Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 286.] GORPHENAF, 1859. LCyf. Xxín~~ CYFRAITH MAINE. GAN Y PARCH. E. JACOB, ABERTAWE Yn hynod raddol y mae gwahanol welîiantau yn cael eu darganfod, ac arol eu darganfod, yn cael eu dwyn i ymarferiad. Ugain mlynedd yn ol, bernid fod diodydd meddwol yn llesiol, ac mai aberth oedd ymadael â hwynt; ond gwnai Uawer y fath aberth ar yr egwyddor ardderchog o hunanymwadiad er mwyn y meddwon. Ond wedi i gynifer gael blyneddau o brawf, aethant yn dra naturiol i haeru nad oedd dim Ues yn y diodydd hyn, ond mai twyll hollol oeddynt: bod dynion yn medru cyflawni pob math o waith, ar bob tywydd, ac yn mhob rhan o'r byd, ar dir a môr, hebddynt, yn llawer gwell na phan yr arferent hwynt. Parodd hyn i ddynion dyngarol edrych yn fanylach i'r achos, a chynyg gwobrwyon mawrion am y Traethodau goreu ar effeithiau y diodydd hyn ar y cyfansoddiad. Dygodd hyn rai o'r Medd- ygon penaf i'r maes, ac yn eu piith Dr. Carpenter, (yn marn rhai meddyg- on,) yr awdurdod uchelaf yn yr oes hon. Pan ddenwyd ei sylw at y pwnc hwn, yr oedd y gŵr dysgedig hwn, fel ereill, yn barnu fod llawer o ddaioni yn y diodydd y soniwn am danynt. Ond wrth chwilio, dygwyddodd iddo, fel yr anffyddiwr a fwriadai ysgrifenu yn erbyn Crislionogaeth, ond yn lle hyny, ysgrifenodd o'iphlaid. Canfyddodd Dr. C, nid yn unig nad oedd yn dda fel diod gyffredin, ond ei bod yn hollol niweidiol, yn gymaint felly, fel nad ellir mwynhau iechyd perffaitli tra byddo unrhyw gŷfran o'r ddiod hon yti y cyfansoddiad ; a bod natur yn gwneuthur ei goreu er cael gwared o'i heffeith- iau mor fuan ag y byddo modd. Meddyg enwog arall (Dr. Mc'Culoch) a ddywed nad oes un meddyg na fferyllydd yn y byd ag sydd wedi astudio j pwnc, a feiddia ddywedyd fod y diodydd hyn yn llesiol i'r cyfansoddiad. Mae rhai meddygon wedi bod mor onest a diolch i ddirwestwyr am ddargan- fod ffaith mor bwysig yn y wybodaeth hon. Darganfyddiad pwysig arall yw, profi ei fod o fewn terfynau y llywodr- aeth Wladol i osod attalfa ar fasnachu mewn pethau meddwol. Bod hawl gan y Llywodraeth sydd yn awr yn attal y rhan amlaf o ddynion o lawer rhag masnachu yn y diodydd hyn, ac yn y rhan amlaf o fanau, ac hefyd ar f8* amserau yn attal y cyfryw ag arydd awdurdod iddynti werthu y pethau hyn: bod hawl, meddaf, ganddi i attal pawb yn mhob man, ac ar bob amser. Ac un elfen werthfawr yn ymyraeth y Llywodraeth à'x fasnach hon, fel ; 'lawer o bethau ereill ydyw, yr olwg ganiataol, neu o|^efol, ar ba un y gweithredt (Permissive). Nis gall neb sydd yn deall y pwnc nwn, (oddi- gerth dynion yn y fasnach, a gormeswyr) lai na'i bleidio, am nad ydyw odim anjgen nag helaethiad rhyddid y deüiaid, §ef trosglwyddo awdurdod sydd yn bresenol yn llawyr bedd-ynadon, (yehydig orrifedi no anghyfrifoi i neb am eu gweithrediadau) i iajf dwy ^ran o dair o'r treth-dalwyr raéwn