Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. TACHWEDD, 1909. DYLÄNWÄD DYSGEIDIÄBTH IDDEWIG ÄR FEDDWL PÄÜL. GAN Y PAECH. M. P. MOSES, LIBANUS,- BEYCHEINIOG. AE un ystyr, Paul yw y mwyaf an-Iddewig o'r holl apostolion; gwnai eangfrydedd ei ysbryd ef yií ddyn gwahanol i'w genedl, a gwahaniaethai ef oddiwrth yr apostolion oll. Dygai yr eangfrydedd hwn ef i.wrth-„. darawiad a'i gydgenedl, ddymunent wneud eu gẃláçl, yn brif-wlad, Jerusalem yn ganolfan pob braint a bendith, a phob oènedl dan eu iau hwy; cynllwynent am ei fywyd e.f yn amlach nag* am fywyd yr un apostol arall; cafodd yn mhlith ei wrfchwynebwyr mwyaf pendant a phenboeth yr Iddewon .credin- iolyn yr'eglwysi, y rhai a ymlynent wrth ddefod ac arfer yr hen grefydd; megys iorwg wrth bren. Câi y gau-athrawon Iddeẁig' bröfíésent?r Gristionogaeth, ac a ddilynent Paul o fan i fan, gan geisio dirymu ei apostolaeth ef a'i Efengyl ef, ddilynwyr lawer. yn yr eglwysi. Hawdd oedd cael dilynwyr yn erbyn y dyn gredid oedd yn myned yn erbyn traddodiadau a defodau mwyaf anẁyl a chysegredig y genedl. Torodd Paul lythyren Iddewiaeth yn gynt na'r un apostol arall;-mewn gair, torodd hi ar unwaith—llamodd o hualau Iddew- iaeth i ryddid yr Efengyl: gosodai yr holl bwys ar yr ysbryd, ac nid ar y lythyren. Gyda mesur o amheuaeth am beth; amser yr . edrychai hyd yn nod yr eglwys oedd yn Jerusalem arno, er mor; ddoeth a gochelgar oedd yn ei symudiadau, a goddefgar at . Iddewon dybient y dylent gadw at seremoni yr hen grefydd. Edrychai yr eglwys yn Jerusalem ar y cyntaf ar Iago, brawd yr Arglwydd, fel ei llywydd: ar Gristionogaeth fel Iddewiaeth mewn fîurf berffeithiach ac ysbrydolach; ac felly tybient fod defodau yr hen grefydd yn rhwymedig ar bawb, Cenhedloedd ac Iddewon.