ei ddoniau a'i drugareddau, gan gydnabod ei fawredd a'i uwchafiaeth. Gorchymynir i ni weddio, ymbil, deisyf, a thalu diolch dros bob dyn. yn mhob man, gan ddymuno eu hiachawdwriaeth; canys hyn sydd dda a chymeradwy ger- bron Duw, yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig, a'u dyfod i wybodaeth y gwirionedd. Mae gweddi gwedi ei gosod gan Dduw yn gyfrwng i gyfranu bendithion trwyddo i ni, o herwydd rhoddodd addewidion aml a gwerthfawr i weddio am y pethau a berthyn i'r byd hwn, a'r byd a ddaw, tymorol ac ysbrydol; a gwnaeth bethau mawrion i ateb gweddi. Mae gweddi yn foddion gras i'w harferyd genym er effeithio yn grefyddol arnom ein hun- ain, ac ereill. Mae dylanwad cryf yn ysbryd gweddi, a'r aml a chyson ymàr- ìeriad o honi a effeithia yn ëang a da ar yr holl gysylltiad—ar amgylchiadau y bywyd hwn—ar grefydd bersonol—ar y byd digrefydd—ac ar eglwys Dduw a llwydd crefydd. I. Dylanwad gweddi ar amgylchiadau y bywyd hwn. Ceir cyfarwyddyd mewn gweddi i fyned trwÿr byd ar hyd llwybrau rhag- luniaeth.—"Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau." Cawn ein tueddu a'n harwain mewn gweddi at y galwedigaethau, i'r sefyllfaoedd, ac ar nyd yr amgylchiadau y gwna y nef- oedd ein bendithio ynddynt. Dylai yr holl amgylchiadau bydol a'r gorchwyl- ion daearol fod yn destunau y gweddiau taeraf j felly yn ddiau caid líai o siom- edigaethau ynddynt, a gofidiau gycla hwynt, a mwy o fwynhad ynddynt. Ceisiodd gwas Abraham gyfarwyddyd gan Dduw wrth ymofyn gwraig i Isaac, a llwyddodd. Goíynodd Solomon ddoeth- ineb i lywodraethu Israel fel brenin; cafodd hyny, a chyfoeth hefyd. Ceir tricy weddi fendith Duw ar bethau y byd.—Mae pethau a chyfoeth y byd hwn weithiau yn felldith i'w per- chenog; ond bendith yr Arglwydd a gyfoethoga, ac ni ddwrg flinder gyda hi. Gwell yw yr ychydig, dan fenditìi Duw, sydd gan y cyfiawn, nâ mawr olud an- nuwiolion lawer; canys cyfoeth y cyf- oethog ni âd iddo gysgu, ond rhodd Duw yw i ddyn fwynhau o ffrwyth eí lafur. Gall pethau goreu rhagluniaeth fod o niwed heb fendith Duw amynt, ac aflwydd gyda phethau cyfreithlon heb ei lwydd ef; canys os yr Ârglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeilad- wyr wrtho ; os yr Árglwydd ni cheidw^ y I ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. Ceis- iwn fendith ar bob peth, ac yn mhob dim diolchwn. Ceidw gweddi ni rhag cam-arfer y byd, yn foddlon yn ei ofidiau, ac yn ddyogel rhag ei ddrygau,—Cwrddwn i gofidiau, ac y mae perygl suddo danynt, a grwgnach ynddynt. Tueddòl ydym i ddiystyru y byd ac afradloni ei bethau, neu yn hŷtrach ei garu yn ormodol, rhoi ein caìon arno, ac ymrwystro gyda. negeseuau y bywyd hwn; ond mewn gweddi cawn roddi ein hachos i law Duw, a lledu ein cwynion ger ei fron, nes cael ein hysbryd yn dawel \ti mhob sefyllfa. Wrth gymdeithasu â Duw wrth orsedd gras, sefydlir ein serchiadau yn fwy ar y pethau ni welir, nac ar y pethau a welir. Yr aderyn sydd yn ehedeg uwchaf sydd ddyogelaf rhag y 14 '- .'., ///,-...