Skip to main content

Y DIWYGIWR. MAWRTH, 1909. MAESYFED. GAN Y PARCH. M. P. MOSES, LIBANÜS, BRYCHEINIOG. Gwnaed Maesyfed yn sir yn nhymor breniniaeth Harri'r VIII., yr un pryd ag y gwnaed Dinbych, Maldwyn, Brycheiniog a Mynwy. Gwnaed ranau gorllewinol Cÿmru o afon Gonwy i afon Tÿwi ) n siroedd fwy na dau can mlynedd eyn hyny, yn adeg Iorwerth I. Gorphenwyd gwneud Cymru yn siroedd yn 1536, a chafodd 'nawr y fraint a'r awdurdod o anfon cynrychiolwyr i'r Senedd. Gwiicir Sir Maesyfed i fyny o ddwy diriogaeth y llwythau Cÿmre g, Melenydd ac Elvel. Buodd y ddau lwyth mewn brwydr hir am y morfeydd a rhedegfeydd y defaid ar Pumlummon; ond gwelwyd dydd eu huniad. Pan rhanwyd tiriogaethau Arglwyddi y Goror yn siroedd yn adeg Harri'r VIII., nid Clawdd Offa benderfynai y terfyn, ac nid iaith ychwaith na chenedl. Gallai fod ymgais i ddilyn ffin Oawdd Offa ac i wneud y mynyddoedd yn derfyn Cÿmru; ond pan yn gwneud y Uinell derfyn rhaid hefyd oedd cymeryd i ystyriaeth diriogaethau man Arglwyddi y Goror; ac felly gosodwyd am'bell ranbarth Seisnig i fewn yn Nghymru, a gosodwyd ambell ranbarth Gymreig gyda Lloegr; felly gosodwyd Mynwy gyda Lloegr, er yn y canol-oesoedd fe ganai Dafydd ap Gwilym gymaint 0 glod i Sir Fynwy a Sir Forganwg. Gosodwyd tref Amwythig gyda Lioegr, er yn adeg y Tuduriaid, yr oedd mwy na haner ei thrigolion yn siarad Cymraeg, a hi oedd marchnadfa ganolog Cymru. Bu gan Gaer yn y Gogledd ddylanwad mawr ar y Gog- ledd, ond gosodwyd Caer gyda Lloegr; bu Henffordd a dylanwad mawr ar y Deheudir, ac y mae siarter ei drefi wedi ei ffurfio yn 01 siarter dinas Henffordd. Siarter dinas Henffordd oedd y 'model.- Nid yw y rhaniad sirol ychwaith yr un fath a'r rhaniad Eglwysig;, y mae Esgobaeth Llan *f yn cynwys Sir Fynwy; y mae Croesos- wallt yn perthyn i esgObaeth Llanelwy; a chredwn er nad ydym yn hollol sicr, fod rhan o Faesyfedyn Esgöbaeth Tyddewi, a'r rhan ddwyreiniol o'^sir yn Esgobaeth Henffordd, Gwelwn mai rhairiad