Skip to main content

Y DIWYGIWR. CHWEFROR, 1909. YR EGLWYS AR Y CYCHWYN. (Gan y Parch. R. Thomäs, Glandwr.) BU y cri, " Yn ol at Grist," yn gri tra phoblogaidd beth amser yn ol; ac y mae'n ddiau iddo brofi yn efíeithiol i arwain aml un yn ol at Grist yr hanes, er cywiro eu syn- iadau am Grist y profiad. Oni ddylai y cri, " Yn ol at yr eglwys," gael ei godi eto? Os gwir mai gerllaw i'r ffynon y ceir y dyfroedd lanaf, ai nid ar y cychwyn; a chydag ymddangosiad eyntaf yr Eglwys Gristionogol, y gwelir yn fwyaf clir, ac i'r fan- tais oreu, yr egwyddorion a'r yspryd sydd i lywodraethu gwaith a bywyd yr eglwys yn mhob oes ac yn mhob gwlad? Nid y bobl sydd yn anwybyddu ac yn anghofio'r gorphenol yw y rhai sy'n gwybod oreu pa ddefnydd i'w wneud o'r presenol, na pha fodd i symud ymlaen i'r dyfodol. Y mae a fyno doe lawer â heddyw, a bydd a fyno heddyw lawer ag yfory. Y mae y fath olyniaeth a'r fath hanes yn perthyn i fywyd, fel nas gall y sawl a anwybyddant y gorphenol, ag sydd mor llawn o'r dyddorol a'r addysgiadol, lai na bod yn golledwyr. Beth, gan hyny, am hanes eychwynol yr Eglwys Gristionogol ? Yrn fîodus, nid oes angen am i ni fyned i geisio dyfalu neu ddych- ymygu sut y bu yn y mater hwn, gan fod cryn lawer o'r hanes wedi cael ei ddiogelu i ni. Wedi esgyniad yr Iesu i'r Ddeheulaw, a thywalltiad yr Yspryd Glân ar y Pentecost, y gwelir yr eglwys yn ymgodi ac yn ymfîurfio. Nid ydym yn anghofio y chwech ugain, a'u cwrdd gweddi yn yr oruwch-ystafell, cyn y Pentecost; ond prin y gellir cyfrif y cydgyfarfyddiad hwnw yn eglwys, gan nad oeddynt eto wedi derbyn yr Yspryd Glân yn yr helaethi-^ydd o hono, yn ol yr addewid. Yr oedd yr eglwys, o ran ei defnydd- iau, yn barod cyn y Pentecost, a llawer o drwsio a chaboli wedi bod ar lawer o'r meini dan weinidogaeth berson■:'■ y Gware'dwr;