Skip to main content

Y DIWYGIWR. HYDREF, 1909. Enwogion Gwlad Myrddin. GAN Y PARCH. D. LEWIS, LLANELLI. II. JOHN DYER, y bardd Seisnig, a anwyd yn mhalasdy Aberglas- ney, ger Llandeilo, yn y flwyddyn 1700. Mab oedd i gyf- reithiwr o'r enw Robert Dyer. Derbyniodd ran o'i addysg foreuol yn ysgol Westminster,dan athraw o'r enw Dr. Friend, gyda'r bwriad o'i ddwyn yntau i fyny yn y gyfraitb. Pan fu farw ei dad, rhoddodd y syniad am fyned yn gyfreithiwr i fyny, gan fod gogwyddiad cryf yn ei feddwl tuag at arluniaeth a llenyddiaeth. Bu yn astudio y gelfyddyd o arlunio dan feistr enwog o'r enw Rich- ardson. Cyrhaeddodd ragoriaeth uchel yn y gelfyddyd. Ond nid fel arlunydd y mae ei enw yn adnabyddus Priododd foneddiges o'r enw Ensor,mamgu yr hon a ddisgynasai o linach brawd i William Shakespeare. Bu iddo un mab a thair o ferched. Ceisi odd urdd- au eglwysig. Yn 1741 derbyniodd fywiolaeth Calthrop, Swydd Leicester, gwerth £80 y flwyddyn. Wedi hyny, bywiolaeth Belch- ford. Swydd Lîncoln, gwerth £75. Yn 1751, drwy Syr John Heathcote,cafodd fywiolaeth Conniugsby, gwerth £140 ; ac yn fuan, yn ychwanegol at Conningsby,cafodd fywiolaeth Kirby,gwerth£110. í)nd achwynai fod adgyweiriadau ei dy yn Conningsby, yn nghyda threuliau ereill, yn llyncu ei gyflog i gyd. Ond nid fel offeiriad, ychwaith, y mae Dyer yn enwog, ond íel bardd. Nid yw ei gyfan- soddiadau ond ychydig mewn rhif, ond y maent yn ddigymar mewn purdeb chwaeth, melodedd, a swyn barddonol. Gem ei holl weith- iau yw ei gân, " Grongar Éill"—caniad o tua 150 o linellau—yr hon a restrir hefyd yn mhlith prif geinion barddoniaeth Seisnig. Ymddangosodd gyntaf mewn cylchgrawn o'renw'Lewns' Miseellany,' yn 1727. Cyfieithwyd hi yn gampus i'r Gymraeg gan Gwilym Teilo. Cyhoeddodd ' Ruins of Rome' yn 1740 ; a'i ganiad hwyaf, * The Fleece,' yn 1757. Y mae ei ddarluniau o olygfeydd Natur wedi eu tynu yn dda, a'u Uiwio yn brydferth. Canmolai Words- worth ei ddychymyg, a phurdeb ei arddull yn fawr. Sail ei en* wogrwydd yw Orongar HüV Bu farw Gorph. 24ain; 1758. E* yn enedigol o Sir Gaerfyrddin, nid oedd yn Gymro, ond y mae i'ẃ enw a'i weithiau le cynes yn mysg llenorion Cymreig. íhomae Édwards, (Twm o'r Nant), cerfiedydd (setdptor) wrth ei alwedigaeth, oedd Ogleddwr a brodor o Sir Ddinbych,ond treuliodd