Skip to main content

Y DIWYGIWR. EBRILL, 1909. PA BETH DDYWED YR EGLWYSI AM Y MYFYRWYR. (Parhad) GAN Y PARCH. D. G. WILLIAMS, ST. CLEARS. Clywaf weithiau y gymeradwyaeth, "Dyna fachgen a llais iawn ganddo." Yn awr nid wyf fi yn ddim awdurdod ar lais; yn yr athrofa hon y codwyd fì, a chawsai y llais mor lieied o sylw a iaith. Colli ei lais y byddai y Proffeswr Morgan pan yn myned i hwyl; ac äi Dr. Vance Smith yn isel iawn ei don pan godai ei deimlad, a phan glywch chwi y Proffeswr Jones yn gwaeddi'n ofnadwy, gellwch deimlo'n sicr ei fod ar gael ei symud o'r athrofa yma i'r coleg mawr ar ochr orllewinol y dref. Y tebygolrwydd yw pan adroddir fod gan un lais ardderchog ei fod wedi gwneud tipyn yn ormod o ddefnydd o hono mewn gwaed oer, neu fod pobpeth yn wan ond y llais. Os gellwch chwi waeddi, gwaeddwch os byddwch yn teimlo'n angerddol; ond os mai gwaeddi fel peiriant a wnewch, y tebygolrwydd yw y bydd raid i chwi ymfoddloni ar gymeradwyaeth i'ch llais. Y mae y llais mwyaf aflafar yn meddu rhyw gymaint o swyn pan fydd teimlad. angerddol yn ei gynhyrfu, ond gwell genyf fì heb glywed y llais mwyaf soniarus yn y pulpud pan na fydd ond efydd yn seinio a symfoal yn tincian. Credaf fod myfyrwyr Cymru yn ymryddhau'n gyfiym o'r ffolineb hwn. Clywaf weithiau, "Yr oedd genym fachgen dysgedig y Sul diweddaf." Cymeradwyaeth amwys yn gyffredin i mi yw hon hefyd. Rhagorol o beth yw cael dysg ar gyfer y pul- pud; ond y mae y gwir ddysgedig yn rhyfeddoî o lwyddianus gan amlaf pan yn pregethu i gadw ei ddysg rha.g dangos ei hun. Bydd yn yr cll, a than y cwbl, a thucefn i'r cyfan, ond heb fawr perygl i'r gwrandawr cyffredin ei gweled na son gair am dani. Y mae yr un peth yn wir i raddau am y dywediad a glywn am ambell un "Ei f od wedi darllen ìlawer/' Nid yr un sydd wedi dar- llen Uawer i bwrpas yw yr un tebycaf o dynu y sylw oddiwrth y gwrandawr cyffredin ei fod wedi darilen llawer. Qnd cymeradwy-