Skip to main content

Y DIWYGIWR. MEDI, 1909. Enwogion Gwlad Myrddin. GAN Y PARCH. D. LEWIS, LLANELLI. I. Gwlad Myrddin aml ei rhiniau,—bro swynol Bras waenydd a bryniau ; Enwog wŷr yma fu'n gwau Yn rl^fedd, drwy'r canrifau. NODWEDDIR Sir Gaerfyrddin fel y fwyaf yn Nghymru ; a ganwyd ynddi ddynion mawr, rhai o honynt y dynion mwyaf welodd Cymru. Y raae yn Sir gyfoethog mewn glo a mwnau, a gwaddolwyd hi â gwythieni aur acarian. Nodweddir rhanau o honi gan brydferthion anianyddol diail. Y mae ceinder Natur yn Nyffryn Tywi yn baradwysaidd, heb fod yn ol mewn dim i ddyffrynoedd swynol y Clwyd a'r Gonwy. Ond prif ogoniant y Sir yw y dynion o fri a anwyd ac a fagwyd o'i mewn. Ganwyd ynddi enwogion milwrol, gwleidyddol. a masnachol : enwogion mewn celfyddyd, llenyddiaeth a chrefydd ; at ychydig o ba rai (heb drefn fanwl) y cyfeirir sylw, gyda chryb- wylliadau achlysurol at ereill, nad oeddent yn enedigol o'r Sir, ond a wnaethant eu cartref am ryw ysbaid o'u bywyd o'i mewn. Myrddin Emrys (yr hwn sydd i'w wahaniaethu oddiwrth Myrddin Wyllt, mab Madog Morfryn, yn y chweched ganrif), a anwyd yn nhref Caerfyrddin yn y bumed ganrif. Yr oedd yn wr dysgedig, yn fardd enwog, ac yn un a ystyrid yn broffwyd mawr. Dywedir fod amryw o'i rag-ddywediadau wedi dyfod i ben. Parai rhai o'i ddaroganau lawer o bryder a phoen meddwl i'r werin hy- goelus ; gymaint felly, fel y penderjjynwyd yn Nghymanfa Trent, yn yr unfed-ganrif-ar-bymtheg, i anfon gorchymyn allan yn gwa- nardd eu darlleniad. Tybia rhai i'r dref gael eu henwi oddiwrtho ef, fel Ty Ddewi oddiwrth Dewi Sant ; Caerfyrddin, caer neu ddi- nas Myrddin. Nid felly, y peth tebycaf yw i'r proffwyd neu'r dewin gael ei enw oddiwrth y dref. Dywed rhai mai gair cyfansawdd yẁ